New Year Campaign (January) - Monlife

Aelodaeth 12 Mis Am Pris 9

Adduned Blwyddyn Newydd y gallwch ei gadw! 

Rhowch hwb i ddechrau’r flwyddyn gyda’n haelodaeth flynyddol ddiguro! Am gyfnod cyfyngedig, mwynhewch 12 mis o fynediad am bris 9 mis. P’un a ydych wrth eich bodd yn y gampfa, yn gwneud lapiau nofio, neu ymuno â dosbarthiadau hwyliog, mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch chi. Mae ein cyfres ffyrfhau yn cynnig ystod o beiriannau ymarfer â chymorth pŵer, wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer pobl hŷn, unigolion sydd â chyflyrau iechyd cronig, ac unrhyw un sy’n ymdrechu i gyflawni eu nodau ffitrwydd, waeth beth yw eu hoedran, eu gallu neu lefel ffitrwydd. Mae ein staff cyfeillgar a phroffesiynol yn ymroddedig i’ch helpu i gyflawni eich nodau iechyd a lles.

Gwnewch adduned eleni sy’n para. Ymunwch â ni i drawsnewid eich taith iechyd a ffitrwydd gydag aelodaeth sy’n cynnig gwerth anhygoel a chyfleoedd diddiwedd. Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn!  

Sut i Ymuno:

I fanteisio ar ein cynnig gaeaf anhygoel, gallwch naill ai ymuno ar-lein neu wyneb yn wyneb gyda chymorth un o’n haelodau staff cymwynasgar.

I ymuno ar-lein, cliciwch ar y botwm YMUNO NAWR isod a dilynwch y camau syml hyn:

  • Dewiswch eich canolfan
  • Sgroliwch a dewiswch ‘Oedolion Blynyddol  / Hŷn Blynyddol / Iau Blynyddol / Ffyrfhau Blynyddol’
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau
  • Cwblhewch y Taliad (byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau)
  • Pan fyddwch nesaf yn ymweld â’ch canolfan, bydd eich cerdyn aelodaeth MonLife yn cael ei gyhoeddi i chi (os nad oes gan aelod gerdyn eisoes) ar adeg ymuno, a bydd yr aelodaeth yn cael ei actifadu.
YMUNWCH NAWR

Prisiau:

  • Aelodaeth Flynyddol – £310.50 (Arbediad o £103.50*)
  • Aelodaeth Hyblyg – £233.10 (Arbediad o £77.70*)
  • Aelodaeth Ymrwymedig– £153.00 (Arbediad o £51.00*)
  • Aelodaeth Toning – £233.10 (Arbediad o £77.70*)

Terms and Conditions:

  • Mae’r cynnig ar gael dim ond rhwng dydd Iau 2il Ionawr i ddydd Gwener 7fed Chwefror 2025 
  • Mae’r hyrwyddiad ar gael dim ond ar aelodaeth flynyddol Ffyrfhau, Oedolion, Hŷn ac Iau 
  • Mae cyfyngiadau oedran cymwys yn berthnasol i aelodaeth Iau (11-17 oed) Oedolion (18-59 oed) a Hŷn (60 oed +). Ffyrfhau  
  • Mae’r telerau ac amodau aelodaeth presennol yn gymwys, ac ni roddir ad-daliadau ar unrhyw adeg 
  • Mae aelodaeth yn rhoi’r hawl i’r cwsmer gael yr holl fuddion a amlygwyd o dan “Buddion Aelodaeth”. Gan fod y cwsmer yn ymuno ar aelodaeth flynyddol, nid yw’n gallu terfynu’r contract  
  • Bydd taliad llawn yn cael ei gymryd ar adeg ei brynu er mwyn derbyn cynnig pris yr hyrwyddiad 
  • Gall cwsmeriaid adnewyddu eu haelodaeth flynyddol hyd at 1 mis yn gynnar.  Enghraifft. Os yw aelodaeth flynyddol i fod i ddod i ben ar yr 28ain Chwefror, gallai cwsmeriaid adnewyddu eu haelodaeth ar Ionawr 28ain yn ystod y cyfnod hyrwyddo 
  • Derbynnir trosglwyddiadau Debyd Uniongyrchol, ond bydd angen i’r aelodau ganslo’u Debyd Uniongyrchol gyda’r tîm Gweinyddu Aelodaeth yn gyntaf 
  • Yn unol â’u Telerau ac Amodau, nid yw aelodau ymroddedig yn gymwys ar gyfer y cynnig hwn. 
  • Mae MonLife, Cyngor Sir Fynwy yn cadw’r hawl i wneud newidiadau i’r hyrwyddiad, gan gynnwys ei hyd neu ei delerau, os oes angen. 
  • Gellir dod o hyd i’n polisi preifatrwydd a data yma –  Cymorth – MonLife  

This post is also available in: English