Gwasanaeth Cynghori Addysg Awyr Agored - Monlife

Gwasanaeth Cynghori Addysg Awyr Agored

Cyngor, monitro, cymeradwyaeth a hyfforddiant arbenigol ar gyfer dysgu yn yr awyr agored ac ymweliadau oddi ar y safle.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori ar Addysg Awyr Agored yn cynnig cyngor arbenigol i holl ysgolion Cyngor Sir Fynwy a gwasanaethau eraill Cyngor Sir Fynwy sy’n cynnal dysgu yn yr awyr agored ac ymweliadau oddi ar y safle, fel gwasanaeth ieuenctid a’r tîm economi, cyflogaeth a sgiliau.

Mae gan bob sefydliad sy’n gweithredu o dan y Gwasanaeth Cynghori ar Addysg Awyr Agored bolisi ‘Ymweliadau Dysgu Awyr Agored ac Oddi ar y Safle’ cyfredol ar waith ac maent yn dilyn y Canllawiau Cenedlaethol, a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru: Canllawiau Cenedlaethol | (oeapng.info)

Mae’r Cynghorydd Addysg Awyr Agored yn aelod o’r Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored (PCAAA) a chadeirydd presennol Panel Cymru.

Cynigir sawl cwrs hyfforddiant i gefnogi staff sy’n arwain, cefnogi a rheoli dysgu yn yr awyr agored ac ymweliadau oddi ar y safle.  Mae cyrsiau ar gael i staff a gwirfoddolwyr Sir Fynwy yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am hyfforddiant o ymhellach i ffwrdd.   Am yr ystod o gyrsiau, gweler ein hopsiynau cwymplen isod.

Ar gyfer pob cwrs ac eithrio Cwrs Trefnwyr Cyrsiau Snowsport, cofrestrwch eich diddordeb yma, gan ddweud wrthym pa gwrs(cyrsiau) y mae gennych ddiddordeb mewn mynychu: outdooradventures@monmouthshire.gov.uk.

Mae’r cwrs hyfforddi achrededig PCAAA undydd hwn ar gyfer unrhyw un sy’n cymryd rôl y CYA yn eu hysgol / sefydliad.  Bydd ymgeiswyr yn newydd i’r rôl a rhaid iddynt yn gyntaf gael eu cymeradwyo gan eu pennaeth neu reolwr.   Dylai CYAau fod yn arweinwyr ymweliadau profiadol sydd â statws digonol o fewn y sefydliad i arwain arfer gwaith cydweithwyr sy’n arwain ymweliadau neu gyfleoedd dysgu awyr agored.

Mae’r cwrs yn darparu’r negeseuon craidd sy’n datblygu sgiliau ac arbenigedd y CYA gan sicrhau bod cynllunio, rheoli a goruchwylio dysgu awyr agored ac ymweliadau oddi ar y safle yn cwrdd â pholisi ac arweiniad ac yn cysylltu â chyflawni canlyniadau o ansawdd uchel.

Mae’r cwrs yn cynrychioli arfer da cyfredol, ac mae’n dilyn maes llafur PCAAA, sy’n cynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol a rheoli risg ac sy’n cael ei ddarparu gan aelod PCAAA.

Lleoliad: Canolfan Antur Awyr Agored Gilwern

Amserau: 9.00am – 3.30pm

Fformat: Wyneb yn wyneb, yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored

Beth i ddod gyda chi: Offer awyr agored a phecyn cinio

Mae’r cwrs hyfforddi achrededig PCAAA hanner diwrnod hwn ar gyfer unrhyw un sydd wedi cwblhau’r cwrs undydd o’r blaen ac sydd angen diweddariad.  Dylid mynychu’r cwrs hwn bob tair blynedd i aros yn gyfredol fel CYA.

Bydd y cwrs yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y negeseuon craidd o gynllunio a rheoli dysgu yn yr awyr agored ac ymweliadau oddi ar y safle ac yn eich cyflwyno i unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau mewn polisi neu arweiniad. Mae’r cwrs yn cynrychioli arfer da cyfredol, ac mae’n dilyn maes llafur PCAAA, sy’n cynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol a rheoli risg ac sy’n cael ei ddarparu gan aelod PCAAA.

Lleoliad: Canolfan Antur Awyr Agored Gilwern

Amserau: 9.00am – 12.30pm

Fformat: Wyneb yn wyneb, yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored

Beth i ddod gyda chi: Offer awyr agored

Mae’r cwrs achrededig undydd hwn ar gyfer y rhai sy’n dymuno arwain eu dysgwyr mewn lleoliadau ymweliadau oddi ar y safle.   Mae’r cwrs yn ymdrin ag agweddau allweddol ar arweinyddiaeth ymweld gan gynnwys cynllunio, rheoli risg, gwerthuso ac adolygu yn unol â’r polisi a’r arweiniad cyfredol er mwyn cadw grwpiau’n ddiogel a chyflawni canlyniadau o ansawdd uchel.

