Ynglŷn â’r Cae Glaswellt Ffug
Mae ein cae Glaswellt Ffug yng Nghanolfan Hamdden y Fenni yn darparu arwyneb pob tywydd o ansawdd uchel wedi’i gynllunio i gefnogi amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau. Gyda marciau pwrpasol sy’n addas ar gyfer hoci a’r hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer defnydd hamdden arall, mae’n cynnig lle dibynadwy ar gyfer sesiynau wedi’u trefnu a chwarae achlysurol trwy gydol y flwyddyn.
Yn ddelfrydol ar gyfer clybiau, ysgolion a’r gymuned ehangach, mae cae Glaswellt Ffug yn darparu amgylchedd diogel, gwydn a hygyrch, gan ei wneud yn opsiwn gwych ar gyfer ymarfer, datblygu sgiliau a chwaraeon cymdeithasol mewn lleoliad awyr agored modern.
HOLWCH NAWR
Cwestiynau Cyffredin
Pryd mae’r cyfleuster newydd yn agor?
Bydd y cyfleuster yn agor ym mis Medi 20206. Bydd diweddariadau’n cael eu rhannu ar draws ein gwefan a’n sianeli cymdeithasol.
Pa fath o gae chwarae ydyw?
Mae cae Glaswellt Ffug yn arwyneb chwarae glaswellt synthetig sydd wedi’i gynllunio i fod fel glaswellt naturiol, gan ddarparu cae gwydn, sydd ond angen gwaith cynnal a chadw isel ac sy’n addas i’w ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn.
Defnyddir ar gyfer:
- 91.4m x 55m
- 2 ardal gemau ochr fach gyda marciau hoci, 55m x 43m
- Cae Hoci Achrededig FIH
- Ymarfer Pêl-droed a Rygbi
- Hyfforddiant a chwaraeon aml-ddefnydd
- Cyfleusterau chwaraeon cymunedol ac ysgolion
- Chwarae pob tywydd a gemau cystadleuol
Sut ydw i’n archebu’r cae chwarae?
Gellir archebu drwy ein ffurflen ymholiadau Archebu a Digwyddiadau yma – Ffurflen Ymholiadau Archebu Bloc a Digwyddiadau – cwblhewch y ffurflen
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni ar monbookings@monmouthshire.gov.uk
Nodwch: Gall oriau amrywio yn ystod gwyliau a digwyddiadau arbennig.
Beth yw’r oriau agor?
Dydd Llun–Dydd Gwener: 5pm – 9pm
Penwythnosau: 9am – 4pm
Nodyn: Gall yr oriau amrywio yn ystod gwyliau a digwyddiadau arbennig.
Beth mae’n ei gostio i logi’r cae chwarae?
Mae prisiau yn dibynnu ar faint y cae chwarae (llawn / hanner) ac amseroedd brig / oddi ar y brig.
Mae rhestr brisiau lawn ar gael YMA.
Pa esgidiau a ganiateir?
Caniateir: Stydiau wedi mowldio, esgidiau AG
Ni chaniateir: Stydiau metel, esgidiau ymarfer fflat, ac, yn dibynnu ar bolisi, llafnau.
A ellir chwarae gemau ar y cae Glaswellt Ffug?
Gellid – mae croeso i gemau cynghrair, sesiynau ymarfer a gemau cyfeillgar (yn amodol ar reolau’r corff llywodraethu).
This post is also available in:





