MonLife Outdoor – Monlife

Datganiad i’r Wasg: Llunio dyfodol ein hamgylchedd yn Sir Fynwy

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGAN) a’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd.

Rhwng 14eg o Fedi a’r 24ain o Hydref, ein nod yw deall sut mae’r argyfwng hinsawdd a natur yn effeithio ar drigolion Sir Fynwy a chasglu gwybodaeth werthfawr ar sut y gallwn gefnogi ein cymunedau.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ddiwyro yn ei ymrwymiad i wella a chadw ein hamgylchedd naturiol o dan Ddeddf Amgylchedd Cymru 2016. Mae ein Strategaeth Argyfwng Hinsawdd a Natur wedi’i hadeiladu ar bedwar piler cydgysylltiedig: Allyriadau Cyngor, Adfer Natur, Afonydd a Chefnforedd, a Chymunedau a Hinsawdd. Yn ganolog i’n hymdrechion, mae piler Adfer Natur, a fydd yn cael ei ddatblygu drwy Gynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol Sir Fynwy (CGAN) a’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd.

Mae’e CGAN Lleol Sir Fynwy yn gydweithrediad rhwng Cyngor Sir Fynwy a Phartneriaeth Natur Leol Sir Fynwy. Mae’n darparu map ffordd ar gyfer ymdrechion cadwraeth lleol, gan gynnig camau ymarferol i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth a chryfhau cydnerthedd ecosystemau ar draws Sir Fynwy. Nod y cynllun yw cefnogi pawb, o unigolion a chymunedau i fusnesau a chadwraethwyr.

Mae’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd yn cwmpasu holl gydrannau naturiol ein tirwedd, gan gynnwys coed, planhigion, mannau gwyrdd, glaswelltiroedd, a nodweddion dŵr fel pyllau ac afonydd. Mae’r elfennau hyn yn hanfodol ar gyfer iechyd yr amgylchedd, lles cymdeithasol a sefydlogrwydd economaidd. Nod ein strategaeth yw creu rhwydwaith cysylltiedig o fannau gwyrdd i wella iechyd, cefnogi bioamrywiaeth, gwella cydnerthedd ecosystemau, cynyddu gwytnwch hinsawdd, cadw ein tirweddau, a hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy. Mae ffocws allweddol ar warchod ac adfer cynefinoedd naturiol i gefnogi bywyd gwyllt a chynyddu gwytnwch ecosystemau drwy brosiectau a phartneriaethau arloesol, gan wella canlyniadau iechyd yn y pen draw a hyrwyddo gweithredu hinsawdd ar raddfa fwy.

Mae ein hymgynghoriad, sy’n cael ei lansio heddiw yn Sioe Brynbuga, yn gyfle hollbwysig i chi rannu eich adborth ar y CGAN a’r Strategaeth Seilwaith Gwyrdd. Mae eich barn ar sut mae’r argyfwng natur yn effeithio ar Sir Fynwy a’ch syniadau am y cymorth sydd ei angen i gymell cymunedau i weithredu yn amhrisiadwy.

I ddarganfod mwy am y strategaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/outdoor/green-infrastructure/local-nrap-and-gi-strategy-consultation/


Antur Awyr Agored MonLife yn cynnal Diwrnod Antur Hygyrch

Ar ddydd Sadwrn, 10fed Awst, ymunodd teuluoedd â Diwrnod Antur Hygyrch Awyr Agored MonLife yng Nghanolfan Awyr Agored Gilwern.

Roedd y diwrnod yn llawn o weithgareddau a fwynhawyd gan deuluoedd a swyddogion, gyda gwên yn amlwg ar wynebau pawb a fynychodd. Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd sgwrs rhwng mab a’i dad. Clywyd y mab yn annog ei dad i “Dal yn dynn, Dadi!” wrth iddynt  fwynhau’r abseilio.

Roedd y gweithgareddau, a addaswyd fel bod pawb yn gallu cymryd rhan, yn cynnwys abseilio, saethyddiaeth, chwarae dŵr, pentyrru cewyll, a llawer mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Roedd yn ddiwrnod gwych yng Nghanolfan Awyr Agored Gilwern. Roedd y diwrnod yn caniatáu i ni roi cyfle i deuluoedd ddod draw a chymryd rhan yn y gweithgareddau rhad ac am ddim sydd ar gael yn y ganolfan. . Bydd gweld pawb yn cymryd rhan gyda gwên yn aros gyda mi am amser hir yn fy nghof.”

Ariennir y prosiectau hyn yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Canolfan Awyr Agored Gilwern wedi’i lleoli yng Ngilwern, Y Fenni, ac mae wedi’i lleoli ger rhai o’r amgylcheddau awyr agored gorau y gallech fod am ddod o hyd iddynt unrhyw le yn y DU, gan gynnwys Afon Wysg, y Mynyddoedd Du a Bannau Brycheiniog ar garreg y drws. Ar y safle, mae llety cyfforddus gyda digon o le yn yr ardaloedd cymunedol i blant ddod at ei gilydd a dathlu eu cyflawniadau ar ôl diwrnod prysur o weithgareddau anturus.

I ddarganfod mwy am Ganolfan Awyr Agored Gilwern, ewch i: https://www.monlife.co.uk/cy/outdoor/outdoor-adventure/


Statws Baner Werdd i Barc Cefn Gwlad Rogiet

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o gyhoeddi bod ein hatyniadau a mannau agored yn parhau i ennill cydnabyddiaeth, gyda Gwobr y Faner Werdd.

Parc Cefn Gwlad Rogiet yw’r ychwanegiad diweddaraf at ein rhestr nodedig o enillwyr.

Cynhaliwyd cyflwyniad Gwobr y Faner Werdd ar ddydd Mawrth 16eg Gorffennaf, gydag Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, yn cyflwyno’r wobr.

Roedd y Cynghorydd Pete Strong yn falch o dderbyn y wobr fel Is-Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy.

Mae’r wobr hon yn cydnabod lleoliadau sy’n cynnig cyfleusterau rhagorol ac ymrwymiad parhaus i wasanaeth o safon uchel.

Mewn mannau eraill yn Sir Fynwy, roedd Gwobrau’r Faner Werdd ar gyfer

· Hen Orsaf Tyndyrn – sydd wedi derbyn gwobr ers 2009

· Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed, a anrhydeddwyd ers 2013

· Dolydd y Castell yn y Fenni, ers 2014

Yn ogystal, mae gerddi a mannau gwyrdd ar draws y Sir hefyd wedi cael eu cydnabod gyda Chamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn ennill Gwobr y Faner Werdd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol a ‘Busy Bees Garden’ yn Nhrefynwy hefyd yn mwynhau llwyddiant am y tro cyntaf yn ennill y Faner Werdd.  

Mewn mannau eraill yn Sir Fynwy, roedd Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd ar gyfer:

· Parc Bailey, Y Fenni

· Dolydd Caerwent

· Gardd Gymunedol Cil-y-coed

· Coetir Crug

· Dôl Crug

· Rhandiroedd Crucornau

· Gardd Gymunedol Goetre

· Brynbuga Bwytadwy Rhyfeddol

· Perllan Gymunedol Laurie Jones

· Parc Mardy

· Pentref Cyfeillgar i Fywyd Gwyllt Rogiet

· Y Cornfield.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gweinyddu rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr annibynnol mewn mannau gwyrdd eu harbenigedd i werthuso’r ymgeiswyr yn erbyn meini prawf trwyadl megis bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol.

Am restr lawn o enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni, ewch i www.cadwchgymrundaclus.cymru.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Angela Sandles: “Mae hyn yn dyst i ymroddiad a gwaith caled cymunedau ar draws Sir Fynwy wrth greu a chynnal mannau sydd nid yn unig yn gwella ein hamgylchedd ond sydd hefyd yn darparu asedau cymunedol amhrisiadwy i bawb eu mwynhau.

“Mae Cyngor Sir Fynwy yn llongyfarch holl dderbynwyr y gwobrau ac yn annog pawb i archwilio a gwerthfawrogi’r mannau gwyrdd rhagorol hyn sy’n cyfrannu at harddwch a bywiogrwydd ein sir. “Rydym yn gwahodd pawb i ddod i brofi’r harddwch naturiol a’r rhyfeddodau hanesyddol sydd gan ein parciau hynod i’w cynnig.”


Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed a Llwybr Amlddefnydd – Cwestiynau ac Atebion

Cynlluniwyd cynllun teithio llesol Cyswllt Cil-y-coed i greu rhwydwaith integredig o lwybrau rhannu defnydd, sy’n cysylltu ardaloedd preswyl presennol ac ar y gweill yn nwyrain Cil-y-coed a’r cylch gyda chyrchfannau lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Y nod yw galluogi preswylwyr i ddefnyddio teithio llesol ar gyfer teithiau lleol a chysylltu gyda rhwydweithiau ehangach teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus  Glannau Hafren drwy adeiladu llwybrau ansawdd uchel a chyfleus ar gyfer cerdded, olwyno a seiclo.

