Last year it was confirmed that Chepstow would be the next town to benefit from the Community Nature Spaces Project following the completion of schemes in Monmouth. Residents and stakeholders were asked for their views on possible enhancements for green spaces in the Autumn of 2022. The project is now progressing and it’s time to share your feedback on the four proposed schemes around the town.
The four Chepstow sites that will be taken forward at this time are: The Danes, Severn Crescent, Woolpitch Road and Strongbow Road. These sites have been selected based on responses received during the first stages of the consultation and where it’s possible to meet the needs of the environment and the community.
Residents, businesses and community groups are encouraged to visit the Community Nature Spaces webpage to see the designs and share their feedback by 10th March 2023. Following this feedback period, the council wants to continue management and enhancement of green spaces, so ideas are welcomed at any time.
Cllr. Sara Burch, Cabinet Member for Active & Inclusive Communities said: “I am pleased to see the four schemes taking shape in these proposals for Chepstow. The response to the consultation last year was fantastic and has helped to shape these schemes. I look forward to Chepstow having new, green and beautiful spaces to enjoy and relax in in the future.”
Cllr. Catrin Maby, Cabinet Member for Climate Change & the Environment said: “These spaces will enrich the environment in Chepstow for people and for wildlife. They will also bring health and wellbeing benefits for everyone. I would encourage as many local people to share their feedback as possible and help make these spaces truly for the community.”
The Community Nature Spaces Project, supported by Welsh Government’s Local Places for Nature funding, aims to improve our green spaces for nature and help support opportunities for health and wellbeing. This can be done in a variety of ways, such as by planting trees, adding raised beds for community food growing and increasing wildflower planting for pollinators. They will be places to get up close to nature and get active. To find out more visit: www.monlife.co.uk/outdoor/consultation-community-nature-spaces/
Woolpitch WoodSevern CrescentStrongbow RoadThe Danes
Cadi te – gyda chapsiynau. Mae ein casgliadau’n cynnwys eitemau sy’n datgelu cynnyrch yr Ymerodraeth Brydeinig. Bydd y gwaith hwn yn dehongli’r gwrthrychau hyn yn well.
Mae MonLife, sy’n rhedeg gwasanaeth Treftadaeth MonLife Cyngor Sir Fynwy, wedi sicrhau dau ddyfarniad cyllid gwerth dros £415,000 gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r dyfarniad yn galluogi Treftadaeth MonLife i weithio’n agos gyda chymunedau yn Sir Fynwy, dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau bod straeon pawb yn cael eu hadrodd yn amgueddfeydd y sir.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu £241,697 ar gyfer y prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Blwch’ sy’n darganfod a rhannu casgliad hanes lleol Trefynwy. Bydd y gwaith hwn yn trawsnewid sut y cofnodir casgliadau hanes lleol Trefynwy, gan eu gwneud yn berthnasol i gymunedau heddiw.
Adolygiad Casgliadau – gyda chapsiynau. Bydd ein prosiectau yn ein galluogi i wella gwybodaeth am ein casgliadau a mynediad atynt
Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2025 a bydd y tasgau’n cynnwys: Gwella cronfa ddata catalogau cyfrifiadurol a chomisiynu adroddiad ar arteffactau ymerodraethol, caethwasiaeth a gwladychiaeth o fewn y casgliad hanes lleol, i ategu adroddiadau a gynhyrchwyd yn ddiweddar am gasgliadau amgueddfeydd yn y Fenni a Chas-gwent.
Bydd tîm Treftadaeth MonLife yn gweithio gyda grwpiau cymunedol amrywiol i archwilio’n gritigol sut a beth sy’n cael ei gofnodi am gasgliadau, gan gynnwys nodi termau allweddol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda Chyngor Hil Cymru i gefnogi sesiynau gyda grwpiau hil amrywiol; y rhai sydd ag anabledd a’r gymuned LHDTC+, ac yn gweithio gyda phobl sy’n deall ecoleg a newid yn yr hinsawdd.
Bydd y prosiect hwn yn arwain at arddangosfa deithiol gymunedol wedi’i chyd-guradu, sy’n archwilio’r cwestiwn “Beth sy’n gwneud Trefynwy?” Bydd hyn yn golygu bod modd clywed gwahanol safbwyntiau, archwilio cyd-destunau newydd ac adrodd amrywiaeth o straeon. Bydd yr arddangosfa yn mynd o amgylch lleoliadau cymunedol, gan rannu casgliadau gyda chynulleidfaoedd newydd na fyddai efallai wedi ymweld â’r amgueddfa o’r blaen. Bydd cyd-arddangosfa yn y Neuadd Sirol yn galluogi themâu a archwilir yn y prosiect i gael eu harddangos a threialu dulliau newydd cyn ailddatblygiad Amgueddfa’r Neuadd Sirol. Bydd rhaglen ymgysylltu cymunedol o sesiynau dysgu, gweithdai trafod, sesiwn y Dadeni a gweithgareddau crefft yn hwyluso trafodaeth am ein casgliadau.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae treftadaeth ar gyfer pawb, ac rydym am weld ystod ehangach o bobl yn ymwneud â threftadaeth, a dyna pam rydym yn cefnogi prosiect ‘Casgliadau Deinamig – Agor y Blwch’ Cyngor Sir Fynwy. Trwy ein cyllid rydym yn ceisio dod â chymunedau ynghyd drwy ymgysylltu’n ddyfnach â threftadaeth, yn enwedig drwy ddod o hyd i ffyrdd creadigol o ddod â threftadaeth i gynulleidfaoedd newydd. Bydd hyn yn helpu i drafod ac archwilio ein treftadaeth fel y gall pobl a chymunedau ledled Cymru ymgysylltu â, dehongli, a chyd-ddeall ein gorffennol.”
I gefnogi casgliadau Treftadaeth MonLife yn Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent, mae MonLife wedi derbyn £173,318 gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid ar gyfer y prosiect ‘Ymchwilio, ail-archwilio ac adennill: etifeddiaeth a diwylliant cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Sir Fynwy’. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at y nodau treftadaeth yng Nghynllun Gweithredu Atal Hiliol Cymru. Mae’r wobr yn adeiladu ar waith a ddechreuwyd yn y ddwy amgueddfa, a bydd yn arwain at well dehongliad o’r casgliadau, gan gynrychioli’n well eu cysylltiadau â chaethwasiaeth, gwladychu ac ymerodraeth a chydnabod rôl cymunedau Sir Fynwy yn y gorffennol mewn caethwasiaeth, ymerodraeth a globaleiddio.
Gyda gyda Chyngor Hil Cymru, bydd Treftadaeth MonLife yn cynnal gweithdai cymunedol i archwilio ffyrdd o ddehongli’r casgliadau’n well. Bydd cydweithio â’r cymunedau’n galluogi’r tîm Dysgu a Churaduriaeth i greu rhaglen weithgareddau, sy’n debygol o gynnwys digwyddiadau diwylliannol ac arddangosfeydd mewn lleoliadau Sir Fynwy. Yn ogystal, bydd gweithgareddau cymunedol a dysgu mewn ysgolion lleol ac yn amgueddfeydd y sir. Bydd y cynnwys yn cael ei ysbrydoli gan y casgliadau a threftadaeth leol.
Ymwelodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, ag Amgueddfa’r Fenni yn ddiweddar a dywedodd: “Roedd yn ardderchog i ddysgu mwy am sut y bydd ein cyllid yn cael ei ddefnyddio gan MonLife. Mae angen i’n hamgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, theatrau, a lleoliadau chwaraeon cenedlaethol a lleol fod yn gynhwysol o bobl a lleoedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Rhaid i’n diwylliant, ein treftadaeth a’n gwasanaethau chwaraeon fod yn gymwys yn ddiwylliannol ac yn adlewyrchu’r hanes a’r cyfraniad a wnaed gan bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i’r gymdeithas yng Nghymru.
“Rydw i wedi ymrwymo i gyflawni’r nodau a’r camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu o fewn fy mhortffolio. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae prosiect MonLife yn cyfrannu at ein cynnydd parhaus wrth i ni sicrhau newid ystyrlon gyda phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru, ac ar eu cyfer.”
