Buddsoddi yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed i wella iechyd a llesiant
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo buddsoddiad newydd yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed, i gefnogi cyfleusterau gwell a ffyrdd iachach o fyw yn ne’r sir.
Cymeradwywyd y buddsoddiad yng nghyfarfod llawn y cyngor, ddydd Iau, 25 Mehefin 2026. Bydd y gwaith yn cynnwys adnewyddu ac ail-gyflunio’r ystafell ffitrwydd ar y llawr cyntaf, i greu man modern, hygyrch a chroesawgar i drigolion.
Bydd y cynllun gwerth £601,429 yn trawsnewid y gampfa bresennol drwy amnewid offer sydd wedi gweld dyddiau gwell, gwella’r cynllun a’r capasiti, a phrofiad y cwsmer yn gyffredinol.
Ar ôl ei huwchraddio, bydd y ganolfan yn cynnwys ystafell ffitrwydd newydd â 40 man ymarfer, stiwdios a mannau gweithgareddau wedi’u huwchraddio, ac i wella hygyrchedd mi fydd offer cynhwysol, toiledau, goleuadau a lloriau newydd.
Mae’r buddsoddiad hwn yn ymateb i’r adborth a gafwyd gan ddefnyddwyr, ac mae’n cydnabod yr angen i foderneiddio cyfleusterau a welodd ychydig iawn o uwchraddio dros amser. Mae Canolfan Hamdden Cil-y-coed yn ased cymunedol allweddol, sy’n cefnogi pobl i gadw’n actif, gwella llesiant a lleihau ynysu cymdeithasol.
Mae’r prosiect yn adeiladu ar ystod o welliannau diweddar ar y safle, gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd newydd, cae 3G newydd, uwchraddio’r stiwdio sbin, a gwelliannau i’r fynedfa a’r dderbynfa.
Mae’r prosiect yn rhan o raglen fuddsoddi ehangach ledled Cil-y-coed. Mae’n cynnwys cynigion ar gyfer parc sglefrio newydd, gwelliannau i’r system adfer dŵr, creu llwybr aml-ddefnydd drwy’r parc gwledig, a chynlluniau sydd ar y gorwel i wella canol trefi. Mae hyn yn gysylltiedig â’r cynllun creu lleoedd, sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad diweddar i’r cyngor, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Cil-y-coed.
Gyda’i gilydd, mae’r datblygiadau hyn yn dangos ymrwymiad hirdymor y cyngor i gryfhau cyfleusterau lleol, creu mannau croesawgar, a chefnogi cymunedau iachach, mwy egnïol.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles , Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’r buddsoddiad hwn yn gam pwysig i wella cyfleusterau i drigolion Cil-y-coed a’r ardal gyfagos. Wrth foderneiddio’r ganolfan hamdden a pharhau i fuddsoddi ar draws y dref, rydym yn creu mannau cynhwysol, hygyrch sy’n cefnogi pobl i gadw’n actif, teimlo bod ganddynt gysylltiad, a gwella eu llesiant.
“Mae’r gwelliannau hyn yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i gryfhau cymunedau a sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau i fod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”
This post is also available in: