Countryside Access - Monlife

Mynediad Cefn Gwlad

Mae tîm Mynediad Cefn Gwlad MonLife yn rheoli 2,165 cilomedr o hawliau tramwy cyhoeddus a naw safle mynediad cefn gwlad. Mae mwy o wybodaeth am archwilio cefn gwlad a cherdded yn Sir Fynwy ar gael ar https://cy.visitmonmouthshire.com.

Mae naw safle cefn gwlad sy’n cael eu rheoli’n uniongyrchol gan dîm Mynediad Cefn Gwlad MonLife.

Mae Parc Gwledig Castell Cil-y-coed a Hen Orsaf Tyndyrn hefyd yn cael eu rheoli gan MonLife.

Mae pedwar math o hawl dramwy cyhoeddus.

Llwybrau Troed – ar gyfer cerdded, rhedeg, sgwteri symudedd neu gadeiriau olwyn trydan. Mae’r rhain wedi’u marcio gyda symbol o ddyn sy’n cerdded a/neu saeth felen

Llwybrau Ceffylau – ar gyfer cerdded, marchogaeth, beiciau, sgwteri symudedd neu gadeiriau olwyn trydan. Mae’r rhain wedi’u harwyddo gyda symbol o farchog ceffyl ac yn aml wedi’u marcio â saeth las

Cilffyrdd Cyfyngedig – ar gyfer unrhyw fath o gludiant heb sgwter a sgwteri symudedd neu gadeiriau olwyn â phwer. Mae’r rhain wedi’u marcio gyda symbol o geffyl a chert ac yn aml gyda chyfeirbwynt porffor.

Cilffyrdd sydd ar agor i bob traffig – ar gyfer unrhyw fath o gludiant, gan gynnwys ceir (ond cerddwyr, beicwyr a marchogion sy’n eu defnyddio’n bennaf)

Gallwch weld lle mae’r llwybrau hyn yn rhedeg a’r llwybrau sydd wedi’u hyrwyddo ar ein map YMA.

I gael rhagor o wybodaeth ar gfyer mynediad cefn gwlad a hawliau tramwy, gweler y Cynllun Gwella Mynediad Cefn Gwlad

Mae Cynllun Gwella Mynediad Cefn Gwlad Sir Fynwy 2020- 2030 (CGMCG) yn nodi amcanion a rennir ar gyfer rhwydwaith hawliau tramwy’r sir, safleoedd cefn gwlad a mynediad cyhoeddus ehangach am y deng mlynedd nesaf.  Mae’r cynllun yn gyfuniad o ymchwil, dadansoddi ac ymgynghori manwl gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid (adroddiadau CGHTC ac asesu drafft isod). Mae’n cydnabod y gwerth mynediad at fannau gwyrdd o ansawdd uchel o ran lles corfforol a meddyliol i drigolion ac ymwelwyr.   Mae’r cynllun yn uchelgeisiol a realistig o ran yr heriau sy’n wynebu Sir Fynwy a’n cymdeithas ehangach.

Bydd cyflwyno’r cynllun hwn yn cyfrannu’n sylweddol at wneud Sir Fynwy yn lle iachach, mwy ffyniannus a mwy pleserus lle i fyw ac ymweld â hi.   Bydd yn cael ei fonitro gan Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy a thrwy Gynlluniau Cyflawni Mynediad Cefn Gwlad blynyddol.

Gellir lawrlwytho’r Cynllun Gwella Mynediad Cefn Gwlad am ddim yma. I ofyn am gopïau caled o’r cynllun (nodwch y gall ffi fod yn berthnasol er mwyn talu’r costau), neu am unrhyw fformat arall, anfonwch e-bost at countryside@monmouthshire.gov.uk, ffoniwch 01633 644850 neu ysgrifennwch at y cyfeiriad isod.