Mae’r gwaith hwn yn ategu penderfyniad diweddar Cyngor Sir Fynwy i ddod yn aelod o rwydwaith Dinas Noddfa ac i ddechrau’r broses o wneud cais ffurfiol i fod yn sir noddfa i’r rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithredol: “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr arian yma gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd yn arwain at welliannau arwyddocaol yn y ffordd mae ein casgliadau treftadaeth yn cael eu dehongli, eu harddangos a’u cyfathrebu. Bydd y gweithgareddau, sydd wedi eu cynllunio yn y ddwy raglen hyn, yn ein helpu i nodi a rhannu â phobl y straeon sy’n gysylltiedig â’n casgliadau a’n bro, sy’n dathlu amrywiaeth ddiwylliannol lawn ein cymunedau yn Sir Fynwy a bydd yn galluogi cynrychiolaeth o’n holl gymunedau yn ein hamgueddfeydd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Hil Cymru i sicrhau bod ein casgliadau yn berthnasol, yn barchus ac yn gynhwysol.”
Mae MonLife wedi llunio rhaglen o weithgareddau cyffrous i blant, pobl ifanc a theuluoedd i’w mwynhau yn ystod hanner tymor ysgol mis Chwefror eleni.
Mae Gemau Sir Fynwy yn dychwelyd, gan ddarparu cyfle gwych i ddysgu sgiliau newydd, magu hyder, cwrdd â phobl newydd ac yn bwysicaf oll cael hwyl drwy chwaraeon. Bydd y rhaglen wythnos o hyd yn rhedeg o ddydd Llun 20fed hyd at ddydd Gwener 24ain Chwefror a chaiff ei gynnal ar draws canolfannau hamdden y sir (Y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy). Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth a’r ffurflen archebu – www.monlife.co.uk/cy/monactive/childrens-activities/the-monmouthshire-games/
Yng nghanolfan hamdden Trefynwy mae’r ganolfan chwarae dan do, sy’n cynnwys drysfa ddringo tri llawr cyffrous, sy’n cynnwys system amseru unigryw curwch y cloc. Mae yna hefyd ardal twdlod ddynodedig (sy’n gaeedig). Mae’r ganolfan chwarae ar agor saith diwrnod yr wythnos (heblaw gwyliau’r banc) rhwng 10am a 5.30pm ac mae’n addas ar gyfer yr oedrannau babanod a phlant bach (0-3), plant ifanc (4-8) a phlant hŷn (9-11). Nodwch oherwydd archeb breifat mae’r ganolfan chwarae ar gau i’r cyhoedd Dydd Sadwrn 18fed ac 25ain Chwefror o 4pm-6pm.
Mae digon o hwyl hefyd i’r teulu cyfan ym mhyllau’r canolfannau hamdden gyda sesiynau anhygoel i’ch diddanu chi neu’ch plant. Darganfyddwch fwy Nofio – Gweithgareddau Gwyliau MonLife
Mae llawer o hwyl am ddim i’w gael yn Amgueddfeydd MonLife. Dilynwch y llwybrau chwarae yn amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent, chwarae gwisg yn Amgueddfa’r Neuadd Sirol yn Nhrefynwy a byddwch yn greadigol gyda’n byrddau sialc, stondin farchnad a gemau ‘datryswch y drosedd’. Gall plant hefyd goginio rhywbeth yng Nghegin Fwd Amgueddfa’r Fenni a chwarae yn y gerddi gyda gwarbaciau arbennig wedi’u llenwi â phethau hwyliog i’w gwneud yn yr awyr agored, teganau a gemau.
Gall pobl ifanc hefyd fynd yn gudd yn y Neuadd Sirol yn Nhrefynwy, ac amgueddfeydd Cas-gwent a’r Fenni, a phrofi eu sgiliau ditectif fel rhan o Lwybr Dirgelwch Montgomery Bonbon cenedlaethol yr Amgueddfa, a drefnwyd gan Kids in Museums a Walker Books. Mae’r llwybr yn dathlu rhyddhau llyfr plant newydd Montgomery Bonbon: Murder at the Museum a ysgrifennwyd gan y digrifwr Alasdair Beckett-King a darluniwyd gan Claire Powell. Felly beth am ymweld ag amgueddfeydd Sir Fynwy dros hanner tymor ac ymuno â’r hwyl am ddim. I ddod o hyd i oriau agor yr amgueddfa ewch i: www.monlife.co.uk/cy/heritage/
Bydd MonLife hefyd yn cynnal sesiynau Aros a Chwarae am ddim lle bydd plant a theuluoedd yn cael y cyfle i ddewis o lawer o weithgareddau gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu i ble bynnag y mae eu dychymyg yn eu cymryd. Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yn Hen Ysgol Eglwys Rhaglan ar yr 21ain Chwefror rhwng: 10am-hanner dydd; y Neuadd Sirol, Trefynwy ar yr 21ain Chwefror rhwng 1:30pm-3:30pm; Cwt y Sgowtiaid a Geidiaid Magwyr ar y 23ain Chwefror rhwng 10am-hanner dydd; Ysgol Gynradd Deri View ar y 23ain Chwefror rhwng 1:30pm-3:30pm. Nodwch fod angen goruchwyliaeth gan rieni ar gyfer plant dan 11 oed. Archebwch nawr trwy’r ffurflen ganlynol: https://forms.office.com/e/w38MZvNMGp
Bydd MonLife yn cynnal sesiynau Chwarae Gweithredol AM DDIM yn y Fenni, Cas-gwent, Cil-y-coed a Threfynwy yn ystod gwyliau hanner tymor mis Chwefror. Mae rhaglen Chwarae Gweithredol MonLife yn 1 awr a 55 munud lle gellir gadael plant 5-11 oed gyda’n gweithwyr chwarae hynod hyfforddedig a phrofiadol, a dewis o amrywiaeth o weithgareddau i’w chwarae gan gynnwys chwarae corfforol, celf a chrefft, adeiladu ffau neu ble bynnag mae eu dychymyg yn eu cymryd. Mae’r sesiynau hyn bellach wedi’u harchebu’n llawn
Bydd y canolfannau ieuenctid ar draws y sir hefyd ar agor ar ddiwrnodau penodol er mwyn i bobl ifanc ymweld â nhw. Maen nhw’n ofod diogel i bobl ifanc gael mynediad, lle gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau, cwrdd â ffrindiau newydd, gyda chefnogaeth Gweithwyr Ieuenctid cymwys a chofrestredig. Bydd Yr Attik, Trefynwy, ar agor ddydd Mawrth 21ain rhwng 3pm a 5pm, dydd Mercher 22ain rhwng 3pm ac 8pm a Dydd Gwener 24ain rhwng 3pm a 6pm. Bydd Y Caban, Y Fenni ar agor dydd Mawrth 21ain a dydd Mercher 22ain Chwefror, 3pm-8pm a dydd Gwener 24ain, 3pm-6pm. Bydd Y Parth, Cil-y-coed ar agor ddydd Mawrth 21ain 2pm-8pm a bydd canolfan ieuenctid ‘The Pav’ yn Thornwell, Cas-gwent, ar agor ddydd Mawrth 21ain rhwng 2pm ac 8pm a Dydd Gwener 24ain Chwefror 2pm-7pm.
Arhoswch gartref os oes gennych chi neu unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw Symptomau Coronafeirws, mae hyn yn cynnwys os yw Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru wedi cysylltu â chi ac y dywedwyd wrthych am hunan-ynysu
Byddwch yn wyliadwrus o ran golchi dwylo a hylendid
Pa Safleoedd Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd ar agor?
Mae pob un o’n safleoedd cefn gwlad ar agor i’w defnyddio ac nid oes meysydd parcio ar gau ar hyn o bryd.
Mae pob llwybr sydd ar gau yn cael ei adolygu a bydd unrhyw ddiwygiadau’n ymddangos yma. Gellir dod o hyd i fanylion am gau llwybrau oherwydd llifogydd, pontydd peryglus ac ati yma.
Cyn ymweld
Gwnewch eich addewid i Gymru i ofalu am ein cymunedau lleol a gwarchod ein tirweddau.
Cynlluniwch o flaen llaw – gwiriwch beth sydd ar agor ac ar gau cyn i chi gychwyn. Paciwch hylif diheintio dwylo a mygydau wyneb.
Osgowch dorfeydd – Dewiswch le tawel ac os yw’n brysur ewch i gyrchfan wahanol.
Os yw ein meysydd parcio yn llawn, neu’n brysur, dewch yn ôl dro arall a pheidiwch â pharcio ar ffyrdd mynediad neu ffyrdd cyfagos.
Peidiwch ag oedi mewn meysydd parcio, fel bod eraill yn gallu mynd a dod yn ddiogel.
