Helena Williams - Monlife - Page 5

Ymwelydd â chanolfan hamdden Cil-y-coed yn dychwelyd i ddiolch i’r rhai a helpodd i achub ei fywyd!

Dychwelodd ymwelydd i ganolfan hamdden Cil-y-Coed yn ddiweddar i ddiolch i staff y ganolfan am eu hymateb cyflym, pan ddioddefodd argyfwng meddygol allai fod yn angheuol yn gynharach yn y flwyddyn. Cafodd Alan Owen o Gaerfyrddin trawiad ar y galon tra roedd mewn Twrnamaint Pêl-droed Cerdded yn y ganolfan hamdden ar ddydd Sul 3ydd Ebrill 2022.

Mae ymyrraeth uniongyrchol staff a chwaraewyr yn y digwyddiad yn cael ei gredydu am achub ei fywyd.  Cafodd Alan Adfywio Cardio-pwlmonaidd a defnyddiwyd diffibriliwr, cyn i Alan gael ei gludo mewn awyren i Ysbyty’r Mynydd Bychan, Caerdydd, lle cafodd lawdriniaeth i gael diffibriliwr cardioverter wedi’i fewnblannu ac i osod stentiau.

Alan Owen gyda chydweithiwr MonLife. Helpodd eu gweithredoedd cyflym a'u hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd i achub ei fywyd ym mis Ebrill 2022
Alan Owen gyda chydweithiwr MonLife. Helpodd eu gweithredoedd cyflym a’u hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd i achub ei fywyd ym mis Ebrill 2022

Yn ystod ymweliad ag Alan â chanolfan hamdden Cil-y-coed fis diwethaf, cyfarfu â Kirsty Burnett, Briden Whitbread a’r Swyddog Dyletswydd Justin Aylett, i ddiolch iddynt am eu gweithredoedd achub bywyd.  Roedd holl staff y ganolfan hamdden wrth eu bodd yn gweld Alan yn edrych mor dda. 

Mae gan holl ganolfannau hamdden MonLife ar draws Sir Fynwy hyfforddiant misol i bob Achubwr Bywyd o ran Adfywio Cardio-pwlmonaidd, a defnyddio’r peiriannau diffibriliwr, i sicrhau eu bod yn barod pe bai argyfwng meddygol yn digwydd

Y Cynghorydd Dywedodd Sara Burch, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar: “Rwyf mor falch o’n cydweithwyr yng nghanolfan hamdden Cil-y-coed am eu hymyrraeth gyflym, a hebddo gallai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn. Mae wir yn dangos y pwysigrwydd o gael hyfforddiant o ran Adfywio Cardio-pwlmonaidd a’r defnydd o ddiffibrilwyr. Rwy’n falch iawn o weld Alan wedi gwella mor dda a diolch iddo am ei garedigrwydd wrth ddod yn ôl i ymweld â Kirsty, Briden a Justin, a gweddill y tîm yng Nghil-y-coed.”

Meddai Alan Owen:  “Heb ymyrraeth gynnar y chwaraewyr a’r staff a wnaeth berfformio Adfywio Cardio-pwlmonaidd a gweinyddu tair sioc trwy’r diffibriliwr ar y safle, fyddwn i ddim yn fyw heddiw. Roedd yr hyfforddiant y gwnaeth y staff ymgymryd ag ef a’i roi ar waith ar y diwrnod hwnnw wedi cyfrannu at achub fy mywyd.”

Mae hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, a gall unrhyw un ei ddysgu. Mae gwefan Sefydliad Prydeinig y Galon yn cynnwys cyflwyniad defnyddiol i’r pethau sylfaenol: www.bhf.org.uk/how-you-can-help/how-to-save-a-life


Mae prosiectau Gwent gyfan yn dod yn ail yng Ngwobrau’r Sefydliad Tirwedd

Roedd Natur Wyllt Gwent a Thîm Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent wedi mynychu Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd ar 24ain Tachwedd. 

Roedd y tîm yn ail yn y ddau gategori lle’r oeddynt ar y rhestr fer, a hynny ymhlith nifer o geisiadau cenedlaethol a rhanbarthol.  Y categori cyntaf oedd Ardderchowgrwydd mewn Cadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth  ar gyfer un o brosiectau Natur Wyllt a’r ail gategori oedd Partneriaeth a Chydweithredu  a oedd yn cydnabod gwaith eithriadol a wnaed i’r tirwedd fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent.  

Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd yw un o’r digwyddiadau mwyaf yn y diwydiant, sy’n dathlu pobl, lle a natur, a’r nifer o ffyrdd y gall prosiectau tirwedd eu cydgysylltu. Mae’n dathlu gofodau y gall pobl fod yn wirioneddol falch ohonynt, a bu cyfanswm o dros 200 o geisiadau eleni, gan gynnwys 53 gan gystadleuwyr rhyngwladol.

Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yn gydweithrediad rhanbarthol arloesol newydd sy’n ceisio gwella a datblygu “Seilwaith Gwyrdd”; term a ddefnyddir i ddisgrifio’r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol a mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n plethu a chysylltu ein pentrefi, trefi a dinasoedd yn ogystal â helpu i gefnogi cyfleoedd am swyddi o fewn yr ardal. Mae gan Seilwaith Gwyrdd rôl hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â natur, newid yn yr hinsawdd, iechyd ac argyfyngau economaidd.

Mae’r prosiect Natur Wyllt yn sefydlu gwaith rheoli mannau gwyrdd cydgysylltiedig i greu cynefinoedd pryfed peillio llawn blodau gwyllt ar draws ardaloedd awdurdodau lleol Gwent – Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen – fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent.  Mae Natur Wyllt yn ceisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd peillwyr, y camau y gallwn i gyd eu cymryd i’w cefnogi, a sut y gall y rhain gael effaith gadarnhaol ar faterion pwysig eraill megis lleihau’r dirywiad mewn bywyd gwyllt a lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd,: “Rydym yn gyffrous iawn bod Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent a phrosiect Natur Wyllt wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd yn Llundain, gan gael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu ar raddfa genedlaethol. Mae’r ddau ddull yn hanfodol wrth ddiogelu a gwella ein tirweddau arbennig, datblygu seilwaith gwyrdd a helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a heriau newid yn yr hinsawdd. Rydym yn ffodus o allu gweithio gyda gweithwyr sydd mor broffesiynol ac mor ardderchog, yn ogystal â thirwedd mor syfrdanol.”

Cefnogir y prosiectau hyn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig:  Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig, ac fe’i darperir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru.

Os hoffech chi gael gwybod mwy am beth mae’r prosiectau hyn yn ei wneud, yna dilynwch y dolenni hyn:

Partneriaeth Grid Gwyrdd GwentPartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent – MonLife

Natur Wyllt Natur Wyllt – Sir Fynwy


Astudiaeth achos: Datblygu llwybrau Teithio Llesol newydd yng Nghil-y-coed

Amcan:

Mae Cyngor Sir Fynwy yn mynd ati i wella’r rhwydwaith cerdded a beicio lleol o gwmpas dwyrain Cil-y-coed, Crug a Phorth Sgiwed i wneud teithio llesol yn fwy hygyrch, yn fwy pleserus ac yn fwy diogel i’r gymuned gyfan.


Gweithredu:

Datblygwyd dwy ran o lwybr rhyng-gysylltiedig: un drwy Barc Gwledig Castell Cil-y-coed (Llwybr Aml-ddefnyddwyr Cil-y-coed sy’n 1 cilomedr o hyd) ac un ar hyd hen reilffordd y Weinyddiaeth Amddiffyn, sydd bellach yn segur, o Borth Sgiwed i Grug, sy’n rhedeg ochr yn ochr â pharc gwledig y castell ac Ystâd Ddiwydiannol Pont Hafren (Cysylltiadau Cil-y-coed sydd bron yn 3 cilomedr o hyd).

Fel rhan o ddatblygu’r prosiect, cynhaliwyd ymgynghoriad gan randdeiliaid drwy gysylltu â dros 200 o bobl mewn sesiynau ymgysylltu byw, gweithio gyda disgyblion a staff o ddwy ysgol leol, sefydlu tudalen we prosiect yn gwahodd adborth, anfon llythyrau a phosteri yn lleol a chynnal cyfarfodydd rhanddeiliaid ar-lein.


Canlyniadau:

Dangosodd y canlyniadau gefnogaeth leol sylweddol i’r cynigion, gan arwain at rannu dros 800 o syniadau gyda ni i’w hystyried yn y dyluniad manwl.

Cynnydd presennol (fel ym mis Gorffennaf 2022):

  • Cam 1 Cysylltiadau Cil-y-coed (rhan ddeheuol, islaw parc gwledig y castell) – cafodd ystod eang o arolygon ac asesiadau eu cwblhau, mae’r hen reilffordd wedi’i chymryd i ffwrdd, yn gwneud cais am ganiatâd ar hyn o bryd, cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer gwaith adeiladu erbyn mis Mawrth 2023 (yn amodol ar ganiatâd sydd ar waith).
  • Llwybr Aml-ddefnyddwyr Cil-y-coed a Chamau Cysylltiadau 2 a 3 – Mae arolygon tir ac ecolegol pellach ac asesiadau a datblygiadau dylunio ar y gweill, gan weithio hyd at wneud cais am bob caniatâd.


Astudiaeth achos: Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent

Amcan:

Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent (PGGG) yn brosiect tair blynedd sy’n rhedeg o fis Mawrth 2020 i fis Mawrth 2023. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys pum Awdurdod Lleol Gwent (Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd a Thorfaen), yn ogystal â Chyfoeth Naturiol Cymru, Forest Research ac Asiantaeth Ynni Hafren Gwy.