Cynllun Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed

Mae cynllun Cyswllt Cil-y-coed yn canolbwyntio ar ogledd a dwyrain Cil-y-coed. Rhannwyd y cynllun yn dair adran wahanol* (gweler y cynllun isod):

  • Rhan 1: Yn rhedeg ar hyd llwybr hen reilffordd Dinham y Weinyddiaeth Amddiffyn, ychydig i’r de o’r Cae Grawn  ym Mhorthysgewid, i fod yn gydwastad gyda Pharc Gwledig Castell Cil-y-coed. Mae’r prif waith adeiladu bellach wedi ei gwblhau, gyda pheth mân waith i’w gwblhau yn hydref 2024 sy’n cynnwys: plannu coed, tirlunio, goleuadau ac arwyddion.
  • Rhannau 2 a 3: O’r lefel gyda’r parc gwledig tua’r gogledd i Crug, gan groesi safleoedd CDLlD gogledd-ddwyrain Cil-y-coed. Mae aliniad llwybr yn cael ei ddatblygu.
  • Rhan 4 – Llwybr Aml-ddefnyddiwr: Yn rhedeg trwy Barc Gwledig Castell Cil-y-coed yn cysylltu â Chysylltiadau Cil-y-coed a’r B4245 ar yr ochr ddwyreiniol ac yn cysylltu â Church Road (ac ymlaen i Ganol Tref Cil-y-coed) ar yr ochr orllewinol.

*Caiff adrannau o’r cynllun eu cyflwyno fel y bydd cyllid a chyfyngiadau eraill yn caniatáu, h.y. nid o reidrwydd mewn trefn rifyddol.

Cynnydd Presennol

Rhan 1: Mae’r prif waith adeiladu bellach wedi’i gwblhau, gyda rhai mân waith eto i’w gwblhau yn hydref 2024 sy’n cynnwys: plannu coed, tirlunio, goleuadau ac arwyddion.

Mae croeso i chi ddefnyddio’r rhan hon o lwybr teithio llesol newydd Cysylltiadau Cil-y-coed ar gyfer cerdded, olwynio a beicio. Sylwch nad yw’r llwybr hwn yn cael ei hyrwyddo fel un hygyrch i bob defnyddiwr ar hyn o bryd ac mae’n cynrychioli’r cam cyntaf o ran darparu cysylltiad cyflawn o Borthsgiwed i Gil-y-coed.

Nodwch y canlynol os gwelwch yn dda:

  • Parc Gwledig Castell Cil-y-coed: Ar hyn o bryd, nid oes llwybr wyneb caled ffurfiol yn cysylltu’r llwybr tarmac hwn â ffordd wasanaeth tarmac y Parc Gwledig. Bydd angen i ddefnyddwyr sy’n dymuno parhau i mewn i’r Parc Gwledig ddefnyddio llwybrau glaswellt anffurfiol, sydd ag arwynebau anwastad, llethrau a giatiau.
  • Parc Elderwood: Nid oes cysylltiad ymlaen o ben y ramp i Barc Elderwood oherwydd bod y datblygiad tai yn dal i gael ei adeiladu.

Llun: Cysylltiadau Cil-y-coed cam 1 – Cyn ac ar ôl

Rhannau 2 a 3: Mae ymgynghorwyr a benodwyd gan CSF wedi cynnal astudiaeth o’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer datblygu’r llwybr i’r gogledd a’r dwyrain o’r Parc Gwledig, gan ystyried y cyfleoedd allweddol a chyfyngiadau’r ardal hon. Mae Cyngor Sir Fynwy bellach yn bwrw ymlaen â’r camau nesaf i ddatblygu’r adran hon.

Rhan 4 – Llwybr Aml-Ddefnyddwyr: Mae ymgynghorwyr yn cael eu penodi i symud ymlaen â’r gwaith dylunio a chaniatâd hyd at y cam cyn-adeiladu ar gyfer llwybr teithio llesol newydd arfaethedig sy’n rhedeg o ben gogleddol Cam 1 y Cysylltiadau trwy ochr ddwyreiniol Parc Gwledig Castell Cil-y-coed i ymuno â ffordd darmac y parc gwledig presennol ychydig i’r dwyrain o nant Nedern. Mae gwaith asesu ar wahân ychwanegol yn cael ei wneud i edrych ar y cysylltiadau ymlaen i’r dwyrain a’r gorllewin.

Pam canolbwyntio ar ogledd a dwyrain Cil-y-coed?

Mae’r cynllun yn anelu i wella mynediad cynaliadwy i wasanaethau, siopau a safleoedd addysg a chyflogaeth o amgylch Cil-y-coed. Mae cynhyrchu teithiau yn gysylltiedig â’r datblygiad preswyl arfaethedig yn nwyrain a gogledd Cil-y-coed yn ogystal â’r angen i liniaru tagfeydd yn gysylltiedig gyda safleoedd cyflogaeth lleol a phontydd di-doll yr Hafren yn rhoi ysgogiad ychwanegol i’r cynllun, gan fod hwn yn gyfle i wneud teithio llesol y dull a ffefrir ar gyfer teithiau lleol ar gyfer preswylwyr hen a newydd fel ei gilydd.

