Bulwark Park – Monlife

Mae chwarae yn fwy nag ond rhywbeth hwyl, mae’n rhan hanfodol o ddatblygiad plentyndod, gan feithrin hyder, gwytnwch, a chysylltiadau cymunedol cryfach.  Er mwyn sicrhau bod y dyluniadau newydd yn adlewyrchu anghenion teuluoedd lleol, gwnaethom ymgysylltu â rhieni a phlant drwy arolygon ar-lein drwy Sgwrsio am Sir Fynwy ac ymgynghori uniongyrchol yn ystod rhaglen haf Bwyd a Hwyl. Roedd yr ymateb yn galonogol, gyda mewnbwn wedi’i dderbyn gan ystod eang o grwpiau oedran.

O ganlyniad i’r ymdrech gydweithredol hon, rydym yn gyffrous i gynnwys nodweddion fel y Slide Unity Climber ym Mharc Bulwark, a wnaed yn bosibl trwy gyllid ychwanegol gan Gyngor Tref Cas-gwent.  Mae’r gwelliannau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wrando ar y gymuned a darparu mannau cynhwysol a diddorol i blant o bob gallu.

Bydd yr ardal chwarae newydd yn cynnwys offer a gweithgareddau ar gyfer pob oedran, gan gynnwys lloriau meddal, amrywiaeth eang o strwythurau dringo gyda sleidiau integredig a thampolîn wedi’i fewnosod, siglenni o wahanol feintiau, meinciau gyda mannau cysgodol, byrddau gweithgareddau a nodweddion synhwyraidd, a dyluniadau llachar, apelgar.  Er nad oedd wifren sip yn bosibl oherwydd cyllideb a lle, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio deunyddiau naturiol ac archwilio atebion sy’n seiliedig ar natur i wella’r ardal a chysylltu pobl â mannau gwyrdd lleol.

Nodwch: Roedd angen ystyried paramedrau ôl troed presennol y parc chwarae wrth ddylunio Parc Bulwark.

Fel rhan o’r broses ymgynghori, mynegwyd ffafriaeth gref ar gyfer amrywiaeth o siglenni sy’n darparu ar gyfer gwahanol alluoedd.  Mewn ymateb, mae’r dyluniad newydd yn cynnwys siglen fasged, a oedd yn un o’r opsiynau a ddewiswyd amlaf.

Mae nodweddion ychwanegol fel offer troelli, si-so, a byrddau chwarae synhwyraidd hefyd wedi’u hymgorffori.  Mae’r elfennau hyn yn cefnogi chwarae cynhwysol ac wedi’u dewis yn ofalus i weddu i’r gofod sydd ar gael wrth gwrdd â’r blaenoriaethau a nodwyd gan y gymuned.

Cyflenwi a gosod si-so Hags Dragon Fly ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.

Cyflenwi a gosod rowndabowt Spinmee ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.

Cyflenwi a gosod bwrdd picnic amryliw o blastig wedi’i ailgylchu.

Cyflenwi sedd gynhwysol ar gyfer uned siglen.

Cyflenwi a gosod sgwâr Kompan Bouncer ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.

Cyflenwi a gosod uned shifter Kompan Climby i gynnwys sedd basged ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.

Cyflenwi a gosod uned siglen Kompan Combi i gynnwys sedd basged ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.

Cyflenwi a gosod Hags Unity Climber ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd. Ariannwyd gan Gyngor Tref Cas-gwent.

Cyflenwi a Gosod paneli Kompan Play i gynnwys sedd basged ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.


Uwchraddiadau Cyffrous yn Dod i Barc Sglefrio Parc Bulwark!

Rydym yn gwneud gwelliannau i’r ffedog goncrit o amgylch brig y ddwy fowlen ym mharc sglefrio Parc Bulwark. Mae contractwr wedi’i benodi i wneud y gwaith, ac er y bydd yr amserlen yn dibynnu ar y tywydd, rydym wedi ymrwymo i gadw’r parc mewn cyflwr gwych i bawb ei fwynhau.

Nodwch: Nid yw’r prosiect hwn yn gysylltiedig ag unrhyw ddyddiadau cau sy’n gysylltiedig â grantiau.

This post is also available in: English