Little Explorer’s Club Nature Trail

Yr haf hwn, gadewch i’ch plant ddod yn ‘Archwilwyr Bach’ ar ddydd Gwener yn ystod gwyliau’r ysgol gyda sesiwn archwilio awr o hyd o amgylch Parc Gwledig Castell Cil-y-coed. RHAID archebu tocynnau ymlaen llaw (Nid oes angen i oedolion archebu).
Man cychwyn: Pont godi Castell Cil-y-coed
Ar y llwybr natur bydd hela pryfed, gweld adar a bywyd gwyllt, archwilio a sgwrs am fwyta pryfed.
Bydd pob plentyn yn cael gilet a het Clwb yr Archwilwyr Bach, a bag gydag offer archwilio (gellir dychwelyd y cyfan ar ddiwedd y sesiwn). Bydd pob plentyn yn derbyn taflen dicio wedi’i hargraffu ar gyfer pryfed, adar a bywyd gwyllt i gofnodi’r hyn maen nhw wedi’i weld ac iddyn nhw ei gymryd adref.
Ar ddiwedd pob sesiwn, bydd pob plentyn yn derbyn tystysgrif cyfranogiad personol ‘Haf o Hwyl Clwb yr Archwilwyr Bach’ a thaflen sticer pryfed 3D i’w chymryd adref fel atgofion.
Dyddiadau ac Amseroedd
Bydd sesiynau wedi’u cynllunio’n rhedeg ar ddydd Gwener am 11am (yn ystod gwyliau’r ysgol), os yw’r sesiwn 11am wedi’i archebu’n llawn efallai y byddwn yn ychwanegu slotiau ychwanegol.
Gall y dyddiadau sydd ar gael newid.
Telerau ac amodau
- Ar gyfer oedrannau 3 – 7
- Gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd
- Mae angen un oedolyn ar gyfer pob dau blentyn (nid oes angen i oedolion archebu)
- Bydd y daith gerdded yn cael ei goruchwylio gan un gwirfoddolwr o Gastell Cil-y-Coed.
- Uchafswm maint grŵp o 10 o blant
- Rhaid archebu ymlaen llaw
Cliciwch YMA i archebu.
This post is also available in: