Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2025
Ym mis Chwefror eleni, roeddem yn falch o gefnogi Wythnos Iechyd Meddwl Plant drwy arddangos effaith ein timau Gwasanaeth Ieuenctid a Datblygu Chwaraeon. Drwy gydol yr wythnos, gwnaethom dynnu sylw at y gwaith anhygoel maen nhw wedi’i wneud eleni i hyrwyddo lles meddyliol ymhlith pobl ifanc yn ein cymuned.
Rydym wedi nodi’r cynnwys a rannon ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol isod i chi ei fwynhau!

Ddiwedd y llynedd fe wnaethom gynnal dau ddigwyddiad Llysgennad Ifanc Efydd ar draws Sir Fynwy, sy’n creu eiriolwyr i Sir Fynwy mewn cysylltiad â’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid.
Roedd amserlen ein digwyddiad, wedi ei lywio gan fframwaith Llysgennad Ifanc yr Ymddiriedolaeth, yn cynnwys gweithdai gwych ar:
• Ysbrydoli
• Dylanwadu
• Arwain
• Mentora
Ymunwch â ni i ddathlu grym hunan-ymwybyddiaeth a thwf yn ystod yr Wythnos Iechyd Meddwl Plant. Drwy adnabod ein hunain yn well, gallwn dyfu’n gryfach ac yn fwy cydnerth.
Rydym yn falch i ddweud fod 1067 o bobl ifanc wedi defnyddio darpariaeth mynediad agored Gwasanaeth Ieuenctid MonLife, gan gymryd rhan mewn 357 sesiwn dros 1038 awr! O Alton Towers i wersylla, bu ein tripiau yn boblogaidd iawn.
“Rydych yn rhan mor werthfawr o fywydau’r bobl ifanc yma.”
Anelwn gynnig gofod diogel i bobl ifanc i fod yn nhw eu hunain.
Mae prosiect Shifft Gwasanaeth Ieuenctid MonLife a’r grŵp Cyflwr Meddwl wedi gwneud gwahaniaeth go iawn! Dywedodd 100% o’r sawl a gymerodd ran fod eu llesiant wedi gwella.
71 o bobl ifanc wedi cymryd rhan a mynychu nifer o sesiynau gyda phrosiect Shifft
8 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn grŵp Cyflwr Meddwl yn ein safle ar hyn o bryd
“Roedd fy merch yn edrych ymlaen at ei sesiynau a theimlai’n gyfforddus bron yn syth, rhywbeth a all gymryd misoedd fel arfer. Diolch”
Gadewch i ni barhau i gefnogi iechyd meddwl ein pobl ifanc gyda’n gilydd. Adnabod eich hun, tyfu eich hun!
Fel rhan o’n prosiect Gemau Stryd, fe wnaethom gynnal gweithdy merched arbennig ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 7-10 yn Ysgol Cil-y-coed gyda chefnogaeth Amber Stamp Dunstan, dyfarnwr Undeb Rygbi Cymru. Rhannodd Amber ei phrofiadau a thrafod llwybrau mynediad i rygbi, gyda sesiwn ‘cyflwyniad i rygbi’ gyda ffocws ar sgiliau allweddol yn dilyn.
Diolch i gefnogaeth Adran Addysg Gorfforol Ysgol Cil-y-coed, maent yn awr eisiau sefydlu tîm rygbi merched!
• 4 gweithdy
• 160 yn bresennol
Dywedodd un aelod staff: “Cafodd y cwrs arwain chwaraeon effaith gadarnhaol ar y bobl ifanc yn yr uned SRB, gan hybu twf personol a hyder,”
Gadewch i ni ddathlu grym gweithgaredd corfforol wrth gynyddu llesiant a chreu amgylchedd diddorol i bobl ifanc ffynnu ynddo
Daeth cynhadledd ieuenctid flynyddol Gwasanaeth Ieuenctid MonLife â 38 o bobl ifanc ynghyd, gan rhoi llwyfan iddynt rannu eu meddyliau a thrafod y materion sydd bwysicach iddynt.
O’r Gynhadledd Ieuenctid, dewisodd y bobl ifanc eu 3 prif flaenoriaeth a gwneud 11 argymhelliad. Cafodd y rhain eu rhannu gyda gwasanaethau yn gweithio gyda neu dros bobl ifanc ar draws Sir Fynwy.
Gyda’n gilydd, gallwn greu amgylchedd cefnogol i bawb. Adnabod eich hun, tyfu eich hun!
Mae chwarae’n ganolog i iechyd a lles meddyliol, emosiynol, cymdeithasol a chorfforol plant. Trwy chwarae, bydd plant yn datblygu gwytnwch a hyblygrwydd, sy’n cyfrannu at les emosiynol a chorfforol.
This post is also available in: English