GGG Strategies and Studies – Monlife

Strategaethau ac Astudiaethau

Mae’r PGGG yn dangos ffordd arloesol o gydweithio i gyflawni canlyniadau strategol a lleol i ddarparu dull rhanbarthol o ymdrin â Seilwaith Gwyrdd (SG) yng Ngwent. Drwy’r cydweithio hwn, mae’r bartneriaeth wedi cynhyrchu’r dogfennau a’r astudiaethau strategol canlynol:

Mapiwr Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Gwent

Mae Mapiwr  Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Gwent yn offeryn mynediad agored sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i nodi a datblygu prosiectau adfer natur yng Ngwent. Wedi’i greu gan Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, Systemau Amgylcheddol, a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae’n darparu gwybodaeth ecolegol werthfawr i gefnogi bioamrywiaeth ac adfer cynefinoedd.

Strategaeth Mynediad Rhanbarthol

Mae’r cynllun strategol hwn ar gyfer rhanbarth Gwent yn nodi cyfleoedd allweddol a strategaethau rheoli. Mae’n cynnwys cynllun cyflawni strategol coridorau gwyrdd ar gyfer prosiectau mynediad a phrosiectau wedi’u costio. Bydd y strategaeth yn cael ei chyhoeddi’n fuan.

ReAsesiad Effaith Iechyd Integredig Rhanbarthol (AEII)

Mae’r AEII’n nodi effaith PGGG ar iechyd a lles meddyliol trigolion Gwent. Tynnwyd canfyddiadau allweddol o ddadansoddiad o dystiolaeth rhanddeiliaid, data epidemiolegol ac adolygiad o’r llenyddiaeth berthnasol.

Astudiaeth Achos i-Tree Eco Sir Fynwy

Defnyddiwyd i-Tree Eco i ddeall cyfansoddiad a strwythur coedwig drefol Sir Fynwy a’r buddion y mae’n eu darparu. Gellir defnyddio’r dadansoddiad hwn fel gwaelodlin i wneud penderfyniadau gwybodus i reoli a chynnal y goedwig drefol yn well, ar gyfer hinsoddau’r presennol a’r dyfodol.

Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn yng Ngwent

Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent (PGGG) mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid lleol, yn dylunio ac yn datblygu Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn (RhEG) ledled Gwent.

< Yn ôl i Grid Gwyrdd Gwent

This post is also available in: English