{"id":36966,"date":"2026-06-25T16:54:50","date_gmt":"2026-06-25T15:54:50","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=36966"},"modified":"2026-06-25T17:05:12","modified_gmt":"2026-06-25T16:05:12","slug":"buddsoddi-yng-nghanolfan-hamdden-cil-y-coed-i-wella-iechyd-a-llesiant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/buddsoddi-yng-nghanolfan-hamdden-cil-y-coed-i-wella-iechyd-a-llesiant\/","title":{"rendered":"Buddsoddi yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed i wella iechyd a llesiant"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo buddsoddiad newydd yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed, i gefnogi cyfleusterau gwell a ffyrdd iachach o fyw yn ne\u2019r sir.<\/p>\n\n\n\n<p>Cymeradwywyd y buddsoddiad yng nghyfarfod llawn y cyngor, ddydd Iau, 25 Mehefin 2026. Bydd y gwaith yn cynnwys adnewyddu ac ail-gyflunio\u2019r ystafell ffitrwydd ar y llawr cyntaf, i greu man modern, hygyrch a chroesawgar i drigolion.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y cynllun gwerth \u00a3601,429 yn trawsnewid y gampfa bresennol drwy amnewid offer sydd wedi gweld dyddiau gwell, gwella\u2019r cynllun a\u2019r capasiti, a phrofiad y cwsmer yn gyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l ei huwchraddio, bydd y ganolfan yn cynnwys ystafell ffitrwydd newydd \u00e2 40 man ymarfer, stiwdios a mannau gweithgareddau wedi\u2019u huwchraddio, ac i wella hygyrchedd mi fydd offer cynhwysol, toiledau, goleuadau a lloriau newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r buddsoddiad hwn yn ymateb i\u2019r adborth a gafwyd gan ddefnyddwyr, ac mae\u2019n cydnabod yr angen i foderneiddio cyfleusterau a welodd ychydig iawn o uwchraddio dros amser. Mae Canolfan Hamdden Cil-y-coed yn ased cymunedol allweddol, sy\u2019n cefnogi pobl i gadw\u2019n actif, gwella llesiant a lleihau ynysu cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect yn adeiladu ar ystod o welliannau diweddar ar y safle, gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd newydd, cae 3G newydd, uwchraddio\u2019r stiwdio sbin, a gwelliannau i\u2019r fynedfa a\u2019r dderbynfa.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect yn rhan o raglen fuddsoddi ehangach ledled Cil-y-coed. Mae\u2019n cynnwys cynigion ar gyfer parc sglefrio newydd, gwelliannau i\u2019r system adfer d\u0175r, creu llwybr aml-ddefnydd drwy\u2019r parc gwledig, a chynlluniau sydd ar y gorwel i wella canol trefi. Mae hyn yn gysylltiedig \u00e2\u2019r cynllun creu lleoedd, sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad diweddar i\u2019r cyngor, mewn partneriaeth \u00e2 Chyngor Tref Cil-y-coed.<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda\u2019i gilydd, mae\u2019r datblygiadau hyn yn dangos ymrwymiad hirdymor y cyngor i gryfhau cyfleusterau lleol, creu mannau croesawgar, a chefnogi cymunedau iachach, mwy egn\u00efol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles , Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: \u201cMae\u2019r buddsoddiad hwn yn gam pwysig i wella cyfleusterau i drigolion Cil-y-coed a\u2019r ardal gyfagos. Wrth foderneiddio\u2019r ganolfan hamdden a pharhau i fuddsoddi ar draws y dref, rydym yn creu mannau cynhwysol, hygyrch sy\u2019n cefnogi pobl i gadw\u2019n actif, teimlo bod ganddynt gysylltiad, a gwella eu llesiant.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r gwelliannau hyn yn rhan o\u2019n hymrwymiad ehangach i gryfhau cymunedau a sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau i fod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" data-id=\"36969\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Caldicot-LC-artist-impression-2-1024x768.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-36969\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Caldicot-LC-artist-impression-2-1024x768.png 1024w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Caldicot-LC-artist-impression-2-300x225.png 300w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Caldicot-LC-artist-impression-2-768x576.png 768w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Caldicot-LC-artist-impression-2.png 1105w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Darluniad artistig<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"796\" data-id=\"36965\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Caldicot-LC-artist-impression-1024x796.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-36965\" srcset=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Caldicot-LC-artist-impression-1024x796.png 1024w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Caldicot-LC-artist-impression-300x233.png 300w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Caldicot-LC-artist-impression-768x597.png 768w, https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/06\/Caldicot-LC-artist-impression.png 1103w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Darluniad artistig<\/figcaption><\/figure>\n<\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo buddsoddiad newydd yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed, i gefnogi cyfleusterau gwell a ffyrdd iachach o fyw yn ne\u2019r sir. Cymeradwywyd y buddsoddiad yng nghyfarfod llawn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":36965,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-36966","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/36966","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=36966"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/36966\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":36970,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/36966\/revisions\/36970"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/36965"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=36966"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=36966"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=36966"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}