Swimming Lesson FAQ’s - Monlife

Cwestiynau Cyffredin am Wersi Nofio

Mae 5 prif adran i Fframwaith Dysgu Nofio Cymru: 

  • Swigod – Mae Swigod yn rhoi cyflwyniad gyda chefnogaeth lawn i’r amgylchedd dyfrol ar gyfer babanod a phlant ifanc gydag oedolyn gyda nhw, wedi’i anelu’n benodol at blant 6 mis – 3 blwydd oed. 

 

  • Sblash – Mae Sblash yn annog plant ifanc i ddarganfod yr amgylchedd dyfrol yn gynyddol annibynnol a dan arweiniad i ddatblygu hyder dŵr, wedi’i anelu’n benodol at blant 3+ oed. 

 

  • Ton – y prif faes ‘Dysgu Nofio’. Addysgir y sgiliau dyfrol angenrheidiol i blant o 4/5 oed fel arfer i ddysgu nofio, sgiliau i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyfrol eraill tebyg i bolo dŵr ac addysgir sgiliau diogelwch dŵr hanfodol eraill iddynt hefyd fel eu bod yn dysgu sut i fod yn ddiogel yn ac o amgylch dŵr. 

 

  • Sgiliau – Mae’r rhan hon o’r llwybr yn rhannu i wahanol ddisgyblaethau dyfrol, polo dŵr, plymio, nofio cyfamserol ac achub bywyd. Caiff sgiliau a ddysgwyd yn y Tonnau eu datblygu ymhellach gyda phwyslais penodol ar fod yn benodol i ddisgyblaeth. Gall y dosbarthiadau hyn gael eu cyflwyno naill ai mewn rhaglen Dysgu Nofio neu yn adran gyflwyno clybiau. 

 

  • Nofio Ysgol – Dysgu sgiliau cymhwysedd dŵr, diogelwch dŵr, ‘Dysgu drwy Chwarae’ a datblygu llythrennedd corfforol yn yr amgylchedd dyfrol yw sylfeini Nofio Ysgol. Mae’r sgiliau a ddatblygir yn gweithio tuag at ein Tonnau Dysgu Nofio.

Cynlluniwyd llwybr Dysgu Nofio Cymru i ganolbwyntio ar gam datblygiad yn hytrach nag oedran y nofiwr. Fodd bynnag, fel canllaw, yr ystod oedran yw: 

Swigod – 6 mis – 3 blwydd oed. 
Sblash – 3 – 5 oed
Ton – 4 oed+
Sgiliau – yn dibynnu ar allu (fel arfer Ton 5+)

Gall faint o amser y mae’n ei gymryd i blentyn ddysgu nofio amrywio’n fawr, yn union fel unrhyw sgil newydd arall. Mae pob plentyn yn dysgu ar eu cyflymder eu hunain ac efallai y byddant yn cael rhai agweddau o nofio yn haws nag eraill. Mae eich plentyn yn debygol o weld cynnydd yn gyflymach os ydynt yn treulio mwy o amser yn y pwll nofio y tu allan i wersi. Mae’r amser ychwanegol yma yn rhoi cyfle i fwy o ymarfer ac yn helpu i gynyddu eu hyder, yn arbennig pan mae ffrindiau agos a’u teulu o’u hamgylch. 

Mae ein Gwersi Nofio yn costio £23 y mis, sy’n daladwy drwy ddebyd uniongyrchol ar 15fed pob mis, neu’r diwrnod busnes nesaf os yw’r 15fed ar ben-wythnos neu ŵyl banc. Gydag aelodaeth Debyd Uniongyrchol Aqua Ifanc, rydych hefyd yn mwynhau budd ychwanegol mynediad i unrhyw un o’n sesiynau nofio cyhoeddus, gan gefnogi datblygiad nofio eich plentyn ymhellach. 

Fel arfer mae ein gwersi nofio yn 30 munud o hyd, yn unol â safonau’r diwydiant. 

