Gwirfoddoli gyda BywydMynwy
Mae gweithlu brwdfrydig ac egnïol gan BywydMynwy ar hyd a lled y mudiad, ac mae’n cael ei gefnogi gan 217 o wirfoddolwyr ychwanegol. Mae gwirfoddolwyr yn ased hanfodol ar gyfer BywydMynwy gan eu bod yn cynnig y cyfle ar gyfer angerdd cynyddol, cynnwys ac amrywiaeth o fewn y mudiad.
Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i’r gwaith yr ydym yn ei wneud ac rydym yn anelu i ddarparu’r profiad gorau posib i wirfoddolwyr. Mae BywydMynwy yn cynnig ystod amrywiol o gyfleoedd gwirfoddoli o fewn ei wasanaethau – mae yna rywbeth ar gyfer pawb, nid oes ots am allu neu ddiddordeb. Bydd BywydMynwy yn parhau i ehangu’r gweithlu gwirfoddol o fewn ein cymunedau yn Sir Fynwy.
Sut y mae unigolion yn elwa drwy wirfoddoli?
- Datblygu sgiliau a phrofiad
- Gwella CV a chyfleoedd gwell i sicrhau swydd
- Ymdeimlad o falchder a chyrhaeddiad
- Datblygu’n bersonol fel cynyddu hunanhyder, gwella iechyd meddwl, yn gorfforol weithgar, yn fwy iachus a’n gryfach
- Gwneud gwahaniaeth
- Yn teimlo’n rhan o dîm
- Cwrdd â phobl newydd
- Rhannu sgiliau a phrofiad
- Parch a chyfrinachedd
- Y cyfle i fod yn llysgennad o fewn eich cymuned
Manteision ar gyfer BywydMynwy drwy gydweithio gyda gwirfoddolwyr
- Yn gwella ac yn ychwanegu gwerth at wasanaethau a gweithgareddau
- Gweithlu egnïol sydd wedi ei ymrymuso
- Hyblygrwydd cynyddol ac ansawdd cyflenwi
- Darparu gwasanaethau na sydd yn cael eu hariannu gan y sector cyhoeddus
- Grŵp amrywiol o bobl
- Sgiliau a phrofiad gwell ar draws y mudiad
Manteision gwirfoddoli ar gyfer y gymuned
- Datblygu cyfalaf cymdeithasol a’n hyrwyddo cydlyniant cymunedol (rhwng cenedlaethau, diwylliannol) drwy ddigwyddiadau ar y cyd a gwelliannau i’r awyrgylch o’n cwmpas, newid cysyniadau (e.e. barn pobl hŷn am bobl iau)
- Arwain pobl i gael swyddi fel rhan o’r farchnad lafur
- Mae gwirfoddolwyr yn arwain y gad o ran adnewyddu sifig ac arweinyddiaeth gymunedol
- Adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol a chydlyniant cymunedol gyda gwirfoddolwyr yn dangos mwy o werthfawrogiad o ddiwylliannau gwahanol
- Cynnydd mewn iechyd a lles, gan leihau’r sgil-effaith ar y GIG
- Cyfraddau troseddu is
- Gwella cyfrifoldeb cymdeithasol
- Yn medru ymdreiddio i mewn i gymuned drwy ymrymuso
- Cyfranogiad ymhlith ystod eang o bobl
- Budd economaidd cynyddol
Beth ydym yn medru cynnig i wirfoddolwyr BywydMynwy:
Bydd gwirfoddolwyr yn medru cael mynediad at ystod eang o gymorth: canllawiau a hyfforddiant er mwyn sicrhau bod eu profiadau yn werth chweil.
Yr hyn yr ydym yn medru cynnig i chi:
- Cyfle i wirfoddoli sydd yn diwallu eich anghenion;
- Cyfweliad cymorth cychwynnol er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y cyfleoedd cywir ac yn cwblhau’r holl waith papur angenrheidiol o ran anwytho;
- Proffil rôl eglur sydd yn esbonio’r hyn sydd angen i chi wneud;
- Rhaglen anwytho lawn a ‘chyfaill’ i’ch cynorthwyo;
- Mynediad at ein safle ‘Volunteer Kenetic’ lle’r ydych yn gyfrifol am lanlwytho’r oriau gwirfoddoli yr ydych wedi cwblhau; yn darparu adborth a’n rheoli eich pecynnau hyfforddiant a chymorth. Bydd eich mentor enwebedig yn medru cynnig adborth i chi hefyd yn gyson.
- Cyfle cyson i gael sesiynau 1-2-1 neu mewn grŵp;
- Bathodyn, iwnifform a PPE os oes angen;
- *Rhaglen anwytho lawn sydd yn cael ei darparu ar 3 lefel – Gorfodol; Lled-grefftus ac Arbenigol – er mwyn sicrhau eich bod yn medru manteisio i’r eithaf ar eich profiad fel gwirfoddolwr;
- Gwahoddiad blynyddol i ddigwyddiad dathlu a noson wobrwyo.
*Mae Gwirfoddoli yn Sir Fynwy yn cael ei gefnogi hefyd gan ACTS a BeCommunity sydd yn darparu ystod o wasanaethau, cymorth a hyfforddiant i wirfoddolwyr.