Mae cynllun Cyswllt Cil-y-coed a gyflwynir mewn camau yn canolbwyntio ar ddwyrain Cil-y-coed, yn cynnwys cysylltu gyda datblygiadau tai oddi ar Heol yr Eglwys a Heol Crug i sicrhau fod gan breswylwyr cyfredol a phreswylwyr y dyfodol opsiynau trafnidiaeth cyfleus, iach a chynaliadwy, i leihau a rheoli effaith traffig ffordd poblogaeth gynyddol a chyfeirio preswylwyr ac ymwelwyr i ganol y dref fel cyrchfan leol.

Isod mae manylion ein Map Teithio Llesol ar gyfer Cil-y-coed, yn dangos faint o amser y byddai’n ei gymryd fel arfer i  deithio yn yr ardal leol. Bydd yr ardaloedd datblygu lleol, a ddangosir mewn brown, yn cynnwys parseli o fannau gwyrdd (h.y. mae’r safleoedd a ddangosir yn cynnwys ardaloedd na fydd adeiladu):

Beth yw teithio llesol?

Mae teithio llesol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio cerdded, olwyno neu seiclo i gyrchfan y mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn eu disgrifio fel “teithiau pwrpasol”. Nid yw’n cynnwys teithiau a wneir yn llwyr ar gyfer hamdden er y gallai wella gweithgareddau hamdden yn sylweddol drwy helpu i gysylltu’r rhwydweithiau. Gellir defnyddio Teithio Llesol i fynd i’r ysgol, gwaith, gwasanaethau a siopau, neu fel un o nifer o ddulliau teithio ar daith hirach – er enghraifft, cerdded i’r orsaf i ddal bws neu drên. Ffocws strategaeth teithio llesol Cyngor Sir Fynwy yw teithiau o dair milltir neu lai, sy’n golygu gwella seilwaith cerdded a seiclo o fewn cymunedau a rhwng aneddiadau cyfagos tebyg i Gil-y-coed, Porthysgewin a Crug, fel y gall teithio llesol fod yn ddewis naturiol ar gyfer teithiau lleol. Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn anelu i weithio cysylltiadau teithio llesol i drafnidiaeth gyhoeddus, i gefnogi teithio cynaliadwy ar draws y sir.

Sut y caiff cynllun Cyswllt Cil-y-coed ei ariannu?

Caiff Cyswllt Teithio Llesol Cil-y-coed a’r Llwybr Amlddefnydd eu hariannu drwy grantiau Llywodraeth Cymru sydd wedi eu hanelu at welliannau i ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy.

Sut y caiff tynnu coed ar hyd y llwybr teithio llesol ei liniaru?

Wrth adeiladu Cam 1, mae coed a llystyfiant wedi’u clirio i wneud lle i’r llwybr a’i rampiau mynediad. Roedd angen clirio coed ychwanegol hefyd mewn ymateb i glefyd (Chalara) coed yr ynn ar y safle ac fe’i cyfunwyd i fod yn fwy cost effeithiol. Roedd y gwaith clirio ond yn cynnwys yr hyn oedd ei angen i sicrhau bod yr hen reilffordd yn ddiogel ar gyfer y defnyddwyr presennol ac i alluogi adeiladu’r llwybr Teithio Llesol tra’n diogelu bywyd gwyllt ar y safle.

Disgwylir y bydd y llwybrau teithio llesol gwell yn cynyddu cyfleoedd lleol ar gyfer cerdded, olwyno a seiclo a dylai hynny gael effaith gadarnhaol hirdymor ar yr amgylchedd a bioamrywiaeth lleol fel y’i disgrifir yn Nghanllawiau y Ddeddf Teithio Llesol.

Pam na all seiclwyr ddefnyddio’r ffordd?

Gallai llawer o deithiau byr mewn car gael eu gwneud drwy deithio llesol yn lle hynny. Mae syniad o berygl oherwydd traffig ffordd yn rhwystr allweddol sy’n atal mwy o bobl rhag teithio llesol, ac mae lefelau isel o seiclo er y rhwydwaith ffordd gynhwysfawr yn dangos nad yw seiclo ar y ffordd yn opsiwn ymarferol i lawer. Mae’r cynllun yn manteisio ar y cyfle i wella hygyrchedd llwybrau oddi ar y ffordd sy’n fwy tebygol o gynnig dewis deniadol a diogel yn lle gyrru ar gyfer ystod ehangach o bobl, gan gynyddu’r awydd am deithio llesol tra’n cwtogi nifer y teithiau byr a wneir mewn ceir.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gysylltu â thîm y prosiect, e-bostiwch ActiveTravel@monmouthshire.gov.uk