Rhaglen Nofio Ysgolion Sir Fynwy yn llwyddo yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024 - Monlife

Rhaglen Nofio Ysgolion Sir Fynwy yn llwyddo yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024

Mae Rhaglen Nofio Ysgolion Sir Fynwy wedi ennill gwobr ‘Nofio Ysgolion a Diogelwch yn y Dŵr’ yng Ngwobrau Blynyddol Nofio Cymru 2024.

Yn dilyn y gwobrau a gynhaliwyd ar 20fed Ionawr, llwyddodd Adran Chwaraeon a Hamdden MonLife i ennill y wobr yn dilyn 2023 gwych. Nod y rhaglen yw sicrhau bod nofio mewn ysgolion yn hygyrch i gynifer o blant â phosibl ledled Sir Fynwy, cydweithrediad rhwng ysgolion a hamdden i ddarparu sgiliau bywyd hanfodol.

Yn 2023, roedd 100% o ysgolion Cynradd ac Uwchradd Sir Fynwy wedi cymryd rhan yn rhaglen nofio MonLife. Daeth dros 3500 o blant i ddilyn Fframwaith Nofio Ysgol. Arweiniodd y rhaglen at gynnydd o 12.5% yn nifer y disgyblion a enillodd Wobr Nofio Ysgol ym mlwyddyn 6, gyda dros 62% o ddisgyblion yn cyflawni deilliannau’r cwricwlwm erbyn i’w cyfnod yn yr ysgol gynradd ddod i ben.

Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais mawr ar ddiogelwch yn y dŵr, ac yn ystod Wythnos Atal Boddi, cafodd pawb a fynychodd wers atal boddi bwrpasol. Ategwyd hyn ymhellach gan y sesiwn benodol am Ddiogelwch yn y Dŵr a roddwyd i’r sawl a fu’n cymryd rhan yn eu sesiwn gyntaf.

Cabinet Member for Equalities and Engagement, Cllr Angela Sandles with students from Magor Church in Wales Primary School at their school swimming lesson.
Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, Cyng. Angela Sandles gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Magwyr yn eu gwers nofio

Mae’r rhaglen hefyd wedi galluogi myfyrwyr Academi Arweinyddiaeth MonLife i gael profiad o weithio mewn digwyddiadau chwaraeon. Yn nhymor yr haf 2023, bu myfyrwyr yr Academi Arweinyddiaeth yn cynorthwyo staff MonLife i gynnar pedair Gŵyl Nofio ar gyfer Ysgolion Cynradd. Roedd 345 o blant wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cynhwysol. Roedd gwyliau yng Nghanolfannau Hamdden y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy yn caniatáu i ddisgyblion gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau hwyl heb orfod cystadlu, gan gynnwys fflotiau, strociau a rasys woggle.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’r wobr hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein Hadran Chwaraeon a Hamdden, hyfforddwyr nofio ac athrawon ysgol. Mae’n rhoi mynediad i ddysgwyr i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol iddynt fyw bywyd gweithgar a sgiliau a all achub bywydau. Llongyfarchiadau a diolch i’r holl staff sy’n cynnal ac yn cefnogi’r rhaglen.”

This post is also available in: English