Climate, Nature and Well-being - Monlife

Argyfwng Hinsawdd a Natur: Ymwybyddiaeth a Gweithredu

Datganodd Cyngor Sir Fynwy Argyfwng Hinsawdd ym mis Mai 2019, gan fabwysiadu ei Strategaeth Argyfwng Hinsawdd gyntaf ym mis Hydref 2019. Ers hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Natur, gan gydnabod y dirywiad ym myd natur a achosir gan fodau dynol, gan nodi ei disgwyliadau ar gyfer camau i’w adfer a chytuno y dylid cymryd camau cyfartal ar gyfer newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae datgan Argyfwng Hinsawdd yn cydnabod yr effeithiau y mae ein hinsawdd newidiol yn ei chael ar y blaned, ei hadnoddau naturiol, bioamrywiaeth a’n bywydau bob dydd. Mae ein hiechyd, ein lles a’n bywoliaeth yn dibynnu ar y gwasanaethau ecosystem y mae ein hadnoddau naturiol yn eu darparu, mae angen y gwasanaethau hyn arnom i oroesi a ffynnu. Mae hefyd yn cydnabod lle mae bioamrywiaeth mewn perygl, felly hefyd y mae’r gwasanaethau hanfodol hyn, gan fod ein hiechyd a’n lles yn uniongyrchol ac yn rhan annatod o iechyd a gwytnwch ein hamgylchedd.

Mae’n gyfnod heriol ac mae’r Tîm SG yn gweithio i godi ymwybyddiaeth am y materion cymhleth hyn ac annog unigolion a chymunedau i weithredu. Gall pob un ohonom weithredu newidiadau i helpu lleihau ein heffeithiau ar yr amgylchedd a chyfrannu at wella gwytnwch ecosystemau a bioamrywiaeth.

Mae’n gyfnod heriol ac mae’r Tîm SG yn gweithio i godi ymwybyddiaeth am y materion cymhleth hyn ac annog unigolion a chymunedau i weithredu. Gall pob un ohonom weithredu newidiadau i helpu lleihau ein heffeithiau ar yr amgylchedd a chyfrannu at wella gwytnwch ecosystemau a bioamrywiaeth.

Mae’r gwaith hwn yn amrywiol ac yn canolbwyntio ar atebion sy’n seiliedig ar natur i helpu i fynd i’r afael â heriau newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Gall datblygu ecosystemau gwydn helpu’n ymarferol gydag addasu, gan hefyd ddarparu nifer o fanteision lles ar yr un pryd.

Mae’r Tîm SG a Phartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sir, gan ymgysylltu â grwpiau ysgolion a chymunedol mewn amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys digwyddiadau cyhoeddus a darparu gweithdai ac adnoddau hinsawdd a natur.

Am fwy o wybodaeth am waith hinsawdd a natur Cyngor Sir Fynwy cliciwch yma:

GI and Nature Projects – Monlife

Community Nature Spaces – Monlife

Biodiversity in Monmouthshire – Monlife

Monmouthshire Local Nature Partnership – Monlife

Gwent Green Grid Partnership – Monlife

Climate Emergency – Monmouthshire

Yn dod cyn bo hir : Helpu Natur i’n Helpu Ni: Byrddau Rhyngweithiol

This image has an empty alt attribute; its file name is Picture6-1024x244.png

Yn dangos y rhyng-gysylltiad rhwng ecosystemau a sut mae pob ecosystem yn cyfrannu’n gadarnhaol at ymaddasu yn yr hinsawdd, lles personol/cymunedol, bioamrywiaeth ac yn darparu gwasanaethau ecosystem, gan alluogi pobl i ddarganfod beth y gallant ei wneud i helpu byd natur i’n helpu gyda’r newid yn yr hinsawdd.

Pecynnau Adnoddau Hinsawdd a Natur ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol

i helpu i ofalu am ein mannau a’n lleoedd gwyrdd, fel gerddi a pharciau, mewn ffyrdd sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd.

This post is also available in: English