Ewch â’ch sbwriel adref
Mae nifer o lwybrau troed a llwybrau ceffylau yn croesi gerddi preifat, ffermydd a thir fferm. Cofiwch gadw at y llwybrau a dilynwch y Cod Cefn Gwlad newydd.
Hefyd, i gael gwybodaeth am ble i gerdded, neu i roi gwybod am broblemau, defnyddiwch ein Map Mynediad Cefn Gwlad Mae’r Gwasanaeth Mynediad Cefn Gwlad yn derbyn nifer fawr o adroddiadau o ran problemau ar hyn o bryd. Nodwch os ydych yn adrodd am unrhyw beth, mae’n ddigon posib y bydd oedi cyn i chi dderbyn ymateb. Mae ein swyddfeydd yn Rhaglan a Neuadd y Sir o hyd ar gau i’r cyhoedd a bydd yn cymryd peth amser cyn y bydd yr holl weithgareddau gwirfoddoli yn cael eu hail-ddechrau.
Dychwelodd ymwelydd i ganolfan hamdden Cil-y-Coed yn ddiweddar i ddiolch i staff y ganolfan am eu hymateb cyflym, pan ddioddefodd argyfwng meddygol allai fod yn angheuol yn gynharach yn y flwyddyn. Cafodd Alan Owen o Gaerfyrddin trawiad ar y galon tra roedd mewn Twrnamaint Pêl-droed Cerdded yn y ganolfan hamdden ar ddydd Sul 3ydd Ebrill 2022.
Mae ymyrraeth uniongyrchol staff a chwaraewyr yn y digwyddiad yn cael ei gredydu am achub ei fywyd. Cafodd Alan Adfywio Cardio-pwlmonaidd a defnyddiwyd diffibriliwr, cyn i Alan gael ei gludo mewn awyren i Ysbyty’r Mynydd Bychan, Caerdydd, lle cafodd lawdriniaeth i gael diffibriliwr cardioverter wedi’i fewnblannu ac i osod stentiau.
Alan Owen gyda chydweithiwr MonLife. Helpodd eu gweithredoedd cyflym a’u hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd i achub ei fywyd ym mis Ebrill 2022
Yn ystod ymweliad ag Alan â chanolfan hamdden Cil-y-coed fis diwethaf, cyfarfu â Kirsty Burnett, Briden Whitbread a’r Swyddog Dyletswydd Justin Aylett, i ddiolch iddynt am eu gweithredoedd achub bywyd. Roedd holl staff y ganolfan hamdden wrth eu bodd yn gweld Alan yn edrych mor dda.
Mae gan holl ganolfannau hamdden MonLife ar draws Sir Fynwy hyfforddiant misol i bob Achubwr Bywyd o ran Adfywio Cardio-pwlmonaidd, a defnyddio’r peiriannau diffibriliwr, i sicrhau eu bod yn barod pe bai argyfwng meddygol yn digwydd
Y Cynghorydd Dywedodd Sara Burch, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar: “Rwyf mor falch o’n cydweithwyr yng nghanolfan hamdden Cil-y-coed am eu hymyrraeth gyflym, a hebddo gallai’r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn. Mae wir yn dangos y pwysigrwydd o gael hyfforddiant o ran Adfywio Cardio-pwlmonaidd a’r defnydd o ddiffibrilwyr. Rwy’n falch iawn o weld Alan wedi gwella mor dda a diolch iddo am ei garedigrwydd wrth ddod yn ôl i ymweld â Kirsty, Briden a Justin, a gweddill y tîm yng Nghil-y-coed.”
Meddai Alan Owen: “Heb ymyrraeth gynnar y chwaraewyr a’r staff a wnaeth berfformio Adfywio Cardio-pwlmonaidd a gweinyddu tair sioc trwy’r diffibriliwr ar y safle, fyddwn i ddim yn fyw heddiw. Roedd yr hyfforddiant y gwnaeth y staff ymgymryd ag ef a’i roi ar waith ar y diwrnod hwnnw wedi cyfrannu at achub fy mywyd.”
