{"id":37202,"date":"2026-07-14T17:52:16","date_gmt":"2026-07-14T16:52:16","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=37202"},"modified":"2026-07-15T09:30:23","modified_gmt":"2026-07-15T08:30:23","slug":"statws-baner-werdd-i-atyniadau-sir-fynwy-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/statws-baner-werdd-i-atyniadau-sir-fynwy-2\/","title":{"rendered":"Statws Baner Werdd i Atyniadau Sir Fynwy"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o gyhoeddi bod nifer o\u2019i barciau, atyniadau a mannau gwyrdd cymunedol yn chwifio\u2019r Faner Werdd arobryn unwaith eto. Dyma\u2019r tro cyntaf i Erddi Linda Vista y Fenni ennill y clod; a dyfarnwyd gwobr dreftadaeth arbennig i Gastell Cil-y-coed.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Gwobr y Faner Werdd sy\u2019n cael ei chydnabod yn rhyngwladol yn dathlu\u2019r parciau a\u2019r mannau gwyrdd hynny sy\u2019n cael eu rheoli\u2019n dda ac yn cynnig profiadau uchel eu hansawdd i ymwelwyr yn ogystal \u00e2 rhagoriaeth o ran rheoli amgylcheddol, cynnwys y gymuned a chynnal a chadw.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cyflawniad eleni yn sylweddol i Erddi Linda Vista, sydd wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed hefyd wedi sicrhau statws Gwobr y Faner Werdd yn ogystal \u00e2 chael ei gydnabod ag Achrediad Safle Treftadaeth Werdd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/07\/greenflag-2-26.jpeg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/07\/greenflag-2-26-768x1024.jpeg\" alt=\"\" class=\"wp-image-222146\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Achrediad Safle Treftadaeth Werdd yn cydnabod mannau gwyrdd hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol sy\u2019n dangos rhagoriaeth o ran amddiffyn a diogelu treftadaeth, a dod \u00e2 hi yn fyw i ymwelwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Ledled Sir Fynwy, dyfarnwyd Gwobrau\u2019r Faner Werdd hefyd i:<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Parc Gwledig Rogiet \u2013 sydd wedi derbyn gwobr er 2024<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Hen Orsaf Tyndyrn \u2013 sydd wedi derbyn gwobr er 2009<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed, a gafodd ei anrhydeddu er 2013<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Dolydd y Castell yn Y Fenni, er 2014<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd 12 Safle Cymunedol arall eu cydnabod gyda Gwobr y Faner Werdd, yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Parc Bailey<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Gardd Busy Bees<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Dolydd Caerwent<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Gardd Gymunedol Cil-y-coed<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 D\u00f4l Crug<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Rhandiroedd Crucornau<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Gardd Gymunedol Goetre<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Incredible Edible, Brynbuga<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Perllan Gymunedol Laurie Jones<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Parc Maerdy<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Rogiet \u2013 Pentref Ystyriol o Fywyd Gwyllt<\/p>\n\n\n\n<p>\u00b7 Cornfield<\/p>\n\n\n\n<p>Cadwch Gymru\u2019n Daclus sy\u2019n gweinyddu rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth arbenigwyr annibynnol yn y maes mannau gwyrdd rhoi eu hamser o\u2019u gwirfodd i werthuso\u2019r ymgeiswyr yn \u00f4l rhestr o feini prawf trwyadl, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol. I weld rhestr lawn o enillwyr Gwobrau\u2019r Faner Werdd eleni, ewch i www.keepwalestidy.cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd y Cyng. Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: \u201cMae gennym gymaint o fannau gwyrdd ac atyniadau gwych ledled Sir Fynwy.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r newyddion bod Castell Cil-y-coed wedi cyflawni\u2019r Achrediad Safle Treftadaeth Werdd yn dangos ein hymrwymiad parhaus i warchod amgylcheddau naturiol a hanesyddol Sir Fynwy a\u2019u gwella.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwy\u2019n ymfalch\u00efo\u2019n fawr yn y ffaith fod holl waith caled y gwirfoddolwyr a chydweithwyr yma yn Sir Fynwy wedi cael ei gydnabod unwaith eto gyda\u2019r Gwobrau\u2019r Faner Werdd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a\u2019r Amgylchedd: \u201cBraf iawn yw gweld bod cymaint o\u2019n lleoliadau hyfryd yn Sir Fynwy, sydd yn sir mor brydferth, wedi derbyn gwobrau eleni.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019n wych bod safleoedd fel Hen Orsaf Tyndyrn a Dolydd y Castell yn Y Fenni wedi cael eu cydnabod \u00e2 gwobrau\u2019r Faner Werdd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru\u2019n Daclus:\u202f\u201cRydym yn falch iawn o weld cymaint o fannau gwyrdd yn Sir Fynwy yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau\u2019r Faner Werdd eleni. \u201cO barciau blaenllaw, llynnoedd a chamlas i erddi cymunedol a pherllannau, mae\u2019n amlwg bod y sir yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod mannau gwyrdd o bob math yn cyrraedd y safonau uchaf fel y gall pawb fynd ati i\u2019w mwynhau.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o gyhoeddi bod nifer o\u2019i barciau, atyniadau a mannau gwyrdd cymunedol yn chwifio\u2019r Faner Werdd arobryn unwaith eto. Dyma\u2019r tro cyntaf i Erddi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":37201,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-37202","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37202","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=37202"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37202\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":37203,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/37202\/revisions\/37203"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/37201"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=37202"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=37202"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=37202"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}