Pont a Dolenni Teithio Llesol Trefynwy Gwy
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio ar gynllun strategol i wella darpariaeth teithio llesol rhwng Trefynwy a Wyesham. Mae ffocws y cynllun ar ddarparu pont gerdded a seiclo newydd i fyny’r afon o Bont Gwy rhwng Trefynwy a Wyesham, gyda llwybrau ymlaen i ganol y ddwy gymuned. Bydd y bont newydd yn rhoi prif lwybr i ganol tref Trefynwy a’r ysgol uwchradd ar gyfer preswylwyr Wyesham ac ar draws campws Ysgol Trefynwy, wedi’i rannu rhwng dwy ochr yr afon.
Pa newid ydyn ni’n disgwyl ei weld?
- Gwella cysylltedd a hygyrchedd ar gyfer tripiau teithio llesol yn a rhwng Trefynwy a Wyesham
- Gwell lefelau gwirioneddol a thybiedig o ddiogelwch personol wrth gerdded a seiclo
- Hyrwyddo teithio cynaliadwy fel bod yn ddeniadol a diogel yn Nhrefynwy a Wyesham.
Problemau a ddynodwyd ar gyfer teithio llesol rhwng Trefynwy a Wyesham
Mae Pont Gwy hanesyddol Trefynwy yn ddolen hanfodol rhwng Wyesham, Fforest y Ddena a Dyffryn Gwy, a Threfynwy a’r A40, dolen ffordd strategol rhwng De Cymru a Chanolbarth Lloegr. Mae’r ffyrdd sy’n bwydo traffig ar draws y bont yn cario cerbydau trwm a llawer o draffig, gan mai dyma’r prif groesiad afon am sawl milltir yn y ddau gyfeiriad. Mae hyn yn effeithio ar lwybrau y naill ochr a’r llall o’r bont, Pont Teithio Llesol Mynwy Gwy, Hen Heol Dixton a Wyesham Links.
Mae cymuned Wyesham yn dioddef o fynediad cyfyngedig ac anodd i’r ysgol uwchradd, siopau a gwasanaethau yn Nhrefynwy oherwydd bod y seilwaith presennol o amgylch yr A40 ac Afon Gwy wedi ei gwahanu yn ymarferol. Mae preswylwyr Trefynwy, Wyesham a Fforest y Ddena yn defnyddio’r bont yn ddyddiol i deithio i’r gwaith neu’r ysgol ar ddwy ochr yr afon. Mae’n rhaid i dripiau lleol gan gerbydau ddefnyddio system un-ffordd gylchol, mewn rhwydwaith sy’n agored i dagfeydd, ond nid yw’r bont hanesyddol yn rhoi llwybr diogel na dymunol ar gyfer tripiau byr heb gar, yn arbennig ar gyfer y rhai sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd neu’n cerdded gyda chadeiriau gwthio neu blant bach. Ni chaniateir seiclo ar y droedffordd, ond nid oes unrhyw ddarpariaeth i seiclwr symud rhwng y llwybr tanffordd a’r ffordd lle mae angen.
Mae Pont Gwy yn Nhrefynwy yn adeilad gyda rhestriad Gradd II, a ddiogelir am ei harwyddocâd hanesyddol a phensaernïol. Canfu asesiad o’r bont ffordd ei bod yn anaddas fel llwybr teithio llesol. Mae’r palmant yn gul ac mae cerbydau nwyddau trwm yn aml yn mynd ar y palmant oherwydd y ffordd gerbydau gul, ac ni ellir newid ei strwythur oherwydd ei statws treftadaeth.
