Chwarae Gweithredol- Mai 2026

Sesiynau Chwarae Gweithredol Hanner Tymor AM DDIM gyda MonLife!
Chwilio am ffyrdd cyffrous o gadw’ch rhai bach yn egnïol ac yn cael eu diddanu’r hanner tymor hwn? Peidiwch ag edrych ymhellach! Mae MonLife yn cynnig sesiynau Chwarae Gweithredol AM DDIM i blant 5–11 oed ledled Sir Fynwy.
Mae pob sesiwn llawn hwyl yn para 1 awr a 55 munud (neu ychydig yn fyrrach mewn lleoliadau dethol), lle bydd plant yn mwynhau dewis eang o weithgareddau yn amrywio o chwarae corfforol egnïol i gelfyddydau a chrefftau creadigol.
Dyddiadau a Lleoliadau’r Sesiynau:
Canolfan Hamdden Trefynwy – Dydd Mawrth 26 Mai, 10:00am – 11:55am
Canolfan Hamdden Cas-gwent – Dydd Mawrth 26 Mai, 9:30am – 11:25am
Canolfan Addysg Awyr Agored Gilwern – Dydd Mawrth 26 Mai, 1:00pm – 2:55pm
Ysgol Gynradd Thornwell – Dydd Mercher 27 Mai, 1:00pm – 2:55pm
Canolfan Hamdden Cil-y-coed – Dydd Iau 28 Mai, 10:00am – 11:55am
🏊♀️ Bonws! Mae gweithgareddau nofio dewisol ar gael yn ein canolfannau hamdden – dewch â thywel a dillad nofio!
📋Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly peidiwch â cholli allan! Archebwch drwy ein ddolen isod. Noder bod y ffi ‘O £1 y sesiwn’ a ddangosir ar y wefan archebu yn osodiad system diofyn ac nid yw’n berthnasol i’r gweithgaredd hwn. Ni chodir tâl arnoch. Mae hwn yn Weithgaredd AM DDIM.
This post is also available in: