Adnodd Dysgu
Archwilio’r amgylchedd naturiol drwy’r celfyddydau mynegiannol. Ar gael i’w lawrlwytho isod.
Mae’r amgylchedd a’i amrywiaeth o bethau byw, ei fioamrywiaeth, yn darparu’r ysbrydoliaeth a’r ffocws ar gyfer y gweithgareddau trawsgwricwlaidd amrywiol, diddorol a phleserus yn yr adnodd hwn.
Fe’i cynlluniwyd i helpu athrawon a dysgwyr i brofi, archwilio ac arsylwi rhyfeddodau’r byd naturiol trwy 5 Disgyblaeth y Celfyddydau Mynegiannol. Mae’r adnodd yn defnyddio addasiadau anhygoel y blodau, adar, gwenyn, pili-palod, chwilod a choed o’n cwmpas, i ddarparu cyfleoedd arloesol i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth am yr amgylchedd a’u sgiliau creadigol trwy’r canlynol:
- darlunio gofalgar
- creu mygydau peillwyr perffaith
- drama fyrfyfyr ac â sgript
- creu coreograffi a dyfeisio dawns/symudiad
- cyfansoddi cerddoriaeth syml
- gwneud ffilmiau
Ein bod wedi ei gwneud hi’n hawdd i bawb gael mynediad ati, does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr celfyddydau mynegiannol nac amgylcheddol!
Mae’r cyfan yno i chi, cynlluniau sesiwn, gwybodaeth ddefnyddiol, (cyfeirio ystyriaethau penodol i’r ddisgyblaeth), nodau ac amcanion (sy’n gysylltiedig â chamau dilyniant) ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau estyn.
Fe wnaethom fwynhau treialu’r sesiynau hyn a chawsom adborth hyfryd, gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio’r adnodd hefyd.