Nod y Bartneriaeth GGG yw gwella a datblygu seilwaith gwyrdd – term a ddefnyddir i ddisgrifio’r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n cyd-fynd ac yn cysylltu pentrefi, trefi a dinasoedd – yn ogystal â darparu cyfleoedd gwaith gwyrdd yn yr ardal. Mae gan seilwaith gwyrdd rôl hanfodol i’w chwarae o ran mynd i’r afael â natur, newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau iechyd.


Gweithredu:

Mae Partneriaeth GGG yn cyflawni ar draws pum ffrwd waith:

Ffrwd Waith 1: Strategaeth a Phartneriaeth Seilwaith Gwyrdd Rhanbarthol:

Mae’r PGGG yn dangos ffordd arloesol o gydweithio i gyflawni canlyniadau strategol a lleol i ddarparu dull rhanbarthol o ymdrin â Seilwaith Gwyrdd (SG) yng Ngwent.

Ffrwd Waith 2: Coridorau Gwyrdd Gwent

Bydd edrych ar faterion mynediad ar raddfa ranbarthol yn cefnogi arferion gorau ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni gweithiau’r tir yn lleol ac yn rhanbarthol.  Mae pedwar ceidwad cefn gwlad dan hyfforddiant yn cael eu cyflogi gan y bartneriaeth i gyflawni gwelliannau mynediad ac ennill sgiliau a chymwysterau mewn rheoli cefn gwlad.

Ffrwd Waith 3: Astudiaeth i-Tree Eco

Mae i-Tree yn becyn meddalwedd sy’n cael ei ddefnyddio i fesur strwythur ac effeithiau amgylcheddol coed trefol. Gellir defnyddio’r data o’r arolygon hyn i helpu’r rhai sy’n gofalu am goed i wneud penderfyniadau rheoli gwybodus.

Ffrwd Waith 4:  Prosiectau Gwyrdd Gwent

Yn y llif gwaith hwn mae gwelliannau seilwaith gwyrdd yn cael eu darparu ar draws y rhanbarth, gan gynnwys gwelliannau tirwedd, gweithredu rheolaeth sy’n gyfeillgar i beillwyr, plannu coed a gwelliannau mynediad.

Ffrwd Waith 5:  Gwent sy’n Gyfeillgar i Beillwyr

Mae mannau gwyrdd yn cael eu rheoli yn y ffordd ‘Natur Wyllt’, gan adael i laswelltir mewn parciau ac ar hyd ymylon dyfu yn y gwanwyn a’r haf er mwyn creu dolydd a darparu cynefinoedd gwell i bryfed peillio, fel gwenyn a phili-palod yn ogystal ag amrywiaeth o fywyd gwyllt arall.


Canlyniadau:

Gellir gweld y gwaith llawr gwlad ar draws Gwent. Mae rhai gwelliannau sy’n cael eu gwneud yn Sir Fynwy’n cynnwys:

  • Plannu coed ar draws y sir
  • Rheoli glaswelltiroedd sy’n gyfeillgar i beillwyr
  • Ymgysylltu â chymunedau lleol

Bydd y tîm PGGG yn llawn gweithgareddau a digwyddiadau yn 2022, felly dilynwch ni ar Twitter @Gwentgreengrid am yr holl newyddion diweddaraf ac ail-drydarwch a rhannwch yn eang.

Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth.


Astudiaeth achos: Rhaglen 60 MonLife yn Weithredol

Amcan:

Bu Rhaglen 60 MonLife yn Weithredol yn bosibl gydag arian gan Chwaraeon Cymru. Mae’r rhaglen yn ceisio annog gweithgarwch corfforol gydol oes i bobl 60 oed a mwy drwy gynnig cymorth iddynt ddod yn fwy egnïol yn gorfforol trwy ddosbarthiadau wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Mae gan aelodau’r Rhaglen 60 MonLife yn Weithredol fynediad at:

• Ystafelloedd Ffitrwydd gyda rhaglenni 1 i 1 wedi’u teilwra / adolygiadau rhaglenni

• Dosbarthiadau Ffitrwydd Dynodedig (Fit4Life, Ymestyn a Ffyrfhau, Pilates, Ioga, Tai Chi, Dawns Fit4Life, Aml-chwaraeon Fit4Life; Pêl-rwyd cerdded Fit4Life; Ffitrwydd Dŵr; Rhedeg Dŵr; BARRE Rhithwir Les Mills, Balans Corff Rhithwir Les Mills, Sh’Bam Rhithwir Les Mills)

• Sesiynau nofio achlysurol

• Ystafelloedd Iechyd a Sawnas (Heblaw am Drefynwy).

Anogir yr aelodau i gysylltu eu gweithgarwch corfforol â’n App My Wellness trwy gyfrwng eu ffôn clyfar neu oriorau.  Mae hyn yn creu dangosfwrdd ar-lein lle gellir monitro gweithgaredd trwy fynychu campfa/dosbarth, defnydd o ddosbarth rhithwir a gweithgaredd awyr agored megis chwaraeon, cerdded a beicio.

Nod tîm Datblygu Chwaraeon MonLife hefyd yw cysylltu aelodau o’r rhaglen â chlybiau cymunedol lleol fel hoci cerdded; bowlio; rygbi cyffwrdd a digwyddiadau Parkrun. Trwy helpu i greu’r llwybrau hyn i’r gymuned, mae’n darparu amrywiaeth ehangach o weithgareddau i’r aelodau gymryd rhan ynddynt. Mae hyn yn ei dro yn helpu’r aelodau i barhau â’u hiechyd, eu lles a’u mwynhad o weithgareddau corfforol fel rhan o’u ffordd o fyw bob dydd.

Mae’r Rhaglen 60 MonLife yn Weithredol hefyd yn agored i aelodau sy’n cwblhau’r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol (NERs) i’w helpu i’w cefnogi i weithgarwch ac iechyd corfforol gydol oes.

Gweithredu:

Ystafelloedd Ffitrwydd gyda Thaith Cwsmer 1:1 gyda rhaglenni wedi’u teilwra / adolygiadau rhaglenni

Dosbarthiadau Ffitrwydd Dynodedig (Fit4Life, Ymestyn a Ffyrfhau, Pilates, Ioga, Tai Chi, Dawns Fit4Life, Aml-chwaraeon Fit4Life; Pêl-rwyd cerdded Fit4Life; Ffitrwydd Dŵr; Rhedeg Dŵr; BARRE Rhithwir Les Mills, Balans Corff Rhithwir Les Mills, Sh’Bam Rhithwir Les Mills) Sesiynau Nofio Achlysurol

Ystafelloedd Iechyd a Sawnas (Heblaw am Drefynwy).

Rydym yn edrych yn barhaus i wella’r rhaglen i annog cyfranogiad drwy gyflwyno gweithgareddau amgen fel:  Dawns, Pêl-rwyd Cerdded a Aml-chwaraeon.

Canlyniadau:

Bydd yr holl aelodau sy’n ymuno â’r Rhaglen 60 MonLife yn Weithredol yn cwblhau asesiad ffitrwydd ar wythnos 1 ac wythnos 8. Caiff hyn ei adrodd yn ôl i Chwaraeon Cymru i dynnu sylw at welliannau i’r grŵp iechyd a lles ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Ers dechrau’r rhaglen ym mis Ebrill 2021:

  • Mae 157 o aelodau wedi cofrestru gyda ni.
  • Mae gan 140 o aelodau raglenni ar Ap MyWellness.
  • Mae 83% wedi aros am eu mis cyntaf yn y rhaglen.

“Ar ôl y saib hir oherwydd Covid Hir roedd yn dda cael mynd yn ôl i’r gampfa nid yn unig am resymau corfforol ond meddyliol hefyd. Mae gallu mynychu’r gampfa yn dda i’r meddwl gan ei fod yn rhoi ffocws i mi a rhywbeth i edrych ymlaen ato. Gellir torri ar draws y presenoldeb o hyd oherwydd dyddiau lle mae’r lefelau egni’n isel, ond mae’r gwelliant yn amlwg i mi, ac mae’r rhaglen bellach yn dechrau dychwelyd i’r arfer ac mae addasiadau wedi’u gwneud i gadw’r cynnydd.”

Active 60 Member


Astudiaeth achos: Seilwaith Gwyrdd drwy Adran 106

Amcan:

Datblygu a / neu wella cyfleusterau cymunedol a mannau agored amrywiol yn Sir Fynwy trwy gyllid Adran 106.


Gweithredu:

Gellir defnyddio cyllid a elwir yn Adran 106 (A106) i ddatblygu a / neu wella cyfleusterau cymunedol a mannau agored amrywiol. Sicrhawyd yr arian yma drwy gais rhwymedigaeth cynllunio, sef gweithred neu gytundeb sydd ynghlwm â’r tir sy’n destun caniatâd cynllunio. Defnyddir cyfraniadau a sicrhawyd drwy rwymedigaethau cynllunio i liniaru neu wneud yn iawn am effeithiau negyddol datblygiad.  O ganlyniad, cynhaliodd tîm SG MonLife y prosiectau canlynol:

Prosiect Gwelliannau Coridor Cil-y-coed – Gyda’r nod o greu gwelliannau ar hyd ffordd Woodstock a Heol Casnewydd yng Nghil-y-coed.

Prosiect gwella SG Cil-y-coed – Gwelliannau Seilwaith Gwyrdd (SG) yn rhan ddwyreiniol tref Cil-y-coed fel rhan o brosiect Cysylltiadau Gwyrdd y Cyngor, a wnaed ar hyd detholiad o ffyrdd llwybr gwyrdd ac mewn parciau a mannau amwynder yng Nghil-y-coed sy’n ffurfio llwybrau Teithio Llesol pwysig drwy’r dref.

Prosiect Peillwyr Parc Gwledig Cil-y-coed – Gyda’r nod o gyflawni cynllun gwella glaswelltir a phlannu coed.  Cyflawnodd y prosiect gynllun torri glaswellt i wneud y gorau o ddolydd blodau gwyllt ar y safle ac roedd yn cynnwys ‘gor-hadu’ rhai ardaloedd â hadau blodau gwyllt brodorol.

Prosiect Mannau Natur Cymunedol Trefynwy – Ategodd hyn cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur LlC i ddarparu cyfanswm o 11 o fannau gwyrdd sydd wedi’u gwella’n sylweddol. Bydd y cynllun hefyd yn arwain at leihau defnydd plaladdwyr ar draws yr ardal.  Mae grwpiau diddordeb lleol wedi bod yn rhan o ddatblygiad y safle ac yn awyddus i ymgymryd â thyfu coed a bwyd unwaith y bydd y safleoedd wedi’u cwblhau.

Prosiect Gwella Coridorau Ffordd Gyswllt (Trefynwy) – Prosiect A106 wedi’i ariannu’n llawn sy’n darparu rhywogaethau a rheoli cynefinoedd a gwella er mwyn gwneud yn iawn am golli cynefin i hwyluso datblygiad gerllaw.


Canlyniadau

Prosiect Gwelliannau Coridor Cil-y-coed:

  • 31 coeden, 40 coeden ffrwythau, 100 o lwyni cyfeillgar i wenyn, 4 planhigyn dringo, 1685 o blanhigion gwrychoedd brodorol, 8 sach o gennin Pedr, 20 hambwrdd o blanhigion plannu sy’n gyfeillgar i beillwyr.
  • 100 awr wirfoddol (Cadwch Gil-y-coed yn Daclus, Cil-y-coed yn Ei Blodau, Cadwch Gymru’n Daclus, Gardd Gymunedol Castell Cil-y-coed, Ceidwaid Sustrans lleol, Ysgol Gyfun Cil-y-coed)

Prosiect gwella SG Cil-y-coed:

Prosiect Peillwyr Parc Gwledig Castell Cil-y-coed:

Prosiect Mannau Natur Cymunedol Trefynwy:

Ffigwr 1: Mae plannu coed sylweddol wedi digwydd ar draws yr ardal gan gynnwys yng ngofod agored Hendre Close lle bydd meithrinfa goed hefyd wedi ei lleoli
Ffigwr 2: Mae planhigion peillio a hadau blodau gwyllt wedi ategu llwyni coed a phlanhigion blodau gwyllt i ddarparu lle mwy amrywiol gan gynnwys chwarae gwyllt

11 safle wedi gwella ar gyfer peillwyr

9 safle ag arferion torri gwair gwell

11 ardal o blannu planhigion peillio

11 safle plannu coed

9 ardal o blannu perllan gymunedol

3 gwely tyfu bwyd cymunedol

1 meithrinfa goed

11 Lle i eistedd gwell

Prosiect Gwella Coridorau Ffordd Gyswllt (Trefynwy)

– 0.4 hectar o laswelltir/prysgwydd i gynnal a gwella rhywogaethau glaswelltir; Cefnogi cynefinoedd ar gyfer slorymod a phathewod.

– 1.3 hectar o goetir wedi’i reoli yn cefnogi amrywiaeth o rywogaethau o adar sy’n bridio

– Gosod a monitro 44 blwch pathew a 2 lloches ymlusgiaid. – Roedd y cynllun yn cynnwys y grŵp Building Bridges (pobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol) i wneud blychau pathew a chynnal chwiliadau cnau yn y coetir.


Astudiaethau achos : Merched yn Gryfach gyda’n giyldd

Amcan:

Datblygwyd Menywod Cryfach Gyda’i Gilydd i annog menywod i ymgysylltu â ffitrwydd a lles. Profodd sawl astudiaeth fod menywod yni lleihau ymarfer corff yn llawer amlach o’i gymharu â’u cymheiriaid gwrywaidd. Amlygwyd llawer o rwystrau megis; gofal plant, hyder, cyllid, amseroedd, disgwyliadau ac anhysbys.  Cynlluniwyd Menywod Cryfach Gyda’i Gilydd i leihau’r rhwystr drwy ddarparu rhagflas cost isel o amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd . Yn y pen draw, y prif amcan oedd creu system gymorth i fenywod ac felly creu cyfeillgarwch!


Gweithredu:

Cyflwynwyd rhaglen Menywod Cryfach Gyda’i Gilydd yn 2018 fel archeb bloc 8 wythnos ac ers hynny mae wedi gweld amrywiaeth eang o ddosbarthiadau gweithgareddau’n cael eu darparu i’r aelodau.