Mae hyfforddiant Adfywio Cardio-pwlmonaidd yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, a gall unrhyw un ei ddysgu. Mae gwefan Sefydliad Prydeinig y Galon yn cynnwys cyflwyniad defnyddiol i’r pethau sylfaenol: www.bhf.org.uk/how-you-can-help/how-to-save-a-life
YN LLWYR WAHARDDEDIG TAN 5:00PM AR DDYDD GWENER 9FED RHAGFYR 2022
Mae un o enwau mwyaf adnabyddus diwydiant cerddoriaeth y DU newydd gadarnhau eu bod yn dod i Sir Fynwy yn haf 2023. Mae High Flying Birds Noel Gallagher wedi cadarnhau eu bod yn chwarae dyddiad arbennig yng Nghastell Cil-y-coed, ddydd Sadwrn 19eg Awst.
Yn aml yn cyflwyno perfformiadau o’r radd flaenaf mewn lleoliadau awyr agored o fri, bydd High Flying Birds Noel Gallagher yn perfformio sioe untro ar dir y castell, a fydd yn cynnwys detholiad o ganeuon mwyaf poblogaidd y band, o Oasis i ffefrynnau radio cyfoes. Mae High Flying Birds Noel Gallagher, ers 2011, wedi rhyddhau tri albwm stiwdio, casgliad o EPs ac wedi chwarae cannoedd o sioeau byw ledled y DU. Yn haf 2022, cwblhaodd y band daith ledled y wlad o sioeau awyr agored gyda set ar Lwyfan y Pyramid yn Ynys Wydrin.
Mae’r cyhoeddiad am ddyddiad Castell Cil-y-coed yn dilyn rhyddhau sengl newydd sbon y band ‘Pretty Boy’, a ymddangosodd yn ddiweddar fel Record yr Wythnos ar BBC Radio 2. Mae’r trac yn nodi dechrau pennod greadigol newydd a cherddoriaeth newydd gyntaf o albwm stiwdio newydd Noel sydd i ddod, a fydd yn cael ei ryddhau’r flwyddyn nesaf.
Mae Castell Cil-y-coed wedi ennill enw da am gynnal bandiau enwog sydd ar frig y siartiau, gan gynnwys y band merched Little Mix, ym mis Awst 2017, a Status Quo yn haf 2015. Mor ddiweddar â mis Medi 2022, roedd y castell yn gartref i fand gwerin lleol sydd wedi ennill dilyniant enfawr, Rusty Shackle, gan nodi rhyddhau eu halbwm diweddaraf.
Pan fyddan nhw’n dod i Gil-y-coed, bydd High Flying Birds Noel Gallagher yn cael eu cefnogi gan y ffefrynnau lleol Feeder. Ers ei ffurfio ym 1994, mae’r band wedi rhyddhau 11 albwm stiwdio ac wedi treulio cyfanswm cyfun o 184 wythnos ar y siart senglau ac albymau. Daeth eu halbwm uchel ei glod ‘Torpedo’ allan yn gynharach eleni gan barhau â fformiwla fuddugol y band gyda byrdynau mawr, emosiynau mwy, ac, wrth gwrs, alawon enfawr.
Bydd Goldie Lookin’ Chain o Gasnewydd yn ymuno â nhw, yn swyddogol grŵp rap mwyaf Prydain. Yn adnabyddus am ‘Guns don’t kill people rappers do’, mae’r grŵp wedi rhyddhau 18 albwm dros eu gyrfa 22 mlynedd.
Meddai Pablo Janczur, hyrwyddwr Orchard Live: “Rydym yn gyffrous iawn am y sioe wirioneddol enfawr hon sy’n dod i Gastell Cil-y-coed. Rydym wedi bod eisiau dod â dewis roc gwych i’r lleoliad hwn ers peth amser a beth sy’n well na High Flying Birds Noel Gallagher yn cael eu cefnogi gan Feeder ar noson hyfryd o haf. Mae’n mynd i fod yn ddiwrnod anhygoel.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sirol Mary Ann Brocklesby: “Rwy’n hynod falch y byddwn yn llwyfannu cyngerdd arall o’r radd flaenaf yn lleoliad prydferth Castell Cil-y-coed yr haf hwn. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu High Flying Birds Noel Gallagher, Feeder a Goldie Lookin’ Chain, yn ogystal â miloedd o ymwelwyr a thrigolion i’r hyn sy’n addo bod yn noson arbennig iawn.”
