Caldicot Castle and Country Park - Monlife
MOS Web Banner-02
MOS Web Banner-01
Events Calendar Creative-02
MyTicket-Event - 2023-11-20T113825.469
Heritage-Slider-01
previous arrow
next arrow

Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed

Bydd Castell Cil-y-coed ar gau am y tymor o 3 Tachwedd ymlaen. Bydd y Parc Gwledig yn dal ar agor i chi ei ymchwilio. Bydd Castell Cil-y-coed yn ailagor ar 26 Mawrth 2024.

Gall ymwelwyr â’r castell archwilio’i hanes, mwynhau teithiau cerdded trwy’r gerddi tawel a’r llwybrau o amgylch y parc, a lluniaeth yn yr ystafell de.

Mae’r castell hefyd yn cynnal digwyddiadau amrywiol drwy gydol y tymor.  Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Rhwng diwedd Hydref ac Ebrill mae mynediad i gerbydau a’r prif faes parcio ar gau rhwng 5.30pm ac 8.00am (er bod maes parcio Church Road yn parhau ar agor).  Mae’r Parc Gwledig yn parhau i fod ar agor yn ystod y cyfnod hwn.

I gysylltu â Chastell Cil-y-coed, anfonwch e-bost, neu ffoniwch 01291 420241.


Pan fyddwch yn ymweld â’r Castell gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud helo wrth Nerys y ddraig!  Draig Castell Cil-y-coed yw Nerys ac mae hi’n llawn hwyl!   Lawr yng Nghastell Cil-y-coed gallwch ddod o hyd i Nerys rhwng tudalennau ein pecyn gweithgareddau Archwilio a Chreu newydd sbon i’r teulu, y gallwch ei brynu ar y safle.

Mae’n llawn syniadau a gweithgareddau ar gyfer archwilio’r safle, ac mae Nerys yn awyddus i chi barhau â’r hwyl pan ddowch adref ac felly mae wedi ychwanegu mwy o weithgareddau i chi eu lawrlwytho isod:

Pastai Ffrwythau Canoloesol

Celf Dail

Mwynhewch a pheidiwch ag anghofio dangos i ni ar Twitter yr hyn rydych wedi’u creu – @Mon_Heritage.


Taith Dywys Castell Cil-y-coed

Dewch i ymuno â ni yng Nghastell Cil-y-coed am gipolwg unigryw ar hanes diddorol a brith un o gestyll harddaf Cymru.  Cynhelir hyn ar ddydd Mercher olaf bob mis, am 2pm.


Priodasau yng Nghastell Cil-y-coed 

Mae eich lleoliad priodas prydferth yn aros amdanoch yma yng Nghastell Cil-y-coed. Bydd ein tîm ymroddedig yn gweithio gyda chi bob cam o’r ffordd i gyflawni priodas eich breuddwydion.

Ers dros 900 mlynedd mae’r olygfa wych o Gastell Cil-y-coed wedi dominyddu’r tirlun.  Wedi’i leoli o fewn 55 erw o barcdir sy’n edrych dros Nant Nedern, mae Castell Cil-y-coed yn lleoliad delfrydol ar gyfer diwrnod eich priodas.  Rydym yn eich gwahodd i gynnal eich seremoni briodas, eich derbyniad a’ch dathliadau gyda’r nos yn ein hamgylchfyd unigryw.

P’un a ydych yn cynllunio cynulliad personol neu ddathliad mwy, rydym yn sicr y bydd ein cwrt godidog a’n neuadd wledda swynol yn creu argraff arnoch. Bydd cyfuniad o dreftadaeth ac ysblander yn gwneud eich diwrnod yn un i’w drysori a’i gofio am byth.

Fodd bynnag, rydym yn sylweddoli y dylai eich diwrnod arbennig fod mor unigryw ag yr ydych chi. Byddai’n bleser gennym felly drafod eich gofynion unigol a’ch cyllidebau er mwyn sicrhau mai Castell Cil-y-coed yw eich dewis cyntaf o leoliad priodas.

This post is also available in: English