Yn 2018 cymerodd y grŵp ran mewn nifer o wahanol weithgareddau: gan gynnwys pwysau tegell, cylchedau, gwaith craidd a Thai Chi. Bob blwyddyn ers hynny, mae’r cynlluniau wedi parhau i ddilyn bloc 8 wythnos gyda phob wythnos yn cynnig gweithgaredd gwahanol.  Bob blwyddyn, mae ein grwpiau wedi gweld amrywiaeth o wahanol oedrannau a chefndiroedd.  Ar ddechrau pob rhaglen rydym yn dechrau gydag ymarferion cyflwyno, wrth i bawb ddechrau braidd yn dawel ac nid yw’r grŵp i gyd yn adnabod ei gilydd. Felly, mae’r grŵp yn cyflwyno’u hunain ac rydym yn gofyn am y rhesymau dros gymryd rhan. Y rhan fwyaf o’r achosion gwelsom fod yr aelodau am roi cynnig ar ffitrwydd ar ôl peidio â chadw’n heini am beth amser. Roedd eraill am gael ychydig o amser allan o fywyd teuluol / gwaith prysur ac er bod eraill yn dymuno colli pwysau.

Ar ôl hynny, rydym yn trafod cynllun y sesiynau gyda’r grwpiau, fel eu bod nhw’n gwybod am y sesiynau gwahanol y byddant yn cymryd rhan ynddynt bob wythnos. Roedd y cynllun diweddaraf yn cynnwys:

SESIWN 1:  Cyflwyniad / ymarferion cyflwyno

SESIWN 2:  Dosbarth Cylched

SESIWN 3:  Tai Chi

SESIWN 4:  Ymestyn a Ffyrfhau

SESIWN 5:  Cyflwyniad i “O’r Soffa i 5 Cilomedr”

SESIWN 6:  Ffitrwydd Bocsio

SESIWN 7:  Sesiwn Meddwl Cadarnhaol

SESIWN 8:  Adolygu

Y grym y tu ôl i bob sesiwn yw lles. O fewn y sesiynau hyn mae’r pwnc lles yn cael ei drafod yn aml wrth i ni edrych i agor deialog am sut mae ein meddyliau’n ymateb i ymarfer corff a phwysigrwydd cymryd amser allan mewn diwrnod prysur i ymlacio. Fel canlyniadau, trwy gydol y cwrs, gofynnwn i’r cyfranogwyr wneud rhywfaint o waith gyda’r tîm o ran fframwaith bywyd a rhoddwyd cyfnodolion diolchgarwch iddynt i’w defnyddio yn ystod yr wythnos i ysgrifennu’r hyn y maent yn ddiolchgar amdano bob dydd. Daeth pob sesiwn i ben hefyd ar fyfyrdod ystyriol i ddathlu dydd Llun ystyriol.


Canlyniadau:

Mae’r prosiect hwn wedi tyfu bob blwyddyn ers ei sefydlu yn 2018, gyda’r llynedd yn gweld cynnydd arbennig o fawr mewn aelodau i’r cynllun:

2018/19: Cyflwynwyd 15 o ferched i wahanol gyfleoedd ffitrwydd a chreu arferion newydd.

2019/20: Cyflwynwyd 17 o ferched i wahanol gyfleoedd ffitrwydd a chreu arferion newydd.

2020/21: Cymerodd 45 o fenywod ran yn y cynllun tra hefyd yn creu partneriaeth gyda Mind Sir Fynwy. Mae hyn wedi arwain at lawer o ddigwyddiadau a chyfeirio ar gyfer aelodau hen a newydd.

Dros y cyfnod hwn, mae’r aelodau wedi rhoi adborth yn aml, yn ymwneud â chreu cyfeillgarwch da a gwella iechyd a lles. Mae rhai hyd yn oed wedi mynd ymlaen i gymryd rhan yn y Parkrun lleol gyda’i gilydd tra bod eraill wedi dod yn aelodau ffitrwydd llawn, gan fynychu ioga a Pilates yn aml.


Astudiaeth achos: Darpariaeth dan 5 oed Sir Fynwy

Astudiaeth achos: Darpariaeth dan 5 oed Sir Fynwy

Amcan:

Defnyddio cyllid i ddarparu cyfleoedd i blant ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chorfforol amrywiol ar draws Sir Fynwy.


