Consultations - Monlife

Ymgynghoriadau

Cil-y-coed – Ymgynghoriad Cysylltiadau Addysg a Hamdden

Ym mis Rhagfyr 2021, cynhaliodd Amey Consulting asesiad Cam 1 WelTAG ac Achos Busnes Amlinellol Strategol (ABAS) ar gyfer Gwelliannau Teithio Llesol yng nghyffiniau Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Gynradd Durand a Chanolfan Hamdden Cil-y-coed. I’r perwyl hwn, cynhaliwyd ymweliad safle ac ymgysylltwyd â rhanddeiliaid i nodi problemau, materion, cyfyngiadau, a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â theithio llesol yng Nghil-y-coed. Helpodd hyn i nodi unrhyw welliannau posibl a allai annog cerdded/beicio/ar olwyn yn yr ardal hon.

Yn seiliedig ar yr ymchwiliad cychwynnol, datblygwyd cynnig lefel uchel ar gyfer gwelliannau teithio llesol, gan gynnwys rhestr hir o opsiynau. Cynhaliwyd arolwg teithio hefyd ymhlith myfyrwyr yr ysgolion i ddeall eu patrwm taith a materion/rhwystrau canfyddedig sy’n gysylltiedig â theithio llesol. Derbyniwyd 230 ymateb o Ysgol Gynradd Cil-y-coed a 73 o Ysgol Gynradd Durand. Aseswyd y rhestr hir o opsiynau a nodwyd rhestr fer o opsiynau. Roedd yr asesiad yn hysbysu’r ABAS a gyflwynwyd fel rhan o gais Grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer asesiad Cam 2 WelTAG.

Yn dilyn cais llwyddiannus i Gronfa Grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru 2022/23 i ddatblygu’r rhestr fer o opsiynau ymhellach, comisiynwyd Amey Consulting gan Gyngor Sir Fynwy i ddatblygu dyluniad rhagarweiniol Cam 2 WelTAG, gwerthuso opsiwn ac adnabod opsiynau a ffefrir ac Achos Busnes Amlinellol cysylltiedig, i gefnogi datblygiad llwybrau teithio llesol yn ardal yr astudiaeth. Bydd datblygu ac arfarnu’r opsiynau yn ystyried unrhyw gyfleoedd a allai helpu i wella’r manteision teithio llesol yng Nghil-y-coed, megis y terfyn cyflymder 20mya sydd newydd ei gyflwyno, gan gysylltu â chynlluniau teithio llesol eraill, e.e. Newport Road, Church Road ac ati. Bydd yr Achos Busnes Amlinellol ynghyd â’r dyluniad a’r costau manwl ar gyfer yr opsiwn a ffefrir yn cael ei gyflwyno ar gyfer cronfa adeiladu i Gronfa Grant Teithio Llesol ym mis Ionawr 2023.

Fel rhan o asesiad y cynllun, bydd Amey Consulting yn ymgymryd ag ymgysylltu â rhanddeiliaid i’ch hysbysu ac ystyried eich barn a’ch mewnwelediad ar y mater hwn, yn y broses o werthuso a dylunio. Diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad.

Mae 2 ardal ymgynghori isod:

Gwelliannau teithio llesol ar Mill Lane https://forms.office.com/r/e4igEpStFP

Gwelliannau teithio llesol ar Alianore Road https://forms.office.com/r/swR03iYWKj

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael mynediad at hyn yn Gymraeg Gwelliannau Teithio Llesol ar Lôn y Felin (office.com)

Canlyniadau

Canlyniadau Ymgynghori Cyhoeddus Teithio Llesol Dolydd y Castell – SAES

Canlyniadau Ymgynghori Cyhoeddus Teithio Llesol Dolydd y Castell – CYM

This post is also available in: English