Nod y cynllun llawn yw:
- Adeiladu pont un rhychwant 3.8m o led ar gyfer cerdded a seiclo i fyny’r afon i’r Bont Gwy bresennol gyda goleuadau lefel isel
- Darparu llwybrau cyswllt yn Wyesham a Hen Heol Dixton ar y naill ochr a’r llall i’r bont teithio llesol
- Darparu dolen gerdded gydlynol, uniongyrchol, diogel, cysurus a deniadol rhwng Wyesham a Threfynwy
- Cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch gwirioneddol a thybiedig cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn ar hyd ac ar draws ardal yr astudiaeth
- Budd net i ecoleg
Pont Teithio Llesol Mynwy Gwy
Cafodd pont ar wahân ar gyfer cerddwyr a seiclwyr dros yr Afon Gwy yn Nhrefynwy ei chynnig yn wreiddiol fel llwybr hamdden. Yn dilyn Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a chydnabyddiaeth o swyddogaeth y croesiad hwn ar gyfer teithiau teithio llesol yn ogystal ag ar gyfer hamdden, cafodd y syniad ei ddatblygu dan weithgor ‘Grŵp y Bont’ Grŵp Teithio Llesol Cyngor Tref Trefynwy, gyda rhanddeiliaid yn cynnwys Cyngor Sir Fynwy, Ysgol Bechgyn Trefynwy, Ysgol Gyfun Trefynwy, ysgolion cynradd lleol, clybiau rhwyfo, seiclo a cherdded lleol a Sustrans.
Cynhaliwyd astudiaeth WELtag yn 2019 i ymchwilio’r problemau cyfredol a chanfod datrysiadau posibl. Awgrymodd yr adroddiad nifer o opsiynau yn cynnwys lledu’r palmant presennol, ychwanegu troedffordd gantilifrog i’r bont bresennol yn ogystal â phont gerdded a seiclo newydd. Dewiswyd yr opsiwn o adeiladu pont gerdded a seiclo ar wahân i fyny’r afon i’r Bont Gwy hanesyddol fel y dewis gorau i fynd ymlaen ag ef yn seiliedig ar roi sgôr i effaith gadarnhaol bosibl y cynnig ar deithio llesol a’r rhwydwaith trafnidiaeth lleol, effaith negyddol isel yn ystod y gwaith adeiladu ac ar y bont dreftadaeth gyfagos, gwerth am arian a’r gallu i gyflawni.
Datblygu cynllun pont
Rhwng 2020 a 2024, yn dilyn astudiaeth WelTAG, defnyddiodd Cyngor Sir Fynwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i ddatblygu dyluniad y bont a llwybrau cyswllt y naill ochr a’r llall i’r afon, ynghyd â’r caniatâd cynllunio angenrheidiol, astudiaethau a chaniatâd ecolegol ac arolygon tir yn ogystal â datblygu cynlluniau Wyesham Links a Hen Heol Dixton sy’n ffurfio’r cysylltiadau ar ymlaen y naill ochr a’r llall i’r bont arfaethedig. Mae cyllid cyfyngedig a phroblemau tir wedi golygu y bu’r cynnydd yn arafach nag a ddymunid. Cafodd Pont Teithio Llesol Gwy ganiatâd cynllunio gydag amodau ddechrau 2014. Gellir gweld fideo o’r bont arfaethedig yma:
Defnyddiodd Cyngor Sir Fynwy gyllid craidd y Gronfa Teithio Llesol i gynnal cynnydd ar y cynllun yn 2024-25. Roedd hyn yn cynnwys arolygon ecoleg a monitro, negodi tir, gwiriadau categori II (archwiliad annibynnol o’r dyluniad), ymgyfraniad cynnar gan gontractwyr a dyluniad manwl o’r gwaith a gwaith i baratoi’r safle, tebyg i lwybrau mynediad a symud cyfleustodau. Cafodd y cynllun ei gynnwys yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel un o gynlluniau Teithio Llesol strategol Sir Fynwy.
