About Us – Monlife

Amdanom Ni

Wedi i Gytundeb Gwent gael ei ddiddymu yn 2019, lle’r oedd holl awdurdodau lleol ardal Gwent wedi cael mynediad i addysg awyr agored trwy gytundeb a rennir, newidiodd Canolfannau Awyr Agored Gwent ei enw i Addysg Awyr Agored MonLife. Er y gallai’r enw fod wedi newid, mae ein tîm o staff hynod brofiadol ac ardystiedig, sydd mor uchel ei barch gan gleientiaid, yn aros yr un fath.

Mae Addysg Awyr Agored MonLife yn parhau i berchen ar, a gweithredu, safle Gilwern ger y Fenni. Mae Gilwern yn cynnig rhai o’r amgylcheddau awyr agored cerdded y bryniau, dringo, ogofa a chanŵio gorau y gallech ddymuno dod o hyd iddynt yn y DU. Mae Afon Gwy, y Mynydd Du a Bannau Brycheiniog i gyd ar garreg y drws.

Cafodd ei sefydlu ym 1970, ac mae miloedd o blant o ysgolion ledled y DU wedi mwynhau cyrsiau gweithgareddau awyr agored, teithiau maes ac anturiaethau yn ein canolfannau. Mae’r safle’n cynnig cyfleusterau addysgol a chaeau gwersylla sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd gan grwpiau fel y Sgowtiaid, y Geidiaid a thimau alldaith Gwobr Dug Caeredin. Mae llety ar gyfer grwpiau mawr a neuadd gyda wal glogfeini dan do a thŵr dringo mawr awyr agored.  Mae mynediad gwastad i lety, ramp abseilio cadair olwyn hygyrch a chwrs cyfeiriannu braille.

Gall ein cyfleusterau hefyd gael eu llogi gan grwpiau eraill megis y Sgowtiaid, Geidiaid, clybiau chwaraeon, sefydliadau ieuenctid, teuluoedd a grwpiau corfforaethol. Mae gan yr hyfforddwyr ddegawdau o brofiad rhyngddyn nhw felly byddwch mewn dwylo diogel.

Rydym yn ddarparwr gweithgaredd achrededig Dug Caeredin ac mae gennym statws Baner Eco Gwyrdd.  Rydym yn ddarparwr Ysgolion Coedwig hefyd.  Yn anad dim, p’un a ydych yn athro, yn rhiant neu’n oedolyn sy’n cymryd rhan, gallwch fod yn sicr y bydd gennych antur awyr agored i’w chofio yn un o dirluniau mwyaf trawiadol Cymru!

Loader Loading…
EAD Logo Taking too long?

Reload Reload document
| Open Open in new tab

This post is also available in: English