Youth-led Museum Placement Opportunities - Monlife

Youth-led Museum Placement Opportunities

Ydych chi rhwng 18 a 25 oed?

Rydym yn edrych am bobl frwdfrydig i’n helpu i wella’r ffordd yr ydym yn cynnwys pobl ifanc wrth lunio amgueddfeydd yn Sir Fynwy.

Fel rhan o gynllun Gaeaf llawn Lles Llywodraeth Cymru, rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau a gaiff eu harwain gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, rydym yn edrych am ddau person 18-25 oed ar gyfer prosiect cyfnod cyfyngedig i gyfrannu at wella’r ffordd yr ydym yn cynnwys pobl ifanc wrth lunio amgueddfeydd yn Sir Fynwy.

Bydd y lleoliadau hyn yn cael eu talu, ar gyfradd o (£100/diwrnod), a gyllidir yn uniongyrchol gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru (nid Cyngor Sir Fynwy). Cynhelir y lleoliadau hyn rhwng 9 a 31 Mawrth 2022.

Rhagwelwn y bydd pob lleoliad yn 9 diwrnod i gyd, wedi’u lledaenu dros y cyfnod hwn (er y byddem yn ystyried llai o ddyddiau os na all ymgeiswyr gyflawni i’r 9 diwrnod llawn). Bydd y lleoliadau yn gweithio’n agos gyda Gwneuthurydd Rhaglen Gaeaf llawn Lles o Ffederasiwn Amgueddfeydd yng Nghymru, fydd yn cydlynu’r prosiect gyda chefnogaeth gan amgueddfeydd Sir Fynwy.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda’r tîm i:

  • Ymgynghori gyda phobl ifanc, yn defnyddio dulliau fel gweithdai a thrafodaethau wyneb i wyneb
  • Casglu sylwadau a barn pobl ifanc yn Sir Fynwy am y ffyrdd gorau i ymgynghori gyda nhw
  • Casglu’r canfyddiadau i adroddiad fydd yn sail i gyflenwi rhaglenni amgueddfeydd yn Sir Fynwy a sut y byddwn yn ymgysylltu â phobl ifanc a’u cynnwys yn y broses yn y dyfodol
  • Ymweliadau safle posibl i adolygu cynnig presennol amgueddfeydd ar gyfer pobl ifanc.

Bydd y lleoliadau yn gyfle rhagorol i gael profiad uniongyrchol gyda MonLife Treftadaeth, Ffederasiwn Amgueddfeydd yng Nghymru ac Amgueddfa Cymru a datblygu sgiliau a phrofiad mewn ymgynghori gyda phobl ifanc.

Mae hyn yn ddechrau ymdrech tymor hirach i ddatblygu a gwella’r gwasanaeth amgueddfeydd ar gyfer pobl ifanc. Gobeithiwn y bydd y prosiect yn gosod sylfeini ar gyfer sefydlu Panel Ieuenctid, i fwydo’r ffordd yr ydym yn datblygu ac yn darparu ein gwasanaethau ar draws yr amgueddfeydd yn Sir Fynwy.

Manyleb Person

Rydym yn edrych am unigolion gyda’r sgiliau, profiad a diddordebau dilynol.

  • Diddordeb mewn gwella mynediad a gwasanaethau cynhwysol ar gyfer pobl ifanc (hanfodol)
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da – gallu addasu cynnwys ar gyfer gwahanol oedrannau (hanfodol)
  • Trefnus, gyda’r gallu i reoli eich llwyth gwaith a’ch amser eich hunan (hanfodol)
  • Cyfeillgar, agos atoch ac yn dangos cydymdeimlad (hanfodol)
  • Diddordeb mewn clywed a chynrychioli amrywiaeth o leisiau a barn pobl ifanc (hanfodol)
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm bach (dymunol)
  • Diddordeb mewn dulliau newydd a chreadigol i ennyn diddordeb pobl ifanc, yn cynnwys defnyddio technoleg a chyfryngau cymdeithasol (dymunol)
  • Profiad o hwyluso trafodaethau neu weithdai (wyneb i wyneb ac ar-lein) (dymunol)
  • Profiad o weithio gyda phobl ifanc a grwpiau ieuenctid (11-25 oed) (dymunol)
  • Profiad mewn gwerthuso, ymchwil gymdeithasol neu ymgynghori (dymunol)
  • Diddordeb yn y sector treftadaeth (dymunol)

Mae’r cyfle ar gael i unrhyw un rhwng 18 a 25 oed. Fodd bynnag, mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn clywed gan ymgeiswyr nad ydynt mewn cyflogaeth lawn-amser ar hyn o bryd ac sy’n dymuno ymchwilio gwahanol lwybrau gyrfa.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich CV (gydag enw dau ganolwr) atom ynghyd â datganiad diddordeb, dim mwy na 500 gair, ar sut ydych yn ateb prif gyfrifoldebau a disgwyliadau’r proffil rôl yma erbyn diwedd dydd Llun 7 Mawrth at rachaelrogers@monmouthshire.gov.uk .   Byddwn yn penodi i’r swydd cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl y dyddiad hwn a bydd cyfarfod cyflwyno yn ystod wythnos y 7 Mawrth

DS: Rhagwelwn y bydd 9 diwrnod o waith fesul person sy’n rhaid ei wneud rhwng 7 a 31 Mawrth. Mae rhai dyddiau penodol o weithio o fewn y cyfnod hwn, sef:

Dydd Mercher 9 Mawrth – dydd Gwener 11 Mawrth (cynhwysol) – dim dyddiau llawn

Gyda’r nos yn ystod yr wythnos yn cychwyn 14 Mawrth – I’w gadarnhau

Dydd Gwener 25 Mawrth

Dydd Mercher 30 NEU dydd Iau 31 Mawrth – i’w gadarnhau

Gadewch i ni wybod yn eich cais os gwelwch yn dda os nad ydych ar gael ar rai o’r dyddiadau hyn, neu os na allwch ymrwymo i’r 9 diwrnod llawn.