Mae Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy yn cynghori Cyngor Sir Fynwy ac eraill ar ffyrdd o wella hawliau tramwy cyhoeddus a mannau gwyrdd yn Sir Fynwy.

Mae’n cynnwys gwirfoddolwyr sy’n ceisio rhoi golwg gytbwys ar faterion a blaenoriaethau mynediad sy’n effeithio ar yr ardal leol neu a allai ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol.

Mae aelodau’n cynrychioli:

  • Defnyddwyr hawliau tramwy lleol megis cerddwyr, beicwyr a marchogion ceffylau;
  • Perchnogion a meddianwyr y tir;
  • Grwpiau diddordeb cadwraeth, twristiaeth a’r economi wledig.

Cyfarfodydd a Chofnodion

Rydym yn cyfarfod tua 4 gwaith y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau yn y sir.  Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd

Mae cofnodion y cyfarfod, agendâu a dyddiadau ar gael ar wefan Cyngor Sir Fynwy.

Adroddiadau Blynyddol

Mae copïau o adroddiadau blynyddol y fforwm ar gael trwy glicio ar y dolenni isod:

Adroddiad Blynyddol FfMLl Sir Fynwy 2017/2018

Adroddiad Blynyddol FfMLl Sir Fynwy 2018/2019

Adroddiad Blynyddol FfMLl Sir Fynwy 2019/2020

Adroddiad Blynyddol FfMLl Sir Fynwy 2021

Adroddiad Blynyddol Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy 2022

 

Ymunwch â Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy

Rydym yn chwilio am aelodau newydd ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy, Mae’r Fforwm yn cynghori’r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac eraill ar ffyrdd o wella hawliau tramwy cyhoeddus a mannau gwyrdd yn Sir Fynwy.

Swyddi gwirfoddol yw’r rhain i roi cyngor ar faterion mynediad i gefn gwlad a helpu i gefnogi gwelliannau i fynediad lleol.

Rydym am i’r Fforwm newydd adlewyrchu’r ystod ehangaf o ddiddordebau. Felly, gallech fod yn ddefnyddiwr cefn gwlad a mynediad awyr agored, yn berchennog neu’n rheolwr tir, yn wirfoddolwr cymunedol neu fynediad, yn weithredwr twristiaeth lleol neu’n ymwneud â hybu a chefnogi mynediad i gefn gwlad er lles ac iechyd. Os ydych yn fodlon rhannu eich arbenigedd a chymryd rhan yn y Fforwm mynediad lleol am y tair blynedd nesaf, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan ddarpar aelodau sydd â chysylltiadau da a gweithredol gyda sefydliadau lleol perthnasol, partneriaethau a grwpiau diddordeb.

Mae’r Fforwm yn ceisio cynnal cydbwysedd buddiannau gan gynnwys tirfeddianwyr a rheolwyr tir, pob math o ddefnyddwyr mynediad a’r rhai sy’n cynrychioli buddiannau eraill, megis iechyd, mynediad i bawb a chadwraeth.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma ac mae’r ffurflen gais ar gael yma neu am fwy o wybodaeth, e-bostiwch rural@monmouthshire.gov.uk

Mae angen dychwelyd ffurflenni cais erbyn 15fed Ionawr 2024.  Ar gyfer ‘Arweiniad Recriwtio’, cliciwch YMA.

Lawrlwythwch Ffurflen Gais YMA.

Cysylltu â Fforwm Mynediad Lleol Sir Fynwy

Mae MonLife yn darparu’r gefnogaeth ysgrifenyddol i’r fforwm, ac am ragor o wybodaeth cysylltwch â chyfeiriad e-bost Ysgrifennydd y Fforwm: countryside@monmouthshire.gov.uk

Mae’r map hawliau tramwy cyfreithiol (Map a Datganiad Diffiniol) i’w gweld ar ôl gwneud apwyntiad yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga.  Gellir gweld y mapiau hefyd yn Swyddfa Cofnodion Gwent, ond nodwch na fydd hyn yn cynnwys unrhyw orchmynion a wnaed ers iddo gael ei gyhoeddi.  Mae map hawliau tramwy rhyngweithiol cyfansawdd gyda mapiau sylfaen modern hefyd ar gael i’w weld ar-lein.

Os ydych yn meddwl bod y map hawliau tramwy cyfreithiol (Map a Datganiad Diffiniol) yn anghywir gallwch wneud cais i’w newid.

Enghreifftiau o bryd y gallech wneud cais:

  • I ychwanegu hawl tramwy i’r map – yn aml mae llwybr yn bodoli’n wirioneddol ond nid yw’n cael ei ddangos ar y map Diffiniol.
  • I newid statws yr hawl tramwy – efallai bod llwybr troed wedi cael ei ddefnyddio fel llwybr ceffylau am 20 mlynedd neu fwy.   Gallwch wneud cais i newid ei statws.
  • I gywiro gwallau ar y map – nid yw llwybr a gofnodwyd ar y map yn gyhoeddus, mae wedi’i ddangos ar yr aliniad anghywir neu mae angen ei ddiffinio’n fwy manwl.

Os oes angen i chi gau hawl tramwy cyhoeddus dros dro i wneud gwaith arno, neu wrth ei ymyl, cysylltwch â Mynediad Cefn Gwlad cyn gynted â phosibl.

Gallwch wneud cais hefyd i symud llwybr at lwybr mwy cyfleus, neu gau llwybr yn barhaol os nad oes ei angen mwyach ar gyfer defnydd y cyhoedd

Am ragor o wybodaeth am y profion y byddai angen eu defnyddio, costau, blaenoriaethau, gweithdrefnau a ffurflenni cais, cysylltwch os gwelwch yn dda cysylltwch â countryside@monmouthshire.gov.uk

Darllenwch y gofrestr ceisiadau ar gyfer gorchmynion addasu cyfredol

Mae’r Tîm Mynediad Cefn Gwlad yn hyrwyddo defnydd cyfrifol gan y cyhoedd wrth arfer eu hawliau, ac yn gweithio lle bynnag y bo modd gyda thirfeddianwyr i sicrhau cydymffurfiaeth â chynnal y rhwydwaith a chyflawni gwelliannau.

Datblygwyd y dogfennau canlynol i gynorthwyo pawb sy’n ymwneud â llwybrau cyhoeddus. Canllaw Dodrefn Mynediad Cefn Gwlad.

Canllaw Mynediad i Fioamrywiaeth Cefn Gwlad.

Polisi, Protocol ac Adroddiad Rheolaeth Weithredol Mynediad Cefn Gwlad

Mae Ymweld â Sir Fynwy yn manylu ar y teithiau cerdded, y reidiau a’r digwyddiadau sydd ar gael, ynghyd â llety ac atyniadau eraill.

Mwynhewch ein cefn gwlad, yn ddiogel, byddwch yn gall o ran antur a chynlluniwch eich ymweliad.

I gael gwybod lle gallwch chi fynd, defnyddiwch ein mapiau rhyngweithiol a gweld ein holl lwybrau sydd wedi’u hyrwyddo YMA. Dilynwch y canllawiau hyn hefyd:

  • Cadwch bellter cymdeithasol bob amser
  • Byddwch yn wyliadwrus o ran golchi dwylo a hylendid
  • Arhoswch gartref os oes gennych chi neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw Symptomau’r Coronafeirws
  • Byddwch yn barchus o ofod pobl eraill ac arhoswch yn ddiogel mewn mannau megis pontydd, giatiau moch, neu gamfeydd, nes ei bod yn ddiogel i chi barhau ar eich taith gerdded;
  • Peidiwch â gadael sbwriel – byddwch yn barod i fynd â’ch sbwriel adref gyda chi i ailgylchu neu waredu.
  • Byddwch yn berchennog ci cyfrifol drwy ddilyn y Cod Cerdded Cŵn
  • Os yw ein meysydd parcio’n llawn neu’n brysur, dewch yn ôl dro arall a pheidiwch â pharcio ar ffyrdd mynediad neu ffyrdd cyfagos
  • Peidiwch ag oedi mewn meysydd parcio fel y gall eraill fynd a dod yn ddiogel.

Mae llawer o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn croesi tir preifat ac mewn rhai achosion mae ffermydd ar waith yn agos at gartrefi preifat. Cadwch at y llwybrau, dilynwch y cod cefn gwlad, cadwch eich pellter oddi wrth dirfeddianwyr a pharhau i ddilyn y cyfyngiadau a’r mesurau sydd ar waith i’ch diogelu chi ac eraill.

Gellir dod o hyd i fanylion am gau llwybrau oherwydd llifogydd, pontydd peryglus ac ati yma.

Byddwch yn Gall o ran Antur –

  • Mwynhewch amser hamdden awyr agored egnïol wrth gadw at ymbellhau cymdeithasol da bob amser
  • Peidiwch â theithio i ardaloedd twristiaeth poblogaidd a lleihau’r risg y bydd grwpiau yn ymgasglu mewn un lle
  • Cadw’n agos i’ch cartref – ystyriwch weithgareddau risg isel, cyfarwydd mewn ardaloedd lleol, megis taith gerdded neu redeg lleol
  • Osgowch drafnidiaeth gyhoeddus a chynulliadau cymdeithasol – cadwch yn weithredol drwy deithio ar droed neu feic

Gofynnwch 3 chwestiwn i chi’ch hun cyn i chi gychwyn:

  • Oes gen i’r WISG gywir?
  • Ydw i’n gwybod sut beth fydd y TYWYDD?
  • Ydw i’n hyderus bod gen i’r WYBODAETH A’R SGILIAU ar gyfer y diwrnod?

I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar hamdden awyr agored egnïol diogel, ewch i wefan AdventureSmart.

Defnyddiwch ein map rhyngweithiol er mwyn adrodd problem ynglŷn â hawliau tramwy..

Fel arall, gallwch e-bostio countryside@monmouthshire.gov.uk, neu ysgrifennu at

Mynediad Cefn Gwlad, BywydMynwy
Cyngor Sir Fynwy
Neuadd y Sir
Y Rhadyr
Brynbuga
NP16 1GA

Dylid adrodd materion brys megis pont sydd wedi torri cyn gynted â phosib ar 01633 644850.

Caiff pob mater a adroddir ei gofnodi a’i flaenoriaethu yn ôl ein system blaenoriaethu sy’n cael ei chyhoeddi yn Adroddiad Polisi, Protocol a Rheolaeth Weithredol Mynediad Cefn Gwlad.

Rheolir hawliau tramwy yn narn Sir Fynwy o’r Parc Cenedlaethol ar ein rhan gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Gweler yr hysbysiadau hawliau tramwy cyhoeddus cyfredol YMA.

Caiff gwaith Mynediad Cefn Gwlad ei gefnogi gan wirfoddolwyr unigol, grwpiau lleol a Grwpiau “Cyfeillion …”, sy’n ymgymryd ag ystod eang o dasgau cefn gwlad ar lwybrau cyhoeddus a safleoedd cefn gwlad. Enghreifftiau o dasgau i wirfoddolwyr mae:- ymgymryd â digwyddiadau, dynodi a chyllido gwelliannau, plannu coed, clirio, tasgau cadwraeth, rheoli data, monitro, gosod arwyddion, gwaith syrfëwr, hyrwyddo a chynnal safleoedd a llwybrau cerdded.

