{"id":37392,"date":"2026-08-07T13:40:08","date_gmt":"2026-08-07T12:40:08","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=37392"},"modified":"2026-08-07T13:41:02","modified_gmt":"2026-08-07T12:41:02","slug":"natur-wyllt-yn-dychwelyd-i-sir-fynwy-i-roi-hwb-i-fywyd-gwyllt","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/natur-wyllt-yn-dychwelyd-i-sir-fynwy-i-roi-hwb-i-fywyd-gwyllt\/","title":{"rendered":"Natur Wyllt yn dychwelyd i Sir Fynwy i roi hwb i fywyd gwyllt"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Cyngor Sir Fynwy yn dod&nbsp; \u00e2\u2019i ymgyrch&nbsp;<strong>Natur Wyllt&nbsp;<\/strong>yn \u00f4l&nbsp; yr haf hwn, ac yn annog agwedd fwy hamddenol at dorri\u2019r glaswellt er mwyn helpu bywyd gwyllt i ffynnu.<\/p>\n\n\n\n<p>Erbyn hyn mae\u2019r fenter ar ei chweched flwyddyn. Mae\u2019n cyd-fynd ag&nbsp;<strong>Wythnos Natur Cymru&nbsp;<\/strong>(4\u201312 Gorffennaf) ac yn canolbwyntio ar sut y gall torri glaswellt yn llai aml mewn ardaloedd penodol roi hwb i fioamrywiaeth ar draws y sir.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn hytrach na thorri ymylon, parciau a mannau agored yn rheolaidd, mae\u2019r Cyngor yn gadael rhai ardaloedd i dyfu trwy\u2019r gwanwyn a\u2019r haf. Mae hyn yn rhoi cyfle i flodau gwyllt flodeuo ac yn creu cynefinoedd hanfodol i wenyn, pili-palaod a phryfed eraill sy\u2019n peillio.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/07\/Rogiet-wildflowers.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/07\/Rogiet-wildflowers-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-221828\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Cafodd y dull ei dreialu gyntaf yn Nhrefynwy yn 2020 ac ers hynny mae wedi cael ei gyflwyno ar draws y sir. Sir Fynwy oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i adolygu rheolaeth glaswelltiroedd yn benodol er budd bioamrywiaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n dda i natur, ond mae hefyd yn harddu mannau gwyrdd a gall eich helpu i ddod yn agosach at natur a rhoi hwb i\u2019ch llesiant. Ewch am dro ar hyd un o\u2019r llwybrau sydd wedi\u2019u torri trwy ardal o dd\u00f4l a gallech fod yn cerdded ochr yn ochr \u00e2 bywyd gwyllt, gan gynnwys Sioncyn y Gwair a phili-palaod, gyda blodau gwyllt a gweiriau yn cynnig tirwedd gyfoethog.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/07\/Knapweed-White-Butterfly.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/07\/Knapweed-White-Butterfly-1024x683.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-221829\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Meddai\u2019r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a\u2019r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: \u201cMae Natur Wyllt yn golygu gwneud pethau ychydig yn wahanol er mwyn creu canlyniadau gwell i fywyd gwyllt. Trwy dorri glaswellt yn llai aml ac ar yr adegau iawn, gallwn helpu i adfer natur a chreu mannau sy\u2019n llawn lliw a bwrlwm.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cEfallai y bydd yr ardaloedd hyn yn edrych yn wahanol, ond maen nhw\u2019n chwarae rhan hanfodol \u2013 yn cefnogi pryfed sy\u2019n peillio, yn storio carbon ac yn helpu i reoli llifogydd. Mae\u2019n newid syml sy\u2019n gwneud gwahaniaeth mawr.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Yn \u00f4l y Cyngor mae\u2019r cynllun yn helpu i greu cynefinoedd cryfach, sydd wedi eu cysylltu\u2019n well, yn barod, ar draws Sir Fynwy, ac mae\u2019n rhan o waith ehangach i daclo\u2019r argyfwng hinsawdd a natur.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae trigolion hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan yn ystod Wythnos Natur Cymru trwy adael i rannau o\u2019u gerddi eu hunain dyfu, plannu blodau gwyllt neu greu cynefinoedd bach i fywyd gwyllt.<\/p>\n\n\n\n<p>Ewch i&nbsp;<a href=\"http:\/\/www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk\/natur-wyllt\">Natur Wyllt \u2013 Sir Fynwy<\/a>&nbsp;i gael gwybodaeth a chyngor am sut i annog mwy o fioamrywiaeth yn eich gardd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/07\/MCC_LTM_Nature-Isnt-Neat_Banner_CYM-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/07\/MCC_LTM_Nature-Isnt-Neat_Banner_CYM-1024x267.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-221836\"\/><\/a><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cyngor Sir Fynwy yn dod&nbsp; \u00e2\u2019i ymgyrch&nbsp;Natur Wyllt&nbsp;yn \u00f4l&nbsp; yr haf hwn, ac yn annog agwedd fwy hamddenol at dorri\u2019r glaswellt er mwyn helpu bywyd gwyllt i ffynnu. Erbyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":37391,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-37392","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37392","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=37392"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37392\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":37393,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37392\/revisions\/37393"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/37391"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=37392"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=37392"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=37392"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}