Croeso i Dreftadaeth MonLife
Mae Amgueddfeydd Y Fenni a Chas-gwent ar agor bob dydd 11-4 (ac eithrio dydd Mercher). Mae tiroedd Castell Y Fenni ar agor bob dydd 11-4. Mae Amgueddfa Trefynwy yn parhau ar gau tra ein bod yn symud i’r Neuadd Sir.
Am fanylion yr hyn sydd yn cael ei gynnal dros hanner tymor, ewch i https://www.monlifeholidayactivities.co.uk/monlife-learning/
Am fanylion ein arddangosfa ddiweddfaraf, ewch

Sut y gallwn gynnwys pobl ifanc yn Amgueddfeydd Sir Fynwy yn well?
Dyma’r cwestiwn rydym yn gobeithio dod o hyd i’r ateb iddo! Rydym yn bedwar o bobl ifanc o’r ardal sy’n gweithio ar ffyrdd o wella’r gwasanaeth amgueddfeydd i bobl ifanc fel ni. Gan weithio gyda Threftadaeth MonLife a Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, mae’r pedwar ohonom yn ymgynghori ag amgueddfeydd a phobl ifanc yn yr ardal ar gyfer y prosiect hwn; ymweld â safleoedd treftadaeth i asesu’r gwasanaeth amgueddfeydd presennol; a siarad ag amrywiaeth o bobl ifanc wyneb yn wyneb ac ar-lein i weithio allan y ffordd orau o ddatblygu ein hamgueddfeydd. Mae gennym hefyd arolwg ar-lein i sicrhau y gall pawb fod yn rhan o’r gwaith o wella ein hamgueddfeydd.
Ein nod yw sicrhau gwasanaeth amgueddfeydd sy’n gwasanaethu pobl ifanc yn well, ac sy’n annog y genhedlaeth nesaf i ymgysylltu â’r sector treftadaeth a hanes eu cymuned. Bydd y prosiect hwn hefyd yn darparu sylfaen i’r sector treftadaeth adeiladu arno, gan lywio’r ffyrdd rydym yn datblygu’r gwasanaeth amgueddfeydd i’r dyfodol.
Os hoffech gael dweud eich dweud yn nyfodol ein hamgueddfeydd, cwblhewch ein holiadur gan ddefnyddio’r ddolen isod. Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio ar y prosiect hwn gyda chi!
Arolwg Pobl Ifanc Treftadaeth MonLife https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSedkhtL4D9JSA4LRUsu0wY6DUegipGs0tXFpYtQRGBc_lFrkQ/viewform

Croeso i’r Neuadd Sirol. Adeilad hanesyddol sylweddol yng nghanol Trefynwy, De Cymru.

Mwynhewch yr hanes a theithiau cerdded drwy’r parc a lluniaeth yn yr ystafell de.

Mae Amgueddfa’r Fenni yn cynnwys nifer o arteffactau, arddangosfeydd parhaol a rhai dros dro...

Mae Amgueddfa Cas-gwent yn datgelu gorffennol cyfoethog ac amrywiol y dref hynafol hon, a fu unwaith yn ganolfan bwysig fel porth a marchnad.

Ganwyd Horatio Nelson yn Norfolk, bu farw ar y môr ac mae wedi ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol St. Paul’s - ond mae Trefynwy yn gartref i...