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am MonLife: “Mae’n gyffrous iawn gweld gweithredoedd o safon mor uchel yn dod i Sir Fynwy, a hefyd yn newyddion gwych bod y trefnwyr wedi rhoi cyfle i drigolion lleol sicrhau tocynnau cyn i’r gwerthiant cyffredinol ddigwydd. Mae Castell Cil-y-coed yn lleoliad mor brydferth ac rydym yn falch iawn ohono – mae ganddo gymaint i’w gynnig fel lleoliad cyngerdd, yn ogystal â bod yn atyniad aruthrol i’r teulu gyfan drwy’r flwyddyn. Rydym yn edrych ymlaen at weld pawb yn y castell ar Awst 19eg y flwyddyn nesaf.”
Cadarnhawyd hefyd y bydd trigolion lleol rhan o’r cynlluniau yn y cyfnod yn agosach at y digwyddiad, er mwyn sicrhau cyn lleied o effaith â phosib ar gymuned Cil-y-coed. Mae gwybodaeth lawn am ddigwyddiadau ar gael yn www.caldicotcastle.co.uk
Roedd Natur Wyllt Gwent a Thîm Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent wedi mynychu Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd ar 24ain Tachwedd.
Roedd y tîm yn ail yn y ddau gategori lle’r oeddynt ar y rhestr fer, a hynny ymhlith nifer o geisiadau cenedlaethol a rhanbarthol. Y categori cyntaf oedd Ardderchowgrwydd mewn Cadwraeth a Gwella Bioamrywiaeth ar gyfer un o brosiectau Natur Wyllt a’r ail gategori oedd Partneriaeth a Chydweithredu a oedd yn cydnabod gwaith eithriadol a wnaed i’r tirwedd fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent.
Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd yw un o’r digwyddiadau mwyaf yn y diwydiant, sy’n dathlu pobl, lle a natur, a’r nifer o ffyrdd y gall prosiectau tirwedd eu cydgysylltu. Mae’n dathlu gofodau y gall pobl fod yn wirioneddol falch ohonynt, a bu cyfanswm o dros 200 o geisiadau eleni, gan gynnwys 53 gan gystadleuwyr rhyngwladol.
Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yn gydweithrediad rhanbarthol arloesol newydd sy’n ceisio gwella a datblygu “Seilwaith Gwyrdd”; term a ddefnyddir i ddisgrifio’r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol a mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n plethu a chysylltu ein pentrefi, trefi a dinasoedd yn ogystal â helpu i gefnogi cyfleoedd am swyddi o fewn yr ardal. Mae gan Seilwaith Gwyrdd rôl hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â natur, newid yn yr hinsawdd, iechyd ac argyfyngau economaidd.
Mae’r prosiect Natur Wyllt yn sefydlu gwaith rheoli mannau gwyrdd cydgysylltiedig i greu cynefinoedd pryfed peillio llawn blodau gwyllt ar draws ardaloedd awdurdodau lleol Gwent – Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen – fel rhan o Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent. Mae Natur Wyllt yn ceisio codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd peillwyr, y camau y gallwn i gyd eu cymryd i’w cefnogi, a sut y gall y rhain gael effaith gadarnhaol ar faterion pwysig eraill megis lleihau’r dirywiad mewn bywyd gwyllt a lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd,: “Rydym yn gyffrous iawn bod Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent a phrosiect Natur Wyllt wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau’r Sefydliad Tirwedd yn Llundain, gan gael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu ar raddfa genedlaethol. Mae’r ddau ddull yn hanfodol wrth ddiogelu a gwella ein tirweddau arbennig, datblygu seilwaith gwyrdd a helpu i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn bioamrywiaeth a heriau newid yn yr hinsawdd. Rydym yn ffodus o allu gweithio gyda gweithwyr sydd mor broffesiynol ac mor ardderchog, yn ogystal â thirwedd mor syfrdanol.”
Cefnogir y prosiectau hyn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig, ac fe’i darperir gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am beth mae’r prosiectau hyn yn ei wneud, yna dilynwch y dolenni hyn:
Ar ran pawb ym MonLife gobeithio eich bod yn iach ac yn ddiogel ar hyn o bryd.
Roeddwn am roi gwybod i chi am ychydig o newidiadau cyffrous y byddwch yn eu gweld dros yr wythnosau nesaf, wrth i ni osod y System Rheoli Hamdden NEWYDD yn ein Canolfannau MonLife Egnïol.