Bydd eich plentyn angen dillad nofio addas, tebyg i wisg un-darn, trwser nofio neu siorts tyn. Er y gallai dillad fel siorts bwrdd edrych yn ffasiynol, gallent ei gwneud yn anos mewn gwirionedd i blentyn ddysgu nofio oherwydd mwy o wrthiant dŵr. Efallai y bydd yn well gan rai plant wisgo gogls yn y pwll, a gall hynny fod yn hanfodol ar gyfer y rhai sydd angen sbectol neu lensys cyffwrdd, gan fod gogls presgripsiwn ar gael. 

Argymhellwn fod nofwyr naill ai yn clymu eu gwallt yn ôl yn dyn neu’n gwisgo cap nofio i leihau tynnu sylw neu rwystredigaeth o gael eu gwallt yn eu hwyneb pan fyddant yn nofio. Cynghorir hefyd fod gan nofwyr botel ddiod (heb fod yn wydr) gyda dŵr neu sgwash gwan yn ystod eu gwers, gan fod amgylchedd pwll nofio fel arfer yn gynnes ac mae’n bwysig cadw wedi hydradu. 

Bydd angen i blant weithiau nofio heb gogls neu nofio’n gwisgo dillad wrth iddynt symud ymlaen drwy’r gwahanol wersi. 

Gofynnir i chi bob amser sicrhau fod gan y plentyn dywel i gynhesu a sychu ar ôl y wers, yn ogystal ag unrhyw nwyddau ymolchi sydd eu hangen ar gyfer cael cawod wedyn. 

 

Os nad yw eich plentyn yn teimlo’n dda, mae’n bwysig ystyried eu symptomau cyn penderfynu os dod â hwy i ddosbarth ai peidio. Ni ddylai eich plentyn ddod i ddosbarth os oes ganddo/ganddi symptomau tebyg i ffliw fel twymyn, taflu fyny neu broblemau stumog neu dreulio bwyd. Argymhellir gadael i 48 awr fynd heibio ar ôl i’r symptomau hyn leihau cyn dychwelyd i  wersi.  Ni all eich plentyn ddod i’r pwll am 14 diwrnod o ddiagnosis os oes ganddo/ganddi cryptosporidiosis. Mae hyn yn helpu i sicrhau fod eich plentyn wedi adfer yn llawn ac yn gostwng y risg o roi’r salwch i blant eraill. 

Gall nofio tra’n dost fod yn beryglus ac efallai ledaenu salwch i bobl eraill. Dyma rai canllawiau i’w hystyried: 

  • Twymyn: Os bu gan eich plentyn dwymyn o fewn y 24 awr diwethaf (heb gael moddion), dylai aros adref a pheidio dod i wersi nofio. Gall nofio fod yn anodd a blinderus, ac nid yw plentyn gyda thwymyn yn ddigon da i gael budd o’r gwersi. 
  • Anwyd bach: Os oes gan eich plentyn anwyd bach neu wedi gwella bron yn llwyr o’r anwyd ac yn ymddwyn fwy neu lai fel arfer, mae’n debyg ei fod yn iawn am wersi nofio. Gallai’r dŵr twym a’r amgylchedd llaith hyd yn oed wneud  iddynt deimlo’n well. 
  • Salwch amlwg: Os oes gan eich plentyn lwnc tost difrifol, trwyn yn rhedeg yn barhaus, peswch cyson neu wedi blino’n llwyr, dylent aros gartref. Gall germau ymledu’n rhwydd o un plentyn i’r llall mewn gwers grŵp bach. 
  • Caniatâd meddyg: Os yw eich plentyn ar foddion gwrthfiotig a’r meddyg yn rhoi caniatâd, dylent fod yn iawn i fynychu eu gwers. 
  • Ymddiried yn eich greddf: Os teimlwch nad yw’ch plentyn yn iawn am wersi, ymddiriedwch yn eich greddf. Iechyd eich plentyn yw’r peth pwysicaf, ac weithiau diwrnod o orffwys yw’r hyn maent ei angen. 

Gofynnir i chi i nodi na roddir ad-daliad i chi am unrhyw wersi a gollir. Dylech roi blaenoriaeth bob amser i iechyd a lles eich plentyn ac mae croeso i chi gysylltu â’r ganolfan os oes gennych unrhyw bryderon neu angen mwy o wybodaeth. 

Mae gan ein holl Hyfforddwyr Dyfrol gymhwyster cydnabyddedig. Cynhelir datgeliad DBS manwl ar ein holl hyfforddwyr yn ôl deddfwriaeth gyfredol a maent yn mynychu hyfforddiant Diogelu ac Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc bob tair blynedd. 

Bydd yr hyfforddydd yn addysgu’n bennaf o ochr y pwll. Mae’r safle hwn yn eu galluogi i oruchwylio’r grŵp cyfan, sicrhau diogelwch a rhoi adborth priodol ar berfformiad pob dysgwr. Drwy fod ar ochr y pwll, gellir gweld a chlywed yr hyfforddwyr yn rhwydd tra’u bod nhw yn gweld yr holl ddosbarth. Fodd bynnag, mewn rhai gwersi, mae hyfforddwyr yn addysgu yn y dŵr i roi mwy o arweiniad a chymorth ymarferol. Mae hyn yn bennaf yn nosbarthiadau cynnar Swigod, Sblash a Tonnau. 

Yn bendant! Cynlluniwyd Fframwaith Dysgu Nofio Cymru i sicrhau y dysgir y sgiliau dyfrol sylfaenol i bob plentyn, beth bynnag eu gallu neu anabledd,  y gallant symud ymlaen â nhw i unrhyw faes dyfrol y dymunant ei ddilyn. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol os gwelwch yn dda i drafod anghenion penodol eich plentyn. 

Gorau oll y cynharaf y daw plentyn yn gyfarwydd gyda’r amgylchedd dyfrol a bod yn ac o amgylch dŵr. Hyd yn oed os nad ydych yn nofiwr cryf, bydd gwneud dim mwy na mynd â’ch plentyn i’r pwll a chwarae a chael hwyl yn y dŵr yn eu helpu i feithrin hyder a mwynhau’r profiadau cadarnhaol y gall dŵr eu rhoi. Yn ychwanegol, os yw eich plentyn wedi cofrestru ar gyfer gwersi nofio ar hynbryd, mae eu haelodaeth Debyd Uniongyrchol Aqua Ifanc yn eu galluogi i nofio am ddim yn ein gwersi nofio cyhoeddus. 

CoursePro yw ein system archebu ar gyfer gwersi a chyrsiau chwaraeon. Mae’n helpu i sicrhau y caiff yr holl wybodaeth berthnasol ei chofnodi’n glir ac mae’n gwella cyfathrebu gyda rhieni. 

PorthCartref yw eich cydymaith pennaf ar gyfer rheoli  gwersi nofio a chyrsiau chwaraeon. Gyda chlic neu ddwy, gallwch fonitro cynnydd eich plentyn, talu, symud i wersi newydd ac archebu cyrsiau ar adeg sy’n gyfleus i chi. Mae PorthCartref yn eich galluogi i gymryd rheolaeth o daith ddysgu eich plentyn pan mae’n gyfleus i chi. Os nad oes gennych gyfrif PorthCartref neu ddim ond eisiau mewngofnodi, cliciwch yma PorthCartref2. 

Mae ein hyfforddwyr nofio yn defnyddio llechi symudol MonLife neu iPad i nodi presenoldeb eich plentyn a nodi eu cymhwysedd yn ei ddosbarth. Mae’r dyfeisiau hyn hefyd yn helpu’r hyfforddwyr i gadw trac o enwau’r plant, unrhyw gyflyrau meddygol perthnasol a’r canlyniadau penodol maent yn gweithio arnynt yn eu gwersi. 

Caiff plant eu  hasesu’n barhaus ar hyd eu taith nofio yn seiliedig ar ganlyniadau Fframwaith Dysgu Nofio Cymru. Bydd yr hyfforddydd yn olrhain y gwahanol ganlyniadau y mae angen i’ch plentyn eu pasio i orffen pob gwers. Wrth i’ch plentyn gyflawni pob canlyniad, bydd yr hyfforddydd yn ei farcio fel cymedrol, da neu wedi pasio, a rhoddir stamp dyddiad ar hyn fel y gallwch fonitro cynnydd eich plentyn ar PorthCartref2. Ni fydd asesiad terfynol, ond i symud ymlaen i’r lefel nesaf, mae’n rhaid cyflawni pob canlyniad yn gymwys ac yn gyson. Wrth i’ch plentyn symud ymlaen drwy’r rhaglen, caiff yr hyn mae’n ei gyflawni ei gydnabod gyda gwahanol wobrau, tebyg i fathodynnau a thystysgrifau, y gellir eu prynu o’r dderbynfa. 

Gallwch, gallwch olrhain cynnydd eich plentyn! Drwy gofrestru gyda’r PorthCartref drwy’r ddolen a roddwyd –  PorthCartref2, gallwch fonitro ei gynnydd, gweld bathodynnau a gwblhawyd a symud ymlaen i’r lefel nesaf cyn gynted ag y bydd wedi pasio. 

Na, dim ond chi fydd â mynediad i wybodaeth eich plentyn? 

Pan fydd eich plentyn yn pasio, bydd yr hyfforddydd yn marcio ei fod wedi cwblhau pob canlyniad. Efallai y byddant yn dweud wrthych yn ystod y wers, a byddwch hefyd yn derbyn hysbysiad drwy’r PorthCartref yn cadarnhau fod eich plentyn wedi pasio. 

Gallwch ei symud lan cyn gynted ag y cawsoch ei hysbysu fod eich plentyn wedi pasio. Gellir gwneud hyn yn y Dderbynfa neu drwy eich PorthCartref2. Gofynnir i chi nodi y gwnawn ein gorau i sicrhau fod lle ar gael i’ch plentyn symud ymlaen iddo, ond bydd plant yn parhau yn eu gwersi personol os nad oes lle addas ar gael ar unwaith. 

Mae tystysgrifau a bathodynnau ar gael yn y dderbynfa am £2.95 yr un. 

I ganslo gwersi nofio eich plentyn, cysylltwch â’n tîm Aelodaeth yn uniongyrchol dros y ffôn neu drwy e-bost  monmemberships@monmouthshire.gov.uk. Rhowch enw eich plentyn a manylion y gwersi y mae wedi cofrestru arnynt, a bydd ein staff yn eich cynorthwyo gyda’r broses ganslo. 

Dim ond drwy gysylltu â’r Tîm Aelodaeth erbyn 15fed y mis y galwch ganslo os oes gennych Ddebyd Uniongyrchol. Ar ôl cysylltu â’r tîm aelodaeth, bydd hefyd angen i chi hysbysu eich banc eich bod wedi canslo. Dylid nodi na fedrir prosesu cansliadau yn unrhyw un o’n Canolfannau Hamdden ac mai dim ond deiliad y cyfrif all ganslo’r cyfarwyddyd debyd uniongyrchol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau llawn ar gyfer unrhyw arweiniad pellach: Telerau ac Amodau Gwersi Nofio. 

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod angen i ni ganslo gwersi oherwydd digwyddiadau na chafodd eu rhagweld tebyg i gynnal a chadw hanfodol, ailwampio cyfleuster, tywydd garw, problemau iechyd a diogelwch, neu hyfforddiant. Pan fo hyn yn digwydd, byddwn yn ceisio eich hysbysu cyn gynted ag sydd modd dros y ffôn neu drwy e-bost, felly gofynnir i chi sicrhau fod eich manylion cyswllt diweddaraf gennym. Edrychwch ar ein Telerau ac Amodau i gael gwybodaeth bellach: Telerau ac Amodau Gwersi Nofio. 

This post is also available in: English