HMS Pinafore - Monlife
Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiad

HMS Pinafore

Awst 6 @ 7:00 pm - 9:30 pm

SGWELER PRISIAU ...

HMS Pinafore

6 Awst 2025

19:00 (drysau yn agor am 18:00)

Castell y Fenni

Theatr Awyr Agored

 

Wedi’i gosod ar long ryfel HMS Pinafore, mae’r opera hon yn gwatwar sefydliadau Prydeinig Mawr tebyg i ddosbarth, gwladgarwch a’r Llynges Frenhinol.

Mae Josephine, merch y capten mewn cariad gyda Ralph, morwr cyffredin; ond mae ei thad eisiau iddi briodi Syr Joseph Proter, Prif Arglwydd y Morlys. Caiff y cwpl eu dal wrth iddynt ffoi o’r llong i briodi a chaiff Ralph ei gloi yn nwnsiwn y llong.

Dim ond ar ôl i Buttercup, gwerthwr yn y doc, ddatgelu rhai pethau y gall pawb briodi eu gwir gariadon. Mae’r opera ddigri hon yn cael y driniaeth Illyria gyflawn, a chaiff ei pherfformio gan gast llai ar set forwrol hardd.

Dewch â’ch cadair eich hun, picnic a dillad addas ar gyfer y tywydd. Gofynnir i chi nodi y bydd y sioe yn cael ei pherfformio hyd yn oed os yw’n bwrw glaw, os nad yw’r rheolwyr a’r actorion yn asesu bod y tywydd yn risg.

Hygyrch i gadair olwyn er y dlid nodi fod hwn yn safle hanesyddol felly mae’r tir yn anwastad iawn a bydd rhai ardaloedd eistedd yn fwy hygyrch na rhai eraill. Croeso i gŵn cymorth a chŵn ar dennyn sy’n ymddwyn yn dda.

Hyd y perfformiad: 2 awr (yn cynnwys egwyl 20 munud)

Archebwch eich tocynnau yma

 

This post is also available in: English

Manylion

Dyddiad:
Awst 6
Amser:
7:00 pm - 9:30 pm
Pris:
SGWELER PRISIAU ...
Categori Digwyddiad:
Gwefan:
https://abergavenny.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/873654574

Trefnydd

MonLife
Phone
01633 644800
Email
-

Lleoliad

Castell ac Amgueddfa’r Fenni
Stryd y Castell
Y Fenni, Sir Fynwy NP7 5EE United Kingdom
+ Google Map
Phone
01873 854282
Ewch i wefan y lleoliad