Casestudieswelsh - Monlife

Effaith Dysgu MonLife ar Bobl sy’n Byw gyda Dementia a’u Gofalwyr

Trosolwg o’r Prosiect

Mae Dysgu Treftadaeth MonLife yn rhedeg nifer o raglenni allgymorth wedi’u hwyluso, sy’n defnyddio hanes cymdeithasol a gwrthrychau hanesyddol o’u casgliadau trin i annog rhyngweithio cymdeithasol, gwella lles a chodi lefelau hyder. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu hyfforddiant gwirfoddolwyr i ddefnyddio gwrthrychau ar gyfer atgofion ac adnoddau atgofion hunan-arweiniol, i’w defnyddio mewn lleoliadau gofal preswyl.

Amcanion Allweddol:

▪ Gwella lles.  

▪ Lleihau ynysu cymdeithasol. 

▪ Gwella hyder a hunan-barch. 

▪ Darparu gweithgareddau cymunedol.

Allbynnau / Deilliannau’r Prosiect

Mae’r prosiectau sy’n gysylltiedig â dementia wedi profi’n amhrisiadwy wrth gyrraedd unigolion sy’n byw â dementia a’u gofalwyr teuluol neu therapyddion galwedigaethol. Mae’r ddarpariaeth allgymorth wedi sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch, gan ddefnyddio’u casgliadau i wella lles.

Dull Cyfannol

Er mwyn cynnig dull unedig o gefnogi pobl sy’n byw â dementia, cafodd staff yr amgueddfa gyllid gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) i bartneru â’r Cynllun Atgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol. Roedd hyn yn galluogi cyfranogwyr i gynyddu eu gweithgarwch corfforol am awr yr wythnos, dros gyfnod o ddeng wythnos.  Ar ôl hynny, darparodd y Gwasanaeth Dysgu Treftadaeth sesiynau atgofion thematig, trin gwrthrychau a gweithgaredd crefft. 

Sgyrsiau Creadigol

Mae ‘Sgyrsiau Creadigol’ yn rhaglen wythnosol wedi’i lleoli yn Nhref Rufeinig Caer-went Cadw. Mae’n darparu gweithgaredd i bobl sy’n byw â Dementia a’u gofalwyr. Bob yn ail wythnosau, mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd atgofion a thrin gwrthrychau hanesyddol.  Mae hyn yn caniatáu cyfleoedd i sgyrsiau a dysgu newydd. Ar ôl pob sesiwn atgofion a thrin, cynigir crefft gysylltiedig, gan ddarparu cyfleoedd ffocws ac ymlacio.

Lluniwyd y rhaglen o amgylch diddordebau a phrofiadau cyfranogwyr sy’n cwblhau holiadur personol o’r enw ‘Hwn yw fi’ ar ddechrau’r rhaglen. Mae’r dull person-ganolog hwn yn galluogi cyfranogwyr i ‘fod yn arbenigwr’ ar bwnc penodol, sydd wedi profi’n amhrisiadwy ar gyfer hyder a hunan-barch.

Cynllun Atgofion Gwirfoddolwyr

Gall dewis eang o flychau atgofion gael eu llogi gan weithwyr gofal neu eu defnyddio gan wirfoddolwyr y gwasanaeth dysgu.  Mae rhaglen hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr cymunedol wedi’i datblygu i gynorthwyo capasiti 7, fel y gellir mynd ag adnoddau allan i gartrefi gofal a’u defnyddio mewn caffis cof mewn lleoliadau cymunedol. Cyflwynwyd y sesiwn hyfforddiant gyntaf ym mis Chwefror 2024 i 14 o wirfoddolwyr a chafodd ei chefnogi drwy ‘Byddwch Gymuned Sir Fynwy’, rhaglen arweinyddiaeth gymunedol Cyngor Sir Fynwy. Mae hyfforddiant gwirfoddolwyr yn cynnwys sut i ddefnyddio gwrthrychau amgueddfa fel awgrymiadau/sbardunau ar gyfer annog rhannu profiadau bywyd, pam mae gwrthrychau amgueddfa yn werthfawr mewn gwaith atgofion, manteision atgofion i’r cyfranogwr, diogelu a sut i hwyluso sesiwn atgofion yn ddiogel.

Iechyd a Lles

Trwy arsylwi, presenoldeb, cardiau effaith a holiaduron, cafwyd adborth yn ymwneud â lles.

“Rydw i bob amser yn mynd adref yn teimlo’n hamddenol a dan lai o straen”

“Fe helpodd fi i ennill hyder… fe wnaeth fy atal rhag teimlo’n unig gartref”.

“… Mae gen i rywbeth i godi o’r gwely amdano”.

[Rwyf wedi profi] “… lleihad o ran gorbryder, a mwy o hyder ac wedi dysgu bod yn fwy creadigol”

Cyfranogwyr y prosiect  

Myfyrdod

Mae helpu pobl i ‘fyw’n dda gyda Dementia’ yn golygu gwrando ac ymateb i’r hyn y mae cyfranogwyr eu heisiau ac addasu rhaglenni i sicrhau bod hyn wrth wraidd cynllunio. Rhan hanfodol o annog pobl i gymryd rhan yn y rhaglenni yw gweithio gyda sefydliadau cymunedol, clinigau cof, ymarferwyr byrddau iechyd, comisiynwyr a gweithwyr cymunedol. 

