Ymunwch â ni yng Nghastell Cil-y-coed ar 9 Awst pan fydd cwmni theatr Three Inch Fools yn perfformio ‘The Most Perilous Comedie of Elizabeth I’
Mae Three Inch Fools yn cyflwyno comedi Duduraidd hanesyddol gan bennaf, hollol hurt a newydd sbon. Mae theatr yn ffynnu yng nghyfnod Elizabeth, ond a fydd y gomedi gerddorol Duduraidd newydd sbon lle mae’r frenhines ar y llwyfan ei hun yn ei gwneud yn arwres neu’n ddechrau’r diwedd iddi? Caiff y llwyfan ei osod ar gyfer brad brenhinol, dramodwyr dichellgar a chymeriadau cynllwyngar. Yn llawn camddealltwriaeth a sgript … gadewch i ni ddweud …. sydd angen ychydig o waith, mae’r cynhyrchiad yma’n argoeli bod yn hanesyddol i raddau helaeth, a digri tu hwnt. Fel y dywedodd yr hen air .. ymlaen â’r sioe.
★★★★★– “Mor ddifyr … llond bol o chwerthin”
★★★★★– “Y profiad theatrig Prydeinig eitha” – Hastings Independent Press
★★★★★– “Doniol tu hwnt. Fe wnes ei fwynhau yn fawr iawn”
Dewch â’ch clustogau a’ch cadeiriau cario eich hun ac ymuno â ni ar gyfer ein antur awyr agored 10fed pen-blwydd. Dewch yn barod ar gyfer y tywydd – glaw neu haul, bydd y perfformiad yn mynd rhagddo!
Tocynnau!This post is also available in: English