SNeuadd Sirol – Gwybodaeth i Ymwelwyr a Thwristiaid
Ymweld â’r Neuadd Sirol
Dewch i ymweld ag Ystafell 1 yn y Llys, sydd wedi ei hadfer fel ei bod yn ymddangos yn debyg i’r hyn a welwyd yn y 1840au.
Dewch i ymweld â’r Celloedd a phrofi’r amodau annymunol y bu’n rhaid i garcharorion eu dioddef.
Dewch i weld Tapestri Harri’r V yn Ystafell 2 yn y Llys; treuliodd aelodau’r Monmouth Broderers (Brodwyr Trefynwy) 4500 awr yn creu’r tapestri dros bum mlynedd.
Siaradwch gyda’n tywysydd er mwyn cael gwybodaeth am yr hyn i’w wneud, ble i aros, ble i fwyta, atyniadau lleol a’r hyn sydd yn cael ei gynnal ar hyd a lled Trefynwy, Dyffryn Gwy a’r Bannau Brycheiniog.
Dewch i ymweld â’r Siop Anrhegion er mwyn prynu cofroddion lleol, mapiau, llyfrau a phamffledi am hanes y Neuadd Sirol ac atyniadau lleol.
Dewch i gael cip tu mewn…
A ydych erioed wedi pendroni am yr hyn sydd yn digwydd yn y Neuadd Sirol? Os felly, pam na ddewch chi mewn i gael cip?
Dewch i ymweld â’r Ystafelloedd yn y Llys, y carchardai a thapestri wal Harri’r V. Dewch i’n siop anrhegion a siaradwch gydag un o gynghorwyr y Ganolfan Groeso! Bydd rhaid trefnu ymlaen llaw os am gael eich tywys gan un o’n tywyswyr arbenigol fel ein bod yn medru sicrhau bod Ystafelloedd y Llys a thywysydd ar gael i esbonio Hanes y Neuadd Sirol a’r mudiadau Siartaidd (mae mynediad am ddim os nad ydych am drefnu tywysydd).
Teithiau Tywysedig
Rydym yn medru trefnu bod un o’n tywyswyr teithiau gwybodus yno i roi gwibdaith i chi. Fel rhan o hyn, rydych yn medru dysgu mwy am Achosion Llys y Siartwyr yn 1840 drwy ymweld gydag Ystafell 1 o’r Llys a’r celloedd gan weld y darlun anhygoel o Harri’r V sydd ar wal Ystafell 2.
Mae’r teithiau’n costio £3 y person. Mae lluniaeth ar gael hefyd am gost o £1 y person.
I drefnu taith dywysedig ar gyfer grŵp o Neuadd y Sir, cysylltwch â ni ar 01600 775257 os gwelwch yn dda.
Tapestri Harri’r V
Roedd y ‘Monmouth Broderers’, sef grŵp sgilgar o frodwyr, wedi penderfynu dathlu genedigaeth Harri’r V yn Nhrefynwy. Mae’n dangos y Brenin ar gefn ceffyl yn annerch ei filwyr yn Agincourt, cyn i’r frwydr ddechrau ar 25ain Hydref 1415. Roedd y ‘Monmouth Broderers’ wedi rhoi’r darlun hwn ac mae ei werth yn £56,100. Roedd y ‘Monmouth Broderers’ wedi treulio 4,500 o oriau yn cwblhau’r darn hwn, gan gynnwys cynnal gweithdai yn y Neuadd Sirol yn ystod haf 1999 a 2000.
A oeddech yn gwybod. . . .
Ffeithiau am y Neuadd Sirol:
- Roedd yna 3 prif ystafell yn y Llys yn wreiddiol. Llys Ynadon, Llys Sirol a Llys Bwrdeistrefol.
- Caeodd y Llys Bwrdeistrefol yn 1997 a chaeodd y Llys Sirol yn 2002
- Mae’r Ystafell Gymunedol wedi ei ddefnyddio mewn sawl ffordd dros y blynyddoedd; roedd yn Llys Bwrdeistrefol i ddechrau ac roedd yn llyfrgell ar gyfer y dref yn fwy diweddar. Caeodd y llyfrgell yn y Neuadd Sirol yn 1992 ac fe’i symudwyd i’w chartref parhaol yn Neuadd y Rolls yn ystod yr un flwyddyn.
- Mae tair cadair ar gyfer Barnwyr yn yr Ystafell Llys. Fel arfer, dim ond un gadair fyddai yno ond roedd angen tair cadair gan fod y Siartwyr wedi eu cyhuddo o deyrnfradwriaeth.
Tref Trefynwy
Mae Trefynwy yn dref farchnad sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ac wedi ei leoli lle y mae’r afonydd Gwy, Monnow a Trothy yn cwrdd â’i gilydd. Gyda’r strydoedd prysur, mae’n lleoliad gwych am wyliau neu am ddiwrnod! Ewch i Wefan Trefynwy er mwyn dysgu am y busnesau sydd yn Nhrefynwy ac ystod o wybodaeth arall am Drefynwy. Mae’n debyg mai fel tref enedigol Henri V y mae Trefynwy’n fwyaf adnabyddus, ond mae yno hefyd wledd o safleoedd, adeiladau a phobl hanesyddol o Erddi Nelson i Neuadd y Sir.. Mae yna bont hynafol o’r drydedd ganrif ar ddeg dros yr afon Monnow, sydd yn unigryw ym Mhrydain gan mai dyma’r unig bont debyg o ran dyluniad sydd ar ôl.
Parcio: I ddadlwytho’n unig y dylid parcio o flaen Neuadd y Sir. Mae maes parcio am ddim yn Nhrefynwy, sef Stryd Cinderhill, NP25 5ES neu mae Maes Parcio Talu ac Arddangos ar Stryd Glendower, NP25 3DF.
This post is also available in: English