Cyfleusterau newydd cyffrous yn dod i ganolfan hamdden Cil-y-coed
Rydym yn falch iawn o gyflwyno nifer o ddatblygiadau mawr sydd ar y gweill yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed, gan gynnwys ail-ddatblygu ein campfa, y parc sglefrio a chae 3G newydd sbon. Nod y buddsoddiadau sylweddol hyn yw darparu cyfleusterau modern o ansawdd uchel sy’n cefnogi ffyrdd iachach a mwy egnïol o fyw i bobl o bob oedran a gallu.
P’un a ydych chi’n aelod o glwb chwaraeon, ysgol neu grŵp cymunedol, neu’n chwilio am le i ymarfer, chwarae neu dreulio amser gyda ffrindiau a theulu, bydd y cyfleusterau hyn yn darparu mannau diogel, hygyrch a chroesawgar y gellir eu mwynhau trwy gydol y flwyddyn.
This post is also available in:







