Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiad

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio

Gweithdai Gitâr Blwch Sigâr gyda Howlin’ Mat

Tachwedd 9, 2024 @ 1:00 pm - 3:00 pm

Gweithdai Gitâr Blwch Sigâr gyda Howlin’ Mat

Dydd Sadwrn 9 Tachwedd, 1 -3pm

  • 11 – 19 oed
  • Cynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau Melville, y Fenni
  • DDIM
Archebwch nawr

Ydych chi erioed wedi bod eisiau gwneud eich gitâr eich hun? Dyma’ch cyfle! Mae’r gweithdy hwn yn eich cyflwyno i’r Gitâr Blwch Sigâr ac yn eich llywio i wneud eich un chi eich hun.

Cynhelir y gweithdai gan y meistr ar y gitâr blŵs Howlin’ Matt, artist blŵs solo crwydrol sydd wedi chwarae 1000oedd o gigs o’r Sahara i Begwn y Gogledd. Canmolwyd ei chwarae gan artistiaid byd-enwog fel John Paul Jones [Led Zeppelin] a Mud Morganfield [mab Muddy Waters].

Cafodd ei gyflwyno i’r Gitâr Blwch Sigâr yn gynnar iawn yn ei yrfa chwarae a syrthiodd mewn cariad ar unwaith. Fel gydag eraill o’r un anian, nid oedd fawr o dro cyn iddo ddechrau gwneud ei gitâr blwch sigâr ei hun a gan ddod o gefndir fel athro, mae’n naturiol i hyn ei arwain at y gweithdai yma.

Mae mwy o fanylion am Mat ar gael yn www.cigarboxsocial.com

This post is also available in: English

Manylion

Trefnydd

  • MonLife
  • Phone 01633 644800
  • Email -

Lleoliad