Gweithredu:

Ers mis Ionawr 2022, mae Datblygu Chwaraeon MonLife wedi cydlynu a chyflwyno darpariaeth cam sylfaen/Twdlod helaeth ar gyfer plant ifanc rhwng 0 a 5 oed ar draws Sir Fynwy gyfan. Mae’r ddarpariaeth hon wedi rhoi cyfle i blant ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chorfforol amrywiol, gyda llawer ohonynt yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol am y tro cyntaf.  Hwyluswyd y prosiect hwn drwy ymdrech gydweithredol o ystod eang o wasanaethau ym MonLife a Chyngor Sir Fynwy gan gynnwys ein Tîm Datblygu Chwaraeon, Canolfannau Hamdden, Dechrau’n Deg a’n timau Blynyddoedd Cynnar. Nod trosfwaol y prosiect hwn fu darparu cyfleoedd gweithgaredd corfforol i blant ifanc sydd, oherwydd pandemig Covid 19, wedi cael lleihad yn eu cyfleoedd yn ystod y cam pwysig hwn yn eu datblygiad. Isod ceir crynodeb o’r prosiect, gyda’r prif ffigurau a’r adborth sy’n dangos effaith y cynnig a ddarperir i blant ifanc ar draws Sir Fynwy.

Sesiynau Twdlod Gemau Sir Fynwy

Mae pedair Canolfan Hamdden MonLife wedi bod yn darparu cyfleoedd hygyrch am ddim ar gyfer plant 3-5 oed er mwyn iddynt fynychu bloc 8 wythnos o sesiynau Chwaraeon Aml-Sgiliau. Mae dros 40 o blant wedi cymryd rhan yn y sesiynau lle mae plant wedi cael sgiliau symud sylfaenol wedi’u dysgu iddynt drwy weithgareddau hwyliog a chynhwysol a gyflwynir gan staff MonLife. Mae’r plant sy’n mynychu’r sesiynau hyn wedi cael mannau drwy wasanaethau Dechrau’n Deg a’r Blynyddoedd Cynnar, yr ydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda nhw. Mae pob plentyn sydd wedi cofrestru ar gyfer y sesiwn wedi cael cerdyn aelodaeth MonLife, sydd yn ei dro wedi galluogi mynediad rhieni i’n rhaglen fyw Eglurder a fydd yn arddangos cyflawniadau’r plant.  Bydd hyn hefyd yn darparu data ar gyfer dechrau’n deg o amgylch cymwyseddau corfforol y plant ac yn olrhain eu perfformiad.

Sesiynau Nofio Rhieni a Phlant pwrpasol

Mabwysiadwyd dull awdurdod cyfan i ddarparu sesiynau Nofio Rhieni a Phlant ar gyfer teuluoedd dynodedig yn Sir Fynwy. Darparwyd y sesiynau Nofio pwrpasol hyn ar gyfer plant mor ifanc â 6 mis oed fel cyfle i brofi’r dŵr am y tro cyntaf a chodi eu hyder gyda goruchwyliaeth rhieni a Hyfforddwyr Nofio.  Mae’r sesiynau hyn ym mhob rhan o’r awdurdod wedi parhau i ddangos y bartneriaeth gyda Dechrau’n Deg ac wedi helpu i gefnogi plant sydd â rhwystr rhag mynd i mewn i’n llwybrau Dyfrol.  Mae tri o bedwar Canolfan Hamdden MonLife wedi cydlynu’r gwaith o gyflwyno sesiwn Swigod a Sblas, gyda 65 o blant yn cael eu targedu drwy’r ddarpariaeth. Bydd Canolfan Hamdden y Fenni yn lansio eu darpariaeth dros yr wythnosau sydd i ddod.

Sesiynau Gweithgaredd Corfforol Dechrau’n Deg 

Mae’r tîm Datblygu Chwaraeon wedi bod yn cyflwyno cyfres o sesiynau gweithgaredd corfforol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau sylfaenol a negeseuon llythrennedd corfforol ar gyfer lleoliadau Dechrau’n Deg a’r Blynyddoedd Cynnar ledled Sir Fynwy.  Mae’r tîm wedi ymweld â 31 o leoliadau Meithrin dros gyfnod o 4 wythnos i ddarparu 4 sesiwn o weithgaredd corfforol, lle y mae sesiynau wedi’u dyfeisio i gwmpasu 4 thema: wythnos 1 saffari, wythnos 2 natur, wythnos 3 ar lan y môr ac wythnos 4 anifeiliaid fferm. Mae’r sesiynau sydd wedi’u cyflwyno yn cwmpasu elfennau o’r cwricwlwm newydd, lle bydd plant yn gallu archwilio gwneud penderfyniadau, symud corfforol, bwyta’n iach ac ymwybyddiaeth ofalgar. Trwy gyflwyno yn y lleoliadau cyn ysgol hyn mae dros 500 o blant wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y sesiynau.


Canlyniadau:

Gweler isod ychydig o’r tystebau yr ydym wedi eu derbyn fel canlyniad i’r prosiect hwn:

“Cefais fy synnu pa mor dda mae fy mhlentyn wedi llwyddo i afael yn y cysyniad o fwyta’n iach mor ifanc (oed). Rydyn ni nawr yn parhau â’r gwaith da gartref ac yn trafod opsiynau bwyd yn fwy nag oedden ni erioed o’r blaen” – Rhiant.

