Free Summer Activities - Monlife

Gweithgareddau Am Ddim yn BywydMynwy

Mae MonLife yn hapus iawn i gyflwyno ystod gyffrous o weithgareddau Gwyliau’r AM DDIM a fydd yn diddanu’r teulu cyfan, gan greu atgofion bythgofiadwy i chi sy’n yn llawn hwyl a chwerthin.


Nofio Am Ddim

Mwynhewch nofio am ddim yn eich canolfan Hamdden Egnïol MonLife leol yn ystod yr amseroedd canlynol:

  • Canolfan Hamdden Cas-gwent: Dydd Gwener o 6:00pm
  • Canolfan Hamdden y Fenni: Dydd Sul rhwng 10.30 – 11.30am
  • Canolfan Hamdden Trefynwy: Dydd Sul rhwng 10.30 – 11.30am
  • Canolfan Hamdden Cil-y-coed: Dydd Sadwrn rhwng 11.30am – 12.45pm

Lleoedd Llawn Chwarae

Mae safleoedd treftadaeth MonLife wedi creu lleoedd llawn chwarae i blant chwarae’n rhydd, wedi’u hamgylchynu gan hanes.

Dewch i chwarae yn y llys yn Neuadd y Sir. Chwarae rôl yng Nghastell Cil-y-coed ac Amgueddfa’r Fenni neu chwarae gemau yn Old Station Tyndyrn.

Dysgwch fwy am ein Safleoedd Treftadaeth isod.


This post is also available in: English