Arddangosfa newydd yn dal harddwch Afon Gwy – Monlife

Arddangosfa newydd yn dal harddwch Afon Gwy

Mae arddangosfa newydd sy’n olrhain rhythmau a nawsau newidiol Afon Gwy, o’i tharddiad ym Mhumlumon i’r man lle mae’n cwrdd â’r Hafren yng Nghas-gwent, newydd agor yn Amgueddfa Cas-gwent.

Mae Llif – Afon Gwy o’i Tharddle i’r Môr yn arddangosfa bwysig newydd gan yr artist o Gymru, Lucy Burden.

Roedd cyfle preifat i weld yr arddangosfa ar 19 Chwefror, ac fe fu gwesteion yn mwynhau noson o sgyrsiau bywiog a meddylgar wedi’u sbarduno gan dirweddau atgofus Burden.

Mae gwaith Burden yn cysylltu ag Oriel Taith Gwy yr Amgueddfa, ac yn gwahodd ymwelwyr i ystyried sut mae canrifoedd o artistiaid wedi ymateb i olygfeydd dramatig Gwy. Mae ffilm fer gan Steve Bennett, a grëwyd yn ystod digwyddiadau dathlu 50 mlynedd Llwybr Dyffryn Gwy dan arweiniad Ruth Waycott, yn cyd-fynd â’r arddangosfa.

Roedd Cynghorydd Sir Fynwy, Peter Strong yn y digwyddiad. Meddai: “Mae ymwelwyr wedi bod yn teithio i’r dyffryn hwn ers canrifoedd, gan chwilio am dro hardd yn yr afon neu glogwyn dramatig sydyn. Mae paentiadau Lucy yn cario’r llinach honno ymlaen – nid i ailadrodd, ond fel darlleniad modern.”

Datblygwyd yr arddangosfa gyda chefnogaeth gan Dyffryn Gwy Tirwedd Cenedlaethol, Partneriaeth Llwybr Dyffryn Gwy, ac Amgueddfeydd Sir Fynwy. Ar ôl Cas-gwent, bydd Llif / Flow yn teithio i The Pavilion, Castle Grounds, Henffordd gyda gwaith ychwanegol i ehangu’r gyfres.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cynghorydd Sara Burch: “Mae Dyffryn Gwy wedi bod yn denu twristiaid ac artistiaid i’n rhanbarth ers blynyddoedd.

“Buaswn i’n annog pawb sy’n gallu ymweld â’r arddangosfa hon i weld harddwch Gwy wedi’i chrisialu mewn ffordd odidog.

“Mae’r arddangosfa yn rheswm gwych arall i ymweld ag Amgueddfa Cas-gwent, y dref yn ei chyfanrwydd a Sir Fynwy ei hun.

“Trwy ein Strategaeth Ddiwylliannol rydyn ni’n awyddus i gynnig mwy o gyfleoedd i artistiaid arddangos, gan ddod â gwaith newydd, cyffrous i Sir Fynwy.”

Bydd Llif / Flow i’w gweld yn Amgueddfa Cas-gwent hyd nes 9 Mehefin.

This post is also available in: English