“Dwi’n teimlo fod hon yn fenter mor wych gan MonLife, bydd y sesiynau Llythrennedd Corfforol yn helpu plant a’u rhieni i wneud dewisiadau iachach a gosod y llwybr i ffordd iachach o fyw” – Rhiant.

“Mae’r sesiynau hyn wedi rhoi cyffro i’r plant, gan annog eu hyder i ddatblygu yn y sesiynau a thu allan iddi.  Mae’r sesiynau hyn hefyd wedi rhoi amrywiaeth o syniadau newydd i’r staff ar gyfer gweithgareddau corfforol y gallwn eu rhoi ar waith yn y lleoliad.  Roedd hefyd yn darparu’r plant i ddod allan o’u hamgylchedd dysgu arferol a newid eu trefn”.  – Lleoliad Blynyddoedd Cynnar.


Astudiaeth achos: Pêl-droed Cerdded yn Sir Fynwy

Amcan:

Datblygu a darparu cyfleoedd i ddynion a menywod 40 oed a hŷn gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon cerdded er mwyn hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol.

Gweithredu:

Trwy sesiynau blasu cychwynnol a blociau o sesiynau, dechreuodd y niferoedd gynyddu yn fuan a ffurfiwyd grwpiau cymdeithasol i gefnogi nid yn unig y gweithgaredd corfforol ond i ddatblygu cyfeillgarwch. Cynhaliwyd twrnamaint cyfeillgar tair ffordd rhwng ein Canolfan Hamdden Cil-y-coed, Sir Casnewydd a Thref Merthyr i ddarparu’r profiad cystadleuol cyntaf i’r chwaraewyr, ac roedd hyn yn llwyddiant gwych.

Bu clwb Pêl-droed Cerdded Cil-y-coed, mewn partneriaeth â’r tîm datblygu chwaraeon lleol yn cynnal eu twrnamaint pêl-droed cerdded eu hunain ym mis Hydref 2019, gyda dros 10 tîm yn cymryd rhan o bob rhan o’r DU a channoedd o chwaraewyr yn bresennol.

O ganlyniad i’r llwyddiant yng Nghil-y-coed, aeth y tîm Datblygu Chwaraeon â’r ymgyrch ymlaen wedyn i Gas-gwent. Fe wnaeth 10 o bobl gymryd rhan yn y sesiwn gyntaf, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn aelodau drwy atgyfeiriad Meddygon Teulu yn ein canolfannau hamdden.

Mae datblygiad pêl-droed cerdded yng Nghas-gwent wedi bod yn ddylanwadol i nifer, ac o ganlyniad mae wedi arwain at y tîm yn rhedeg eu twrnamaint eu hunain ym mis Chwefror. Mae ganddynt uchelgeisiau hefyd i ddechrau eu Clwb Pêl-droed Cerdded Cas-gwent eu hunain, gan efelychu’r hyn sydd wedi’i sefydlu yng Nghil-y-coed.

Mae’r tîm Datblygu Chwaraeon hefyd wedi dechrau camau cyntaf ehangu’r fenter pêl-droed cerdded i ogledd y sir, gyda’r cynlluniau cychwynnol o ddechrau hyn yng nghanolfan hamdden y Fenni a Threfynwy dros gyfnod yr haf.  Mae gan y tîm hefyd uchelgeisiau o greu twrnamaint yn y gaeaf rhwng y pedwar safle Canolfan Hamdden.

Canlyniadau

Ers mis Mai 2019, mae Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy wedi datblygu a darparu cyfleoedd i ddynion a menywod 40+ oed gymryd rhan mewn amrywiaeth o gampau cerdded, mae ein heffaith fwyaf amlwg wedi dod drwy Bêl-droed Cerdded. Mae pêl-droed cerdded yn Sir Fynwy wedi gweld effaith enfawr yn 2019.  Nid yn unig roedden ni’n gweld effaith gadarnhaol ar lefelau gweithgarwch corfforol, gwelsom ostyngiad mewn unigrwydd cymdeithasol.

Mae pêl-droedwyr cerdded Cil-y-coed bellach wedi datblygu i fod yn glwb cysylltiedig, a chydnabyddedig, sydd wedi eu galluogi i ddechrau ymuno â chynghrair pêl-droed cerdded Cymru a thwrnameintiau lleol, yn ogystal â derbyn grant cist gymunedol ddiweddar. Mae’r clwb hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn twrnameintiau cenedlaethol, ac ar hyn o bryd mae ganddo 3 chwaraewr fel rhan o dîm cenedlaethol Cymru. Yn ogystal â hyn, yn ystod mis Mawrth 2020, mae’r clwb yn gweithio mewn partneriaeth â Mind Sir Fynwy i gynnal mis Iach a Gweithredol, a fydd yn ei dro yn gweithio fel codwr arian i’r elusen er mwyn hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol. Rydym wedi gweld 83 o oedolion yn cymryd rhan mewn pêl-droed cerdded, gyda’r niferoedd yn parhau i gynyddu bob wythnos.