Mae’r cwrs hefyd yn darparu goruchwyliaeth ymarferol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd gwahanol gan gynnwys diogelwch trafnidiaeth, croesfannau ffyrdd, rheoli grwpiau ger dŵr ac mewn adeiladau neu fannau mynediad cyhoeddus fel parciau neu goetiroedd.

Lleoliad: Canolfan Antur Awyr Agored Gilwern neu safle ysgol addas (gofynnwch)

Amserau: 9.00am – 3.30pm

Fformat: Wyneb yn wyneb, yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored

Beth i ddod gyda chi: Offer awyr agored a phecyn cinio

Mae EVOLVE yn offeryn cynllunio a rheoli ar-lein ar gyfer dysgu yn yr awyr agored ac ymweliadau oddi ar y safle.   Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer arweinwyr ymweliadau, staff cymorth neu wirfoddolwyr sy’n dymuno dysgu mwy am sut i gynllunio, rheoli, cymeradwyo a gwerthuso eu hymweliad gan ddefnyddio EVOLVE.

Gall yr hyfforddiant fod yn bwrpasol, ond fel arfer mae’n cynnwys edrych ar bolisi a chanllawiau a ble i ddod o hyd i ddogfennau ategol ac offer cynllunio gan ddefnyddio EVOLVE. Mae hefyd yn tywys cyfranogwyr trwy ychwanegu ymweliad i EVOLVE a’i gael wedi’i gymeradwyo’n gywir.

Lleoliad: Fel arfer yn eich ysgol/sefydliad

Amserau: 1.5 awr, wedi’i gyflwyno fel hyfforddiant HMS neu sesiwn cyfnos

Fformat: Wyneb yn wyneb neu ar-lein.   Yn yr ystafell ddosbarth

Beth i ddod gyda chi: Gliniadur

Mae’r cwrs ardystiedig undydd hwn yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer staff sy’n dymuno trefnu a mynd â grwpiau i sgïo neu eirafyrddio.  Argymhellir hyfforddiant adnewyddu bob 3 blynedd.   Cyflwynir y cwrs gan Snowsport Cymru ac NID yw ar gyfer arwain neu gyfarwyddo elfennau ymarferol sgïo neu eirafyrddio.

Mae’r cwrs yn galluogi arweinwyr i gynllunio a rheoli cymhlethdodau cwrs sgïo’n ddiogel ac yn effeithiol i gyflawni dysgu awyr agored o ansawdd uchel.

Rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 21 mlwydd oed i fynychu.

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Snowsport Cymru: Snowsport Cymru Wales | Corff Llywodraethu Chwaraeon Eira yng Nghymru (snowsportwales.com)

Mae’r cwrs undydd hwn ar gyfer yr holl ymarferwyr addysgu, staff cymorth neu wirfoddolwyr sy’n newydd i addysgu a dysgu yn yr awyr agored, ac sy’n dymuno datblygu eu sgiliau i addysgu’r cwricwlwm yn yr awyr agored.

Mae’r cwrs yn galluogi cyfranogwyr i ddeall yn llawn manteision addysgu yn yr awyr agored ac yn symleiddio beth yw dysgu yn yr awyr agored.   Mae cyfranogwyr yn cael gwell dealltwriaeth o ddadansoddi risg a sgiliau ymarferol yn yr awyr agored, gan gynnwys adnoddau, gemau a syniadau ac i helpu i ymgorffori dysgu yn yr awyr agored o fewn y cwricwlwm.

Gellir teilwra cyrsiau i gyd-fynd â’r cwricwlwm cynradd neu uwchradd.

Lleoliad: Fel arfer yn eich ysgol/sefydliad

Amserau: 4 awr, wedi’i gyflwyno fel hyfforddiant HMS neu ddwy sesiwn cyfnos

Fformat: Wyneb yn wyneb, yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored

Beth i ddod gyda chi: Offer awyr agored

Mae’r cwrs undydd hwn yn archwilio’r pecyn Cardiau Dysgu Awyr Agored, a ddatblygwyd gan y PCAAA i gefnogi cyflwyno’ch cwricwlwm.  Mae pedwar prif faes i’w harchwilio: teithio, cyfeiriannu, adeiladu tîm a dringo clogfeini, gan arwain at brofiadau dysgu awyr agored o ansawdd uchel.

Bydd y cwrs yn eich galluogi i brofi ystod o’r gweithgareddau’n uniongyrchol ac yn eich helpu i ddeall sut y gallwch eu defnyddio i gefnogi eich dysgwyr.  Mae’r cardiau’n hawdd eu defnyddio ac maent wedi’u hanelu at blant o’r Cyfnod Sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 3.   Gellir eu defnyddio fel sail ar gyfer datblygu cwricwlwm anturus awyr agored, gan arwain at wobrau a gydnabyddir yn genedlaethol fel Cynllun Gwobrau Llywio Cenedlaethol neu gynllun Gwobr Dug Caeredin.

Lleoliad: Canolfan Antur Awyr Agored Gilwern neu safle ysgol addas (gofynnwch)

Amserau: 9.00am – 3.30pm

Fformat: Wyneb yn wyneb, yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored

Beth i ddod gyda chi: Offer awyr agored a phecyn cinio

This post is also available in: English