Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife yn cyhoeddi gwefan casgliadau newydd sbon - Monlife

Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife yn cyhoeddi gwefan casgliadau newydd sbon

Mae Amgueddfeydd Treftadaeth MonLife yn hapus i gyhoeddi lansiad eu gwefan casgliadau newydd sbon yn www.monlifecollections.co.uk/?lang=cy Mae’r wefan newydd yn darparu mynediad am ddim i chwilio cannoedd o gofnodion, gan alluogi defnyddwyr i ddarllen deunydd a gweld delweddau ar gyfer eitemau o fewn y casgliadau o bob rhan o Sir Fynwy. Bydd tîm yr Amgueddfeydd yn ychwanegu mwy at y wefan yn barhaus, felly maent yn argymell bod ymwelwyr â’r safle yn dod yn ôl yn aml i weld beth sy’n newydd.

  • Darganfyddwch wrthrychau hanesyddol, gweithiau celf, ffotograffau a dogfennau oll yng ngofal Treftadaeth MonLife.
  • Chwiliwch am bobl arbennig, archwiliwch leoedd nodedig, teithiwch drwy amser a darganfyddwch gasgliadau gwahanol.
  • Mae cannoedd o gofnodion Sir Fynwy eisoes ar ein chwiliad casgliadau.

Oherwydd pandemig parhaus y Coronafeirws, mae Treftadaeth MonLife wedi bod yn ymchwilio i ffyrdd newydd o arallgyfeirio rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021. Gyda diolch i grant Cronfa Adfer Ddiwylliannol Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, mae aelodau o dîm yr Amgueddfeydd wedi gallu canolbwyntio’u rôl er mwyn creu gwefan ar gyfer y casgliadau. Maent wedi gweithio ochr yn ochr ag Ymgynghorwyr Treftadaeth Ddigidol, Orangeleaf Systems Ltd i adeiladu gwefan bwrpasol. 

Dywedodd Lydia Wooles, o’r tîm prosiect Amgueddfeydd Ar-lein: “Fe wnaethon ni weithio’n galed o’r cychwyn cyntaf gyda’r prosiect, fel tîm rydyn ni wedi dysgu llawer mewn cyfnod byr. Dewiswyd cofnodion yn ofalus i roi blas i ddefnyddwyr o’r amrywiaeth eang o arteffactau a dogfennau sydd gennym.  Mae wedi bod yn brofiad mor werth chweil gweithio ar y prosiect hwn.” Mae’r holl gofnodion ar y wefan yn ymwneud â stori Sir Fynwy ac yn cynnwys casgliad Nelson sydd o bwys cenedlaethol. O ddarganfyddiadau archeolegol, casgliadau gwisgoedd helaeth, i ffotograffau a chardiau post – mae rhywbeth at ddant pawb.

This post is also available in: English