Gaeaf llawn Lles

Caiff y lleoliadau hyn eu hariannu drwy raglen Gaeaf llawn Lles Llywodraeth Cymru, cynllun ar draws Cymru i helpu plant a phobl ifanc i gael adferiad o’r pandemig a mynd i’r gwanwyn yn teimlo’n well, wedi cysylltu’n well gydag eraill ac yn barod am ddechrau newydd.

Dylid nodi nad yw Cyngor Sir Fynwy yn rhoi taliad am leoliadau. Fodd bynnag bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gymwys i dderbyn taliad dan y rhaglen Gaeaf llawn Lles. Bydd hyn yn gytundeb rhwng y lleoliadau a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru a chaiff unrhyw geisiadau ariannol eu gwneud ar ôl cwblhau’r gwaith rhwng y ddau barti ac NID Cyngor Sir Fynwy.

Cadwch lygad am weithgareddau Gaeaf llawn Lles eraill ledled Cymru a chael y diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd drwy Instagram (@bloedd_ac), Twitter (@AmgueddfaCymru), TikTok (amgueddfacymru) a Facebook (@amgueddfacymru). #winterofwellbeing #gaeafllawnlles

Are you 18 to 25 years old?

We are looking for enthusiastic people to help us improve the way we involve young people in shaping museums in Monmouthshire. 

As part of the Welsh Governments Winter of Wellbeing, a programme of youth-led events and activities for young people, we are looking for two 18 – 25 year olds for a limited time project to contribute to improving the way we involve young people in shaping museums in Monmouthshire.

These placements are paid, at a rate of (£100/day), funded directly by the Federation of Museums and Galleries of Wales (Not Monmouthshire County Council). They will take place between 9th and 31st March 2022.

We anticipate each placement being 9 days in total, spread over this period (though we will consider fewer days if applicants are unable to commit to the full 9 days). The placements will be working closely with a Winter of Wellbeing Programme Maker from the Federation of Museum in Wales, who will co-ordinate the project with support from Monmouthshire museums.

What will I be doing?

The role will involve working with the team to:

  • Consult with young people, using methods such as workshops and face to face discussions
  • Collect the thoughts and opinions of young people in Monmouthshire about the best ways to consult with them.
  • Compile the findings into a report which will inform future delivery of museum programmes in Monmouthshire and how we engage and include young people in the process.
  • Possible site visits to review Museum’s current offer for young people

The placements will be an excellent opportunity to gain experience directly with MonLife Heritage, The Federation of Museums in Wales and Amgueddfa Cymru- National Museums of Wales and develop skills and experience in youth consultation.

This is the start of a longer-term effort to develop and improve the museum service for young people.  We hope that the project will lay the groundwork for establishing a Youth Panel, to feed into the way we develop and deliver our service across the museums in Monmouthshire.

Person Specification

We are looking for individuals with the following, skills, experience, and interests.

  • An interest in improving access and inclusivity of services for young people (essential)
  • Good written and spoken communication skills- able to adapt content for different ages (essential)
  • Organised, with the ability to manage your own workload and time (essential)
  • Friendly, approachable, and empathetic (essential)
  • An interest in hearing and representing a diversity of voices and opinions of young people (essential)
  • Experience working as part of a small team (desirable)
  • An interest in new and creative approaches to engaging with young people, including use of tech and social media (desirable)
  • Experience facilitating discussions or workshops (face to face and online) (desirable)
  • Experience working with young people and youth groups (11-25) (desirable)
  • Experience in evaluation, social research or consultation (desirable)
  • An interest in the heritage sector (desirable)

This opportunity is open to anyone aged between 18 and 25 years.  However, we are particularly interested to hear from applicants who are not currently in full time paid employment and wish to explore different career paths.

How to apply

Please send us your CV (with names of two referees) and an expression of interest, maximum 500 words, on how you meet the main responsibilities and expectations of the role profile by end of Monday 7th March to rachaelrogers@monmouthshire.gov.uk .  We will appoint the roles as soon as possible after this date and there will be an introductory meeting during the week of  7th March.

NB: We anticipate there will be 9 days work per person which must be carried out between 7th and 31st March.  Within this period there are some fixed days of working, they are:

Wednesday 9th March – Friday 11th March (inclusive) – not full days

Some evenings during w/c 14th March – TBC

Friday 25th March

Wednesday 30th OR Thursday 31st March – TBC

If you are not available on some of these days, or not able to commit to the full 9 days, please let us know in your application. 

Winter of Wellbeing

These placements are funded through the Welsh Government’s Winter of Wellbeing programme, a cross-Wales bid to help children and young people recover from the pandemic and head into spring feeling better, more connected to others and ready for a new start.

Please note that Monmouthshire County Council does not provide payment for placements.  However the successful applicants are eligible to receive payment under the Winter of Wellbeing Programme.  This will be an agreement between the placements and the Federation of Museums and Galleries of Wales and any financial claims will be made on completion of the work between the two parties NOT Monmouthshire County Council.

Look out for other Winter of Wellbeing activities across Wales and stay up to date with the latest goings on via Instagram (@bloedd_ac), Twitter (@AmgueddfaCymru), TikTok (amgueddfacymru) and Facebook (@amgueddfacymru). #winterofwellbeing #gaeafllawnlles