Mae cynhyrchiad The Duke’s Theatre Company o Macbeth yn cynnig ailddychmygiad deinamig o drasiedi glasurol Shakespeare. Yn adnabyddus am eu dehongliadau beiddar a blaengar, mae’r cwmni yn rhoi naws cyfoes i’r stori dywyll o uchelgais, llofruddiaeth a gwallgofrwydd.
Mae’r cyfarwyddwr Robert Shaw Cameron (Coronation Street, Regents Park Open Air Theatre, Sheffield Crucible) a’r dylunydd Jessica Curtis (Hampstead Theatre, Almeida Theatre, Royal National Theatre) yn arwain cynhyrchiad gyda chwech o actorion blaenllaw. Gyda ffocws cryf ar chwalfa seicolegol y cymeriadau, mae’r addasiad hwn yn mynd â’r cwmni i gyfnod newydd o deithio awyr agored yn ystod yr haf.
Amser rhedeg: 2 awr, yn cynnwys egwyl 15 munud.
Clwydi’n agor: 45 munud cyn y perfformiad.
Dydd Mercher, 23ain Gorffennaf, 2025 7.00pm
Tocynnau!This post is also available in: English