Wyesham Links
Amcanion cynllun Wyesham Links
- Darparu rhwydwaith cerdded a seiclo uniongyrchol, cydlynol, cysurus a diogel yn addas ar gyfer pob defnyddiwr
- Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i addysg, cyflogaeth, iechyd a gwasanaethau allweddol eraill
- Gwella diogelwch gwirioneddol a thybiedig defnyddwyr agored i niwed
- Cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded ac yn seiclo rhwng Wyesham a chanol tref Trefynwy
- Gostwng dibyniaeth a defnydd ceir ar gyfer tripiau byr rhwng Wyesham a chanol tref Trefynwy drwy newid dulliau teithio
- Gostwng effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig
Problemau a ddynodwyd yn Wyesham
- Lefel uchel o draffig, gyda chyfran sylweddol o gerbydau nwyddau trwm a thraffig cyflym, yn gysylltiedig â’r ffordd ddeuol a ffyrdd bwydo cyfagos a diffyg darpariaeth digonol ar gyfer defnyddio dulliau trafnidiaeth eraill ar gyfer tripiau lleol, byr
- Diffyg cyfleusterau croesi i gerddwyr a mannau gwasgu ar y droedffordd bresennol
- Cyffyrdd ochr llydan ac angen tynhau radiysau cyffyrdd i ostwng gwrthdaro gyda defnyddwyr ffordd agored i niwed
- Angen cyrbau isel a phalmentydd botynnog ar rai cyffyrdd ochr
- Diffyg arwyddion
Ymyriadau a gynigir – Wyesham Links
Arweiniodd cyfres o astudiaethau o ddefnydd llwybrau ac ymyriadau posibl yn ardal Wyesham ar ddatblygu cysyniad troedffordd i gerddwyr yn unig o gylchfan Mayhill hyd at gyffordd Wyesham Road a Wyesham Avenue, gyda darpariaeth seiclo i fod ar y ffordd yn defnyddio egwyddor Strydoedd Tawel, yna, o gyffordd Wyesham Avenue a Wyesham Road i Ysgol Gynradd Kymin View, cyfleuster rhannu defnydd yn defnyddio’r droedfordd lydan sy’n bosibl ar hyd yr adran hon.
Llun: Cynllun cysyniad dyluniad ar gyfer cynllun Wyesham Links
Cynllun Hen Heol Dixton
Amcanion cynllun Hen Heol Dixton
Bydd y llwybr teithio llesol arfaethedig yn rhedeg o Lyfrgell Trefynwy ar hyd yr A466 i lle mae’n ymuno â Hen Heol Dixton, i’r dwyrain ar hyd Hen Heol Dixton am tua 250m ac wedyn yn mynd drwy’r danffordd dan yr A40 i Glwb Rhwyfo Trefynwy lle bydd yn ymuno â llwybr presennol sy’n rhedeg i’r gogledd ddwyrain ar hyd yr afon.
- Cynyddu nifer teithwyr llesol yn Nhrefynwy drwy wneud y llwybr ar hyd Hen Heol Dixton ac o lannau’r Afon Gwy yn fwy addas a deniadol i gerddwyr a seiclwyr
- Gwelliannau ar gyffyrdd a mannau croesi allweddol
- Sicrhau gwelliannau amgylcheddol i’r ardal drwy annog newid dulliau teithio o geir i ddulliau llesol, gan ostwng cerbydau segur, gwella llif traffig a seilwaith i wneud y llwybr yn fwy deniadol a gostwng traffig ceir
Problemau a ddynodwyd yn Hen Heol Dixton/o amgylch Ysgol Gyfun Trefynwy
Mae seilwaith ffyrdd hanesyddol a phrysur a throedffyrdd cul yn creu llwybr anneniadol ac anghydlynus ar gyfer teithio llesol. Cafodd gwelliannau eu gwneud i’r ardal gydag adeiladu ysgol a chanolfan hamdden newydd, ond mae darpariaeth troedffordd wael a lled cyfyngedig ger tafarn y Nags Head yn dal i greu problemau ar gyfer teithio llesol ar hyd y llwybr.
Ymyriadau arfaethedig – Hen Heol Dixton
Mae’r cynllun yn cynnig gwelliannau graddfa fach i ddarpariaeth teithio llesol ar hyd Hen Heol Dixton o Lyfrgell a Hyb Trefynwy i danffordd yr Afon Gwy, er mwyn cynnal a chynyddu lefelau cerdded a seiclo i’r ysgol gyfun, y ganolfan hamdden, busnesau a chyfleusterau cymunedol eraill a gaiff eu gwasanaethu gan y llwybr.
I gael mwy o wybodaeth ar waith Cyngor Sir Fynwy yn Nhrefynwy, gweler Trefynwy – Monlife