Exhibitions - Monlife

Arddangosfeydd

Amgueddfa a Chastell y Fenni

Arddangosfa: “Deall Casgliadau, Datgelu Straeon

Mae’r arddangosfa hon yn arddangos y gwaith a gwblhawyd yn ystod prosiect Adolygu Casgliadau Treftadaeth MonLife diweddar. Mae’r arddangosfa’n dangos y gwaith a wnaed y tu ôl i’r llenni yn ein hamgueddfeydd rhwng 2020 a 2022.

Mae ‘Deall Casgliadau, Datgelu Straeon’ hefyd yn cynnwys gwrthrychau sy’n adrodd hanesion pedwar cymeriad lleol o’r Fenni, a sbardunodd eu straeon ddiddordeb staff casgliadau yn ystod y prosiect. Dyma nhw: Ivy Wall, Walter Jones, John Owen y Fenni, ac Ivor Morgan. Mae’r arddangosfa’n adrodd eu straeon drwy rai o’r pethau roedden nhw’n berchen arnyn nhw, eu defnyddio, neu eu gwneud. Mae hefyd yn adrodd rhan o stori Amgueddfa’r Fenni ei hun, o’i blynyddoedd cyntaf yn y 1950au hyd heddiw. Mae lluniau ar gael i’r arddangosfa a chasgliad o wrthrychau sydd wedi cael eu harddangos yn y gorffennol, yn ogystal â gwrthrychau sydd erioed wedi cael eu harddangos. Hoffai’r amgueddfa ddiolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, rhoddwyr i’r amgueddfeydd ac i’n gwirfoddolwyr am wneud y prosiect hwn a’r arddangosfa yn bosibl.

TU HWNT I’R LLEN: GWELEDIGAETHAU O FYD ARTHUR MACHEN

Mae’r arddangosfa hon yn rhoi sylw i gelf a ysbrydolwyd gan weithiau llenyddol Arthur Machen (1863-1947) a gafodd ei ysbrydoli gan ei gartref yn Sir Fynwy, ei thirlun, hanes ac olion Rhufeinig, yn ogystal â chwedlau o’r oesoedd canol ac Arthuraidd, y gogleisiol a’r goruwchnaturiol, y gwych a’r gwachul.

Mae’n rhoi sylw neilltuol i atgynhyrchiadau gwreiddiol a phrint o gelfweithiau a gomisiynwyd i ddarlunio ailargraffiadau diweddar o straeon Arthur Machen gan The Three Impostors, y cyhoeddwyr o Gasnewydd. Wedi eu sefydlu ddeng mlynedd yn ôl eu nod yw cynhyrchu fersiynau ansawdd uchel, ysgolheigaidd o lyfrau diddorol, print ac allan o brint, ynghyd ag ysgrifennu newydd cysylltiedig. Eu prosiect cyntaf oedd ailgyhoeddi tair cyfrol hunangofiannol Arthur Machen ac maent wedi dal ati i ailargraffu rhai o nofelau Machen yn ogystal â chyfres o straeon byr cysylltiedig â Machen a hefyd weithiau newydd a gwreiddiol gan awduron o Gymru.

Hoffai’r Amgueddfa ddiolch i Richard Frame o The Three Impostors am baratoi’r arddangosfa hon ynghyd, a’r artistiaid ac edmygwyr Arthur Machen a gyfrannodd ati.

Bydd yr arddangosfa yn Amgueddfa y Fenni hyd 18 Rhagfyr 2022 ac mae ar agor bob dydd rhwng 11am – 4pm heblaw am ddyddiau Mercher, mynediad am ddim

This post is also available in: English