Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiad

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio

CELF  SBAEN a Drill Hall, Cas-gwent

Chwefror 19, 2024 @ 2:00 pm - 4:00 pm

Ymunwch â chwrs hanes celf newydd cyffrous Amgueddfeydd Treftadaeth Mynwy.

Gall Sbaen frolio rhai o’r enwau mwyaf yn hanes celf: Velasquez, Picasso, El Greco, Goya … ac eto ychydig iawn o’i chelfyddyd sy’n hysbys y tu allan i’r wlad. Archwiliwch Gelfyddyd Sbaen o’r canol oesoedd i’r 20fed ganrif gyda’n darlithydd poblogaidd o Sir Fynwy, Eleanor Bird.

Darlithoedd 2 awr, 10 sesiwn

Mae modd mynychu’r sesiwn ar Ddydd Llun 2-4pm yn Drill Hall Cas-gwent,

Yn dechrau ar ddydd Llun, 15fed Ionawr, (egwyl ar 12fed Chwefror ac yn gorffen ar 25ain Mawrth)

Cofrestrwch: www.visitmonmouthshire.com/arthistory

NEU

Ar-lein trwy Zoom ar fore Mercher 10.30am – 12.30pm,

Yn dechrau ar ddydd Mercher 17eg Ionawr(egwyl ar 14eg Chwefror ac yn gorffen ar 27ain Mawrth)  www.visitmonmouthshire.com/arthistory

Ffi am y cwrs yn cael ei gadw ar £100

(yr opsiwn i ddal i fyny ar unrhyw sesiynau a gollwyd gyda darlithoedd ar-lein wedi’u recordio ar gael am gyfnod cyfyngedig)

Mae’r gyfres hon o ddeg darlith yn mynd â ni drwy Gelf Sbaen o ddiwedd y cyfnod canoloesol i ddechrau’r 20fed ganrif, gan ddechrau gyda dylanwad cynllun Islamaidd o’r de Mwslemaidd ar gelf yn nheyrnasoedd Cristnogol gogleddol yn yr hyn sydd bellach yn Sbaen. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r naratifau dramatig a phortreadau pwerus o Oes Aur Sbaen yn yr 17eg Ganrif; Celf Goya gyda’i delweddau cyferbyniol o freindal ac ochr dywyllach rhyfel ac ofergoeliaeth, a’r dylanwad a gafodd Modernwyr Sbaen ar bob agwedd ar baentio yn yr 20fed ganrif.

Delweddau: Diego Velasquez, Las Meninas, manylion, 1656 (Prado),

This post is also available in: English

Manylion

Trefnydd

  • MonLife
  • Phone 01633 644800
  • Email -

Lleoliad