Mae’n bosibl bod angen gwneud mwy o waith ynghylch dangos gwerth defnyddio casgliadau amgueddfa gyda phobl sy’n byw â Dementia a’u gofalwyr, a rhannu hyn gyda gweithwyr proffesiynol meddygol. Byddai hyn yn annog rhagnodi cymdeithasol i ddod yn rhan o gefnogaeth gyfannol i’r gynulleidfa darged hon.

Mae cyllid a chapasiti i gyflawni yn erbyn galw yn her. Bydd cwrdd â’r angen gyda chyllidebau sy’n gostwng yn dod yn anoddach, gan arwain at leihau/rhoi’r gorau i wasanaethau.

Y Camau Nesaf

  • Bydd carfan arall o wirfoddolwyr yn dechrau hyfforddiant yn haf 2025.
  • Mae’r rhaglen amgueddfa yn bwriadu datblygu blwch atgofion ar thema’r 1980au, gan fod y duedd yn dangos bod mwy o bobl â dementia cynnar. 
  • Mae cyllid wedi’i gael ar gyfer o leiaf dwy raglen NERS arall ledled y sir, felly bydd y prosiect yn parhau. 
  • Mae rhagor o gyllid yn cael ei geisio i barhau a datblygu’r rhaglen Sgyrsiau Creadigol yng Nghaer-went.
  • Bydd ehangu’r gwasanaeth atgofion yn digwydd trwy’r gwirfoddolwyr.


Astudiaeth achos: Pêl-droed Cerdded yn Sir Fynwy

Amcan:

Datblygu a darparu cyfleoedd i ddynion a menywod 40 oed a hŷn gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon cerdded er mwyn hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol.

Gweithredu:

Trwy sesiynau blasu cychwynnol a blociau o sesiynau, dechreuodd y niferoedd gynyddu yn fuan a ffurfiwyd grwpiau cymdeithasol i gefnogi nid yn unig y gweithgaredd corfforol ond i ddatblygu cyfeillgarwch. Cynhaliwyd twrnamaint cyfeillgar tair ffordd rhwng ein Canolfan Hamdden Cil-y-coed, Sir Casnewydd a Thref Merthyr i ddarparu’r profiad cystadleuol cyntaf i’r chwaraewyr, ac roedd hyn yn llwyddiant gwych.

Bu clwb Pêl-droed Cerdded Cil-y-coed, mewn partneriaeth â’r tîm datblygu chwaraeon lleol yn cynnal eu twrnamaint pêl-droed cerdded eu hunain ym mis Hydref 2019, gyda dros 10 tîm yn cymryd rhan o bob rhan o’r DU a channoedd o chwaraewyr yn bresennol.

O ganlyniad i’r llwyddiant yng Nghil-y-coed, aeth y tîm Datblygu Chwaraeon â’r ymgyrch ymlaen wedyn i Gas-gwent. Fe wnaeth 10 o bobl gymryd rhan yn y sesiwn gyntaf, gyda’r rhan fwyaf o’r rhain yn aelodau drwy atgyfeiriad Meddygon Teulu yn ein canolfannau hamdden.

Mae datblygiad pêl-droed cerdded yng Nghas-gwent wedi bod yn ddylanwadol i nifer, ac o ganlyniad mae wedi arwain at y tîm yn rhedeg eu twrnamaint eu hunain ym mis Chwefror. Mae ganddynt uchelgeisiau hefyd i ddechrau eu Clwb Pêl-droed Cerdded Cas-gwent eu hunain, gan efelychu’r hyn sydd wedi’i sefydlu yng Nghil-y-coed.

Mae’r tîm Datblygu Chwaraeon hefyd wedi dechrau camau cyntaf ehangu’r fenter pêl-droed cerdded i ogledd y sir, gyda’r cynlluniau cychwynnol o ddechrau hyn yng nghanolfan hamdden y Fenni a Threfynwy dros gyfnod yr haf.  Mae gan y tîm hefyd uchelgeisiau o greu twrnamaint yn y gaeaf rhwng y pedwar safle Canolfan Hamdden.

Canlyniadau

Ers mis Mai 2019, mae Datblygu Chwaraeon Sir Fynwy wedi datblygu a darparu cyfleoedd i ddynion a menywod 40+ oed gymryd rhan mewn amrywiaeth o gampau cerdded, mae ein heffaith fwyaf amlwg wedi dod drwy Bêl-droed Cerdded. Mae pêl-droed cerdded yn Sir Fynwy wedi gweld effaith enfawr yn 2019.  Nid yn unig roedden ni’n gweld effaith gadarnhaol ar lefelau gweithgarwch corfforol, gwelsom ostyngiad mewn unigrwydd cymdeithasol.

Mae pêl-droedwyr cerdded Cil-y-coed bellach wedi datblygu i fod yn glwb cysylltiedig, a chydnabyddedig, sydd wedi eu galluogi i ddechrau ymuno â chynghrair pêl-droed cerdded Cymru a thwrnameintiau lleol, yn ogystal â derbyn grant cist gymunedol ddiweddar. Mae’r clwb hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn twrnameintiau cenedlaethol, ac ar hyn o bryd mae ganddo 3 chwaraewr fel rhan o dîm cenedlaethol Cymru. Yn ogystal â hyn, yn ystod mis Mawrth 2020, mae’r clwb yn gweithio mewn partneriaeth â Mind Sir Fynwy i gynnal mis Iach a Gweithredol, a fydd yn ei dro yn gweithio fel codwr arian i’r elusen er mwyn hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol. Rydym wedi gweld 83 o oedolion yn cymryd rhan mewn pêl-droed cerdded, gyda’r niferoedd yn parhau i gynyddu bob wythnos.