Western Avenue
Mae chwarae yn fwy nag ond rhywbeth hwyl, mae’n rhan hanfodol o ddatblygiad plentyndod, gan feithrin hyder, gwytnwch, a chysylltiadau cymunedol cryfach. Er mwyn sicrhau bod y dyluniadau newydd yn adlewyrchu anghenion teuluoedd lleol, gwnaethom ymgysylltu â rhieni a phlant drwy arolygon ar-lein drwy Sgwrsio am Sir Fynwy ac ymgynghori uniongyrchol yn ystod rhaglen haf Bwyd a Hwyl. Roedd yr ymateb yn galonogol, gyda mewnbwn wedi’i dderbyn gan ystod eang o grwpiau oedran.
O ganlyniad i’r ymdrech gydweithredol hon, rydym yn gyffrous i gynnwys nodweddion fel cyflenwi a gosod y Net Jumper yn Western Avenue, a wnaed yn bosibl trwy gyllid ychwanegol gan Gyngor Tref Cas-gwent. Mae’r gwelliannau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wrando ar y gymuned a darparu mannau cynhwysol, diddorol i blant o bob gallu.
Rydym wedi ymrwymo i wrando ar ein cymunedau a darparu mannau sy’n adlewyrchu eich blaenoriaethau. Diolch unwaith eto am ein helpu i greu ardaloedd chwarae y gall pawb eu mwynhau.
Diweddariad ar offer ychwanegol
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi, diolch i gyllid ychwanegol, y byddwn yn fuan yn gosod pod sgwter a rac beiciau newydd i wneud ein parciau hyd yn oed yn fwy hygyrch ac yn gyfeillgar i deuluoedd.
Mae’r ychwanegiadau hyn wedi’u cynllunio i annog teithio egnïol a rhoi dewisiadau mwy cyfleus i ymwelwyr wrth fwynhau ein parciau.
Cadwch lygad am y diweddariadau wrth i’r gosodiad ddechrau, allwn ni ddim aros i chi weld y gwelliannau!
Diweddariad ar yr Amserlen Waith
Mae arwyddion bellach wedi’u gosod ar Western Avenue i hysbysu cwsmeriaid am y gwaith sydd ar ddod. Mae cael gwared ar yr offer presennol wedi’i drefnu i ddechrau ar 12 Ionawr. Disgwylir i’r offer newydd gael ei ddanfon yn yr wythnos sy’n dechrau 19 Ionawr; fodd bynnag, bydd adnoddau ar y safle yn gyfyngedig oherwydd gweithgareddau a drefnwyd ymlaen llaw.

Sut rydym wedi diwallu’r anghenion ar gyfer yr ymgynghoriad?
Rydym wedi gwrando ar eich adborth ac wedi dylunio ardal chwarae sy’n cynnig rhywbeth ar gyfer pob oedran, gyda lloriau meddal, amrywiaeth o strwythurau dringo heriol gan gynnwys sleidiau a thrampolîn wedi’i fewnosod, siglenni ar gyfer gwahanol alluoedd, meinciau gyda rhai ardaloedd cysgodol, dyluniad llachar ac apelgar, byrddau synhwyraidd a gweithgareddau, ac ymrwymiad i ddefnyddio deunyddiau naturiol a chefnogi adferiad natur er yr unig nodwedd nad oeddwn wedi gallu ei gynnwys oherwydd cyfyngiadau cyllideb a lle oedd y wifren sip.
Yr Offer a Ddewiswyd
Fel rhan o’r broses ymgynghori, mynegwyd ffafriaeth gref ar gyfer amrywiaeth o siglenni sy’n darparu ar gyfer gwahanol alluoedd. Mewn ymateb, mae’r dyluniad newydd yn cynnwys siglen fasged, a oedd yn un o’r opsiynau a ddewiswyd amlaf.
Mae nodweddion ychwanegol fel offer troelli, si-so, a byrddau chwarae synhwyraidd hefyd wedi’u hymgorffori. Mae’r elfennau hyn yn cefnogi chwarae cynhwysol ac wedi’u dewis yn ofalus i weddu i’r gofod sydd ar gael wrth gwrdd â’r blaenoriaethau a nodwyd gan y gymuned.
Amnewid y giât am gatiau Prosafe sy’n cydymffurfio ag anghenion Anabledd.
Cyflenwi a gosod bwrdd picnic amryliw o blastig wedi’i ailgylchu.
Cyflenwi a gosod rowndabowt gynhwysol Hags Spinmee ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.
Cyflenwi a gosod Hags Net Jumper ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd. Ariannwyd gan Gyngor Tref Cas-gwent.
Cyflenwi a gosod Kompan Net Twister ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.
Cyflenwi a gosod offer aml-chwarae Hags Hemba ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.
Cyflenwi a gosod panel chwarae Kompan Lay 3 ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.
Cyflenwi a gosod uned siglen Kompan Combi ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.
Cyflenwi a gosod sedd Hags Tango ynghyd ag arwynebedd diogelwch chwarae plant i safon argymhellion y gweithgynhyrchydd.
This post is also available in: English