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio yn y cefndir ar weithredu’r system newydd hon a fydd yn gwella’ch profiad ac yn gwneud rheoli eich aelodaeth gyda ni hyd yn oed yn haws. Dyma’r newidiadau newydd:
Proses cofrestru cyflymach os ydych am ymuno fel aelod
Llwyfan cyfathrebu effeithiol trwy e-bost, hysbysiadau gwthio ac SMS
Gweld, ymuno a thalu am unrhyw un o’n dewisiadau Aelodaeth Egnïol drwy’r Ap ac ar-lein
Haws gweld, archebu a thalu am ddosbarthiadau neu weithgareddau pryd bynnag y bydd yn gyfleus i chi ac ar unrhyw ddyfais.
Gweld, rheoli a diweddaru eich manylion personol.
Mewngofnodi gan ddefnyddio e-bost a chyfrinair yn lle eich rhif aelodaeth
Opsiynau rhannu cymdeithasol integredig sy’n eich galluogi i rannu manylion eich archebion gyda ffrindiau a theulu.
Hoffem eich sicrhau, yn ystod yr ymfudo o’n hen System Rheoli Hamdden i’n un newydd rydym yn cydymffurfio’n llawn â’r RhDDC a bydd eich holl ddata yn parhau i fod yn hollol ddiogel.
Fel gyda phob system newydd rydym yn gobeithio y bydd y mudo hwn yn rhedeg yn llyfn ond byddwch yn amyneddgar os ydym yn profi unrhyw faterion technegol.
Ein blaenoriaeth fel bob amser yw sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar eich profiad. Bydd ein tîm yn diweddaru ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.
Byddwch yn sicr bod tîm MonLife yn gweithio’n ddiflino i gael y system newydd hon ar waith a gobeithiwn eich bod yn mwynhau’r rhyngwyneb cwsmeriaid newydd a gwell.
Dyma’r cwestiwn rydym yn gobeithio dod o hyd i’r ateb iddo! Rydym yn bedwar o bobl ifanc o’r ardal sy’n gweithio ar ffyrdd o wella’r gwasanaeth amgueddfeydd i bobl ifanc fel ni. Gan weithio gyda Threftadaeth MonLife a Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, mae’r pedwar ohonom yn ymgynghori ag amgueddfeydd a phobl ifanc yn yr ardal ar gyfer y prosiect hwn; ymweld â safleoedd treftadaeth i asesu’r gwasanaeth amgueddfeydd presennol; a siarad ag amrywiaeth o bobl ifanc wyneb yn wyneb ac ar-lein i weithio allan y ffordd orau o ddatblygu ein hamgueddfeydd. Mae gennym hefyd arolwg ar-lein i sicrhau y gall pawb fod yn rhan o’r gwaith o wella ein hamgueddfeydd.
Ein nod yw sicrhau gwasanaeth amgueddfeydd sy’n gwasanaethu pobl ifanc yn well, ac sy’n annog y genhedlaeth nesaf i ymgysylltu â’r sector treftadaeth a hanes eu cymuned. Bydd y prosiect hwn hefyd yn darparu sylfaen i’r sector treftadaeth adeiladu arno, gan lywio’r ffyrdd rydym yn datblygu’r gwasanaeth amgueddfeydd i’r dyfodol.
Os hoffech gael dweud eich dweud yn nyfodol ein hamgueddfeydd, cwblhewch ein holiadur gan ddefnyddio’r ddolen isod. Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio ar y prosiect hwn gyda chi!
A ydych rhwng 19 a 25 a’n angerddol am wneud gwahaniaeth diriaethol i’ch cymuned? Yna ymunwch gyda Phanel Ieuenctid ar gyfer Diwylliant a Threftadaeth newydd MonLife!
Rydym yn chwilio am yr aelod olaf i ymuno gyda’r panel. Byddwch yn rhan o grŵp o 8 o bobl ifanc (rhwng 16 a 25) o’r sir a fydd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar sut y mae gweithgareddau MonLife yn cael eu darparu i bobl ifanc. Dyma gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau a chwrdd gyda phobl ifanc eraill yn Sir Fynwy a bydd yn brofiad ardderchog i’w ychwanegu at eich CV.
Bydd y cyfarfod nesaf o’r Panel Ieuenctid yn cael ei gynnal yn y Neuadd Sirolyn Nhrefynwy arddydd Llun 10fed Hydref, 5:30 – 7:00 pmByddwch yn derbyn taleb gwerth £25 am fynychu.