Teithio Llesol yn y Fenni a Llan-ffwyst – Monlife

Cynlluniau Teithio Llesol yn y Fenni a Llan-ffwyst

Mae Cyngor Sir Fynwy’n datblygu llwybrau teithio llesol ar draws y Fenni i gysylltu trigolion yn well â chyrchfannau lleol a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.  Ein nod yw gwella tegwch mynediad at addysg, cyflogaeth, siopau a gwasanaethau lleol, i gefnogi cymunedau cynaliadwy, gwydn a chysylltiedig ar draws y Fenni a Llan-ffwyst.   

Rydym yn canolbwyntio ar gysylltiadau teithio llesol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni, gyda’n llwybr wedi’i gynllunio o amgylch pont teithio llesol newydd sy’n croesi’r Afon Wysg rhwng Merthyr Road a Dolydd y Castell, a chysylltiadau cysylltiedig ar gyfer llwybrau teithio cynaliadwy mwy deniadol ac uniongyrchol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni.   

Pont teithio llesol Llan-ffwyst i’r Fenni  

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi sicrhau £10.4m o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu’r bont a’r llwybrau cysylltu, ar gyfer llwybrau teithio cynaliadwy mwy diogel, mwy deniadol ac uniongyrchol i Lan-ffwyst a’r Fenni.  Bydd y gwaith adeiladu yn cynnwys gwaith gwella llwybrau cysylltu ar gysylltiadau Dolydd y Castell a Llan-ffwyst (gweler isod). Bwriedir i’r gwaith hwn ddechrau yn gynnar yn 2026, gyda gwaith graddol yn parhau i 2027.  Mae amseriadau’r gwaith yn cael eu heffeithio gan lefelau afonydd a chyfyngiadau ecolegol.  Bydd y cam hwn o’r gwaith yn cynnwys:  

  • Pont i gerddwyr a beicio 3 metr o led â ffrâm ddur ar draws Afon Wysg  
  • Arwyddion dwyieithog  
  • Cysylltiadau â llwybrau Merthyr Road a Dolydd y Castell 

I gael rhagor o wybodaeth am waith adeiladu’r cynllun teithio llesol yn y Fenni, ewch i https://www.monlife.co.uk/cy/y-fenni-cynllun-teithio-llesol-cysylltiad-y-bont-i-lan-ffwyst/ 

Dolydd y Castell  

Y ffocws yn Nolydd y Castell yw darparu llwybrau newydd ac uwchraddio sy’n bodoli eisoes sy’n cysylltu’r bont teithio llesol â’r Fenni ar Ddolydd y Castell gyda chysylltiad â Merthyr Road. Wrth i’r cynllun fynd rhagddo, bydd gwaith pellach yn nodi uwchraddiadau posibl i lwybrau o fewn y dolydd gyda’r cyllid presennol sydd ar gael.  Mae Dolydd y Castell yn Ardal Cadwraeth Arbennig, gydag ecoleg sensitif a fydd yn cael ei hystyried wrth i’r cynlluniau gael eu datblygu. Mae llwybr cysylltu trwy Gaeau Ysbyty yn uchelgais yn y dyfodol, ond bydd angen mynd i’r afael â pherchnogaeth tir a chyllid yn y dyfodol. Bydd rhai o’r llwybrau arfaethedig yn cael eu cynnwys yng ngwaith adeiladu Llan-ffwyst i’r Fenni gan ddechrau yn 2026 (gweler uchod).  Bydd y cam hwn o’r gwaith yn cynnwys:  

  • Uwchraddio llwybr i rai llwybrau ar Ddolydd y Castell, i ddarparu ar gyfer defnydd a rennir 
  • Rampiau i’r bont teithio llesol (gweler uchod)  
  • Arwyddion dwyieithog  
  • Gatiau a ffensys lle bo angen  
  • Cysylltiadau â llwybrau presennol ar Ddolydd y Castell 

Cysylltiadau Llan-ffwyst 

Bydd Cysylltiadau Llan-ffwyst yn gweld gwelliannau i’r ddarpariaeth teithio llesol ar ochr Llan-ffwyst Afon Wysg.  Bydd llwybrau dethol yn cael eu datblygu i gysylltu’r bont teithio llesol â Llan-ffwyst.  Nododd astudiaeth WelTAG (Canllawiau Asesu Trafnidiaeth Cymru) o lwybrau i gysylltu Llan-ffwyst â’r Fenni uwchraddiadau posibl i lwybrau ar hyd Merthyr Road a thrwy The Cutting. Ni fydd cwmpas llawn y llwybrau a nodwyd yn gyraeddadwy o fewn y cyllid presennol gan mai’r bont teithio llesol yw’r flaenoriaeth i’w chyflawni.  Bydd rhai uwchraddiadau llwybr yn cael eu cynnwys yng ngwaith adeiladu Llan-ffwyst i’r Fenni gan ddechrau yn 2026 (gweler uchod).  Mae’r gwaith a gynhwysir yn y cam hwn yn cynnwys:  

  • Uwchraddio troedffyrdd a chyfleusterau croesi yn Llan-ffwyst  
  • Cysylltiadau â’r bont Teithio Llesol  

Datblygu Rhwydwaith Teithio Llesol ar draws y Fenni  

Mae llwybrau teithio llesol yn y Fenni yn cael eu harchwilio i’w cynnwys ym Map Rhwydwaith Teithio Llesol Llywodraeth Cymru gyda’r sgorio archwilio yn nodi mân waith ar draws y rhwydwaith. Mae gwaith bach yn cynnwys eitemau fel gosod cyrbau isel, palmentydd cyffyrddol a pharcio beiciau.  

Map Ardal Teithio Llesol y Fenni

Cliciwch ar y map i’w ehangu neu ei lawrlwytho.  

This post is also available in: English