Tîm Amgueddfa Neuadd y Sir i ymuno â Gŵyl Straeon Trefynwy
Mae tîm Amgueddfa Neuadd y Sir yn edrych ymlaen at gwrdd â thrigolion ac ymwelwyr yng Ngŵyl Straeon Trefynwy yr hydref hwn, a hynny’n rhan o’i ddigwyddiad cyntaf i ymgysylltu â’r gymuned cyn i’r amgueddfa ailagor.
Lleoliad y tîm fydd y babell celf a chrefft yng Gerddi’r Priordy, Eglwys y Santes Fair, Trefynwy yn ystod y digwyddiad sy’n cael ei gynnal ar 3 Hydref. Y thema yw ‘Gather Round’.
Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i greu naratif byr, dylunio llongau ysbrydion lliwgar, a dod â’r Is-lyngesydd Nelson yn fyw drwy wisgoedd ffansi a chyfleoedd i dynnu lluniau.

Am 4pm, bydd y cyfranogwyr hefyd yn cael eu gwahodd i ddarllen eu darnau ysgrifenedig creadigol yn y Babell Adrodd Straeon.
Bydd y llongau ysbrydion a’r straeon ysgrifenedig a grëwyd yn ystod y dydd yn dod yn rhan o Lwybr Iasol Nelson, sy’n cael ei gynnal yn ystod hanner tymor mis Hydref. Bydd y llwybr ar gael o Lyfrgell Trefynwy o 23 Hydref, a bydd cyfle i ymwelwyr ddilyn anturiaethau iasol Nelson drwy’r dref.
Gobaith yr amgueddfa yw y bydd y digwyddiad yn nodi dechrau perthynas ffrwythlon â Gŵyl Straeon Trefynwy.
Mae gweithgareddau Amgueddfa Neuadd y Sir yn yr ŵyl yn rhan o Brosiect Amgueddfa Neuadd y Sir, a wireddwyd diolch i gyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Rhaglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru, Sefydliad Wolfson, a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Gŵyl Straeon Trefynwy – Gŵyl yn Nhrefynwy, Trefynwy Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “”Mae’r Ŵyl Straeon yn gyfle gwych i bobl gwrdd â’r tîm o Amgueddfa newydd Neuadd y Sir, cael cyfle i fod yn greadigol, a mynd ati i ddathlu a rhannu treftadaeth leol trwy weithgareddau adrodd straeon a chelf.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i drefnwyr yr ŵyl am ein gwahodd i fod yn rhan o’r diwrnod, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y berthynas hon yn y dyfodol.”
This post is also available in: