Yr Hen Orsaf, Tyndyrn
Mae’r Hen Orsaf wedi datblygu enw da fel un o brif ganolfannau ymwelwyr yr ardal, gyda’n cerbydau rheilffordd a adnewyddwyd yn ddiweddar yn cynnig llu o wybodaeth a hanes lleol, yn ogystal â rheilffordd model graddfa-N, man chwarae plant dan do a chyflwyniad fideo o hanes Rheilffordd Dyffryn Gwy a Chylch y Chwedlau.
Mwynhewch daith hamddenol ar hyd y llwybr cerdded cylchol trwy’r dolydd hardd ac ar hyd yr afon, gan fwynhau golygfeydd godidog o Ddyffryn Gwy. Rydym yn safle sy’n gyfeillgar i gŵn ac yn croesawu cŵn yn yr ystafelloedd te yn ogystal ag yn ein hardal bicnic. Gofynnwn yn gwrtais i bob ci gael ei gadw ar dennyn a’ch bod yn glanhau ar ôl eich ci.
Mae mynediad i’r Hen Orsaf, Tyndyrn yn rhad ac am ddim, ond rydym yn gofyn am ffi parcio sy’n dod yn ôl i’r safle ar gyfer cynnal a chadw ac uwchraddio hanfodol.
Ostin, y pathew – Pecynnau Gweithgareddau Teuluol
Pan fyddwch yn ymweld â Hen Orsaf Tyndyrn, dywedwch helo wrth Ostin y pathew!
Ostin yw Pathew Hen Orsaf Tyndyrn ac mae e’n llawn hwyl! I lawr yn Hen Orsaf Tyndyrn gallwch ddod o hyd i Ostin rhwng tudalennau ein pecyn Archwilio a Chreu gweithgareddau teuluol newydd sbon.
Mae’n llawn syniadau a gweithgareddau ar gyfer archwilio’r safle, ac mae Ostin yn awyddus i chi barhau â’r hwyl pan fyddwch yn cyrraedd adref, felly mae wedi ychwanegu mwy o weithgareddau i chi eu lawrlwytho isod.
Gwehyddu eich Celfwaith Crog Wal eich hun
Mwynhewch a pheidiwch ag anghofio dangos i ni ar Twitter yr hyn rydych wedi’u creu – @Mon_Heritage.
Dyfrgi Meddylgar – Pecyn natur a lles
Cyflwyno ein pecyn natur a lles ‘Y Dyfrgi Meddylgar’
Yn Hen Orsaf Tyndyrn gallwch ymuno â ‘Dyfrgi’ ac archwilio’r byd natur o’n cwmpas drwy arafu i edrych, gwrando, arogli, cyffwrdd a gwneud! Ymunwch â ni ac archwiliwch fod yn ystyriol o natur!
Mae’r pecyn Gweithgareddau yn costio £5 gyda blaendal ad-daladwy o £5 (ar gyfer llogi’r bag gweithgaredd) ac mae ar gael o’n Hystafell De. Pam oedi felly? Dewch i ymweld â’r Dyfrgi heddiw ac archwiliwch ‘Y Dyfrgi Meddylgar’.
Priodasau yn Hen Orsaf Tyndyrn
Dewch i ddathlu eich diwrnod arbennig yng nghyffiniau prydferth Hen Orsaf Tyndyrn. Mae’r Blwch Signalau ar gael i’w logi ar gyfer eich seremoni briodas ac mae’n addas ar gyfer uchafswm o 20 o westeion gyda phrisiau’n dechrau o £651.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth yn OldStationTintern@monmouthshire.gov.uk
Partïon Coetsis ac Archebion Grŵp
Mae croeso i goetsis a grwpiau mawr yn Hen Orsaf Tyndyrn ond mae archebu lle yn hanfodol cyn ymweld â ni.
Anfonwch e-bost atom: oldstationtintern@monmouthshire.gov.uk
Cysylltwch â Ni
Ffôn: 01291 689566
Ebost: oldstationtintern@monmouthshire.gov.uk
Dilynwch Yr Hen Orsaf, Tyndyrn ar Twitter @oldstationttn
Hoffwch ein tudalen Facebook
This post is also available in: English