Consultation: Community Nature Spaces - Monlife

Croeso i Fannau Natur Cymunedol Y-Fenni

Cynlluniau Dylunio ar gyfer y Safleoedd

Ynglŷn â’r Prosiect

Cefndir:

Mae ein mannau awyr agored cyhoeddus hefyd yn darparu cyfleoedd i fod yn egnïol, cysylltu ag eraill, bod yn greadigol a rhyngweithio â natur, gan wella lles corfforol a meddyliol. Mae cael y cyfle i chwarae mewn amgylcheddau naturiol yn helpu plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, iaith a dealltwriaeth. Mae’r mannau hyn hefyd yn hynod bwysig i fywyd gwyllt ac i ddarparu gwasanaethau fel storio carbon, arafu llif dŵr glaw a darparu ysgyfaint gwyrdd yn ein hardaloedd trefol.

Y Prosiect

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi derbyn cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y cynllun peilot Mannau Natur Cymunedol yn Nhrefynwy a phrosiect Cas-gwent i gyflawni cynllun tebyg yn y Fenni.  Nod y prosiect yw targedu trawsnewidiad gwyrdd o fannau gwyrdd a fydd yn elwa o well rheolaeth ar laswelltiroedd a gwelliannau ecolegol i greu hafanau bach ar gyfer bywyd gwyllt, gan ddarparu cynefin i beillwyr a bywyd gwyllt trefol.  Ond byddant nid yn unig o fudd i fywyd gwyllt; bydd Mannau Natur Cymunedol hefyd yn rhoi cyfleoedd i drigolion ar gyfer chwarae yng nghanol natur wyllt, ardaloedd tyfu cymunedol a llefydd i fyfyrio’n dawel. Mae Ardaloedd Lleol o Chwarae (ALlChoedd).

Gallai Mannau Natur Cymunedol gynnwys:

  • mannau tyfu bwyd cymunedol
  • coed ffrwythau/perllannau cymunedol  
  • dolydd bychain a gwrychoedd brodorol
  • twmpathau a llethrau llawn blodau
  • plannu ar gyfer peillwyr a mathau eraill o fywyd gwyllt
  • plannu coed a llwyni

Cysyniadau a Lluniau

Cynlluniau Dylunio

Maes Chwarae St Helens Close

Clos y Parc

Ysgubor y Majors

Stryd y Mynach Isaf

De-ddwyrain Dan-y-Deri

Yr Orsaf Fysiau

Ynysoedd Dan-y-Deri

Parc Croesonon

Anogir trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i ymweld â thudalen Mannau Natur Cymunedol i weld y dyluniadau, a rhannu eu hadborth erbyn 7fed Ionawr, 2024. Nod y cyngor yw parhau i reoli a gwella mannau gwyrdd y tu hwnt i’r prosiect hwn ac mae’n croesawu syniadau am ardaloedd yn eich cymunedau y teimlwch y gellid eu hystyried fel rhan o gynlluniau’r dyfodol.  I roi adborth neu i rannu eich syniadau ar Fannau Natur Cymunedol e-bostiwch localnature@monmouthshire.gov.uk.

This post is also available in: English