Mae “Grwpiau Cyfeillion” a phartneriaid eraill yn helpu i ofalu am ein safleoedd, a’u hyrwyddo. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ar ein safleoedd cysylltwch â countryside@monmouthshire.gov.uk neu dewch o hyd i fwy o wybodaeth am y grwpiau isod:

Cyfeillion Dolydd y Castell

Cyfeillion Parc Cefn Gwlad Rogiet

Parkrun Rogiet

Pysgota ar Ddyfroedd Tref y Fenni – caiff hyn ei reoli ar ein rhan gan gonsortiwm o glybiau pysgota lleol.

Mae’r Pecyn Cymorth Ymgysylltu Cymunedol yn rhoi cyngor a gwybodaeth i grwpiau cymunedol sydd eisiau helpu neu gynnal llwybrau cerdded a llwybrau mynediad arall yn eu hardal leol. Gallai’r rhain fod yn Gynghorau Cymuned, Grwpiau Croeso Cerddwyr, grwpiau cerdded lleol neu sefydliadau eraill.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â grŵp gwirfoddolwyr mynediad cefn gwlad neu dymuno ymwneud â thasg benodol, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Tîm Mynediad Cefn Gwlad drwy e-bost countryside@monmouthshire.gov.uk,

neu ysgrifennu at:

Mynediad Cefn Gwlad, MonLife

Cyngor Sir Fynwy

Neuadd y Sir

Y Rhadyr

Brynbuga NP16 1GA

Mae ffliw adar yn glefyd feirysol heintus iawn.   Mae’n effeithio ar system resbiradol, treuliad neu nerfol llawer o rywogaethau o aderyn.

Diweddariad sefyllfa:  Mae’r achosion ar Ynys Gwales wedi lledu o fewn y nythfa (gweler yma am y diweddaraf o’r RSPB) ac rydym yn derbyn adroddiadau bod adar yn golchi i’r lan ar arfordir y tir mawr ac mae adar pellach wedi eu cadarnhau fel yn profi’n bositif yng Nghymru (gweler yma am adroddiadau gwyliadwriaeth adar gwyllt APHA).   Mae Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi datgan Parth Diogelu Ffliw Adar Cymru gyfan o’r 17 Hydref 2022.  Bydd y Parth Atal yn berthnasol i Gymru gyfan.   Bydd yn gofyn i bob ceidwad adar gadw at rai mesurau bioddiogelwch, fel y nodir yn y datganiad.   Gall hyn effeithio ar fynediad y cyhoedd wrth i geidwaid dofednod gynyddu mesurau bioddiogelwch er mwyn atal halogi, fel diheintio esgidiau.

Mae mwy o fanylion am ffliw adar ar www.gov.uk a map rhyngweithiol yma: Gwefan ArcGIS.

I roi gwybod am adar gwyllt a allai fod wedi’u heintio, neu sydd wedi marw o’r haint, ffoniwch swyddfa leol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith ar 0300 303 8268. Bydd eu milfeddygon yn ymchwilio i achosion tybiedig. Gallwch hefyd rannu unrhyw adroddiadau sydd gennych ar farwolaethau gyda CNC trwy e-bost Ffliw Adar CNC (ffliwadarcnc@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk)

Nid oes unrhyw lwybrau cyhoeddus na mathau eraill o hawliau tramwy cyhoeddus, na safleoedd cefn gwlad ar gau o ganlyniad i’r ffliw adar yn Sir Fynwy.

Er mwyn sicrhau bod y safleoedd hyn ar gael i bawb ac i reoli gweithgareddau, mae ein safleoedd cefn gwlad yn cael eu rheoleiddio gan is-ddeddfau. Am unrhyw ymholiadau megis problemau, digwyddiadau neu ddefnydd masnachol o’r safleoedd, cysylltwch â ni ar:

Ffôn: 01633 644850

E-bost: countryside@monmouthshire.gov.uk

Ysgrifennu at:

Mynediad Cefn Gwlad, BywydMynwy
Cyngor Sir Fynwy
Neuadd y Sir
Y Rhadyr
Brynbuga
NP16 1GA

This post is also available in: English