Wind in the Willows
22 Awst 2025
18:00 (drysau yn agor am 17:00)
Castell y Fenni
Theatr Awyr Agored
Mae Mole yn ysu i ymchwilio’r byd mawr. Mae’r hen Badger swta yn mwynhau tawelwch. Ac mae Rat wrth ei fodd gyda phicnic a threulio amser mewn cychod.
Caiff eu bywydau delfrydol ar lan yr afon eu troi ar i waered pan mae Toad, wedi’i swyno gan sŵn injan a sgrech teiars yn llosgi, yn dilyn y diweddaraf yn ei restr hir o obsesiynau afradlon: car modur coch, cyflym.
Mae Illyria yn dathlu stori fytholwyrdd Kenneth Grahame o gyfeillgarwch, chwerthin, hiraeth am gartref a swyn antur. Dewch i’w mwynhau lle cafodd ei gosod, yn yr awyr agored.
Dewch â’ch cadair eich hun, picnic a dillad addas ar gyfer y tywydd. Gofynnir i chi nodi y bydd y sioe yn cael ei pherfformio hyd yn oed os yw’n bwrw glaw, os nad yw’r rheolwyr a’r actorion yn asesu bod y tywydd yn risg.
Hygyrch i gadair olwyn er y dylid nodi fod hwn yn safle hanesyddol felly mae’r tir yn anwastad iawn a bydd rhai ardaloedd eistedd yn fwy hygyrch na rhai eraill. Croeso i gŵn cymorth a chŵn ar dennyn sy’n ymddwyn yn dda.
Hyd y Perfformiad: 1 awr 40 munud (yn cynnwys egwyl 20 munud)
Archebwch eich tocynnau yma
This post is also available in: English