- Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed

Ymunwch â’r Hwyl yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed ar gyfer Diwrnod Chwarae Cenedlaethol
Yn galw ar bob teulu! Marciwch eich calendrau ar gyfer yr amser chwarae penigamp yng Nghanolfan hamdden Cil-y-coed ddydd Mercher 7fed Awst rhwng 11am a 3pm. Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol wedi cyrraedd, ac rydym yn dathlu hawl plant i chwarae wrth bwysleisio’i rôl hanfodol yn eu bywydau.
Does dim angen archebu lle, dewch draw i chwarae. Paratowch ar gyfer diwrnod llawn cyffro gydag amrywiaeth o weithgareddau cyffrous ar gyfer pob oedran a gallu, sy’n cynnwys:
- Sleid castell bownsio
- Wal ddringo
- Crefftau Byw yn y Gwyllt
- Adeiladu ffau
- Dinas Cardbord
- Gorsaf rhannau rhydd
- Tywod, dŵr a chwarae blêr
- Gorsafoedd crefft gan gynnwys crefft a ddewiswyd yn rhydd
- Stociau sbyngau gwlyb
- Gorsaf chwaraeon gydag amrywiaeth o offer
- Saethyddiaeth
- Trawstiau cydbwysedd gymnasteg
- Codi hwyl
- Llyfrgell yn y Caffi
- Chwarae meddal ac offer synhwyraidd yn y caffi
- Siop Gwneud Diodydd
- Teganau a gemau o’r gorffennol
- Gorsaf gwneud cerddoriaeth
- Disgo Tawel
Anogir teuluoedd i ddod â’u hoff fyrbrydau a mwynhau picnic hamddenol yng nghanol bwrlwm yr amser chwarae. Neges i’ch atgoffa fod chwarae blêr a dŵr ar yr agenda, felly gwisgwch yn addas ar gyfer hynny! Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ddillad budr – gadewch i’r hwyl fod yn wyllt a diofal.
Cofiwch fod rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn drwy’r amser!
This post is also available in: English