Monmouthshire: Community Nature Spaces - Monlife

Beth yw Mannau Natur Cymunedol?

Mae Mannau Natur Cymunedol yn lleoedd i chi, ac yn lleoedd ar gyfer byd natur. Nod y prosiect hwn, sy’n cael ei ariannu gan Leoedd Lleol ar gyfer Natur (Llywodraeth Cymru), yw trawsnewid ardaloedd chwarae a mannau gwyrdd llai ac o ansawdd gwael yn hafanau bach ar gyfer bywyd gwyllt, a hefyd darparu cyfleoedd i drigolion lleol ar gyfer chwarae gwyllt, tyfu cymunedol a llefydd i fyfyrio’n dawel.

Pam mae angen Mannau Natur Cymunedol arnom?

Mae ein mannau awyr agored cyhoeddus yn rhoi cyfleoedd i ni fod yn weithredol, cysylltu ag eraill, bod yn greadigol a rhyngweithio â natur.  Gall cymryd amser tawel i fyfyrio ar ein hamgylchoedd naturiol fod yn gadarnhaol o ran iechyd meddwl a lles.  Mae cael y cyfle i chwarae mewn amgylcheddau naturiol yn helpu plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, iaith a dealltwriaeth. 

Ond os ydynt wedi’u rheoli’n briodol, mae mannau trefol yn dod yn ardaloedd cynyddol bwysig i fywyd gwyllt. Mae natur mewn trafferthion; rydym yn wynebu argyfwng natur fyd-eang a gallwn weld yr arwyddion yn ein gerddi cefn ein hunain. Mae astudiaethau diweddar yn dangos bod hanner gloÿnnod byw Prydain dan fygythiad o ddiflannu, ac yng Ngwent mae nifer y pryfed hedegog wedi gostwng gan 40% rhwng 2004 a 2021.

Mae Mannau Natur Cymunedol yn creu dolydd bach a gwelyau o blanhigion a ddewiswyd yn arbennig i fod o werth uchel i beillwyr.   Plannu coed a llwyni brodorol i gefnogi ein bywyd gwyllt drwy ddarparu bwyd a lloches.  Mae blychau adar ac ystlumod yn darparu cyfleoedd nythu a chlwydo diogel.  Mae carbon yn cael ei storio mewn deunydd planhigion a phriddoedd heb eu haflonyddu. Mae’r rhwydwaith o fannau yn creu cerrig camu i ganiatáu i fywyd gwyllt symud rhwng ardaloedd trefol yn ddiogel.

Nid yw natur yn brysio, felly wrth i’r Mannau Natur Cymunedol hyn aeddfedu byddant yn gwella trwy’r amser.

Mannau Natur Cymunedol yn Nhrefynwy

Cwblhawyd y prosiect Mannau Natur Cymunedol cyntaf yn Nhrefynwy yn 2022 fel rhan o gynllun ehangach i resymoli darpariaeth chwarae, ar ôl asesu meysydd chwarae sefydlog a nododd fod llawer o safleoedd o ansawdd gwael o ran gwerth chwarae. Crëwyd Mannau Natur Cymunedol o naw hen ardal chwarae leol yn Ystâd Rockfield a dwy ardal chwarae â chyfarpar lleol yn Hendre Close a Goldwire Lane yn Ward Overmonnow, Trefynwy. Roedd angen gwella’r ardaloedd chwarae â chyfarpar ar gyfer bioamrywiaeth a hefyd o safbwynt chwarae sefydlog, a gafodd ei ariannu drwy grant chwarae. Roedd y newidiadau a’r deilliannau dilynol i fyd natur yn cynnwys:

  • Plannu hadau blodau gwyllt o darddiad brodorol a 200 o blygiau planhigion brodorol
  • Gwell rheolaeth ar laswelltir ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys osgoi defnyddio plaladdwyr
  • Plannu 60 o goed ffrwythau a brodorol
  • Plannu dros 3000 o blanhigion gwrychoedd a llwyni brodorol, a phlanhigion peillio addurnol.
  • Gosod dros 30 bocs bywyd gwyllt ar gyfer adar, ystlumod, draenogod a phryfed
  • Adeiladu chwe cysgfan gaeafu i ymlusgiaid

Mannau Natur Cymunedol yng Nghas-gwent

Ym mlwyddyn ariannol 2022-2023 cyflwynwyd Mannau Natur Cymunedol yng Nghas-gwent.   Nid oedd gennym yr un arian cyfatebol ar gael, ac arweiniodd natur wahanol y safleoedd a ddewiswyd at wahanol fathau o gynlluniau’n cael eu cyflawni.  Gan weithio gyda Grŵp Cymunedol Hafren Crescent roeddem yn gallu cyflawni nod tymor hir o’u rhai nhw drwy greu ardaloedd dolydd mawr gyda thyweirch blodau gwyllt.   Rhoddodd Grŵp Perllannau Coed Woolpitch adborth gwerthfawr i ni i sicrhau bod y cynigion yn diwallu anghenion a nodau defnyddwyr y safle. 

Mannau Natur Cymunedol yn Y Fenni

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymgynghoriad i ddarparu Mannau Natur Cymunedol yn y Fenni.  

Ewch i’n tudalen ymgynghori i ddarganfod mwy a dweud eich dweud.

Sut allwch chi gymryd rhan?

P’un a ydych am gymryd rhan mewn tyfu bwyd cymunedol neu os ydych am gymryd rhan mewn ffordd arall, rydym am glywed oddi wrthych.  E-bostiwch localnature@monmouthshire.gov.uk i siarad â’r Tîm Bioamrywiaeth.

This post is also available in: English