{"id":36377,"date":"2026-04-01T13:46:56","date_gmt":"2026-04-01T12:46:56","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=36377"},"modified":"2026-04-01T13:48:03","modified_gmt":"2026-04-01T12:48:03","slug":"sir-fynwy-yn-dathlu-creadigrwydd-mewn-dathliad-diwylliannol-a-digwyddiad-rhwydweithio","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/sir-fynwy-yn-dathlu-creadigrwydd-mewn-dathliad-diwylliannol-a-digwyddiad-rhwydweithio\/","title":{"rendered":"Sir Fynwy yn dathlu creadigrwydd mewn Dathliad Diwylliannol a Digwyddiad Rhwydweithio"},"content":{"rendered":"\n<p>Ddydd Mercher, 25 Mawrth 2026, daeth pobl greadigol, partneriaid a sefydliadau cymunedol at ei gilydd ar gyfer Dathliad Diwylliannol a Digwyddiad Rhwydweithio Sir Fynwy yn Borough Theatre, y Fenni.<\/p>\n\n\n\n<p>Llwyddodd y digwyddiad i arddangos y gweithgareddau diwylliannol amrywiol yn Sir Fynwy a hwyluso trafodaethau am bwysigrwydd creadigrwydd wrth gryfhau cymunedau a chefnogi\u2019r economi leol.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/03\/Monmouthshire-Cultural-Celebration-and-Networking-Event-1-scaled.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/03\/Monmouthshire-Cultural-Celebration-and-Networking-Event-1-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-218724\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Croesawyd y dorf gan arddangosfa fywiog gyda cherddwyr stiltiau a pherfformiad dawns wedi\u2019i ysbrydoli gan Ddeallusrwydd Artiffisial gan bobl ifanc o DanceBlast, i osod t\u00f4n egn\u00efol ar gyfer y digwyddiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r uchafbwyntiau oedd lansio\u2019r Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Sir Fynwy 2025-2035, sy\u2019n amlinellu cynllun yn llawn gweledigaeth ar gyfer y degawd nesaf. Mae\u2019r strategaeth hon yn pwysleisio nad yw diwylliant yn ymdrech ynysig, ond ei fod, yn hytrach, yn sbardun allweddol ar gyfer llesiant, twf economaidd, cydnerthedd cymunedol, a chyd-hunaniaeth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/03\/Monmouthshire-Cultural-Celebration-and-Networking-Event-3.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/03\/Monmouthshire-Cultural-Celebration-and-Networking-Event-3-1024x577.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-218725\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Roedd y digwyddiad hefyd yn gyflwyniad i\u2019r Rhaglen Blwyddyn Darllen Genedlaethol, gyda\u2019r awdur arobryn Bethany Handley, a fu\u2019n darllen ddetholiad o\u2019i llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi, sef My Body is a Meadow.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y cyflwyniadau yn ystod y dydd yn tynnu sylw at brosiectau creadigol amrywiol, gan gynnwys arddangosfeydd celf a chynyrchiadau theatr, gyda ffocws cryf ar ymgysylltu \u00e2 ieuenctid trwy fentrau fel Dyfodol Creadigol ac Improv Stars Academy.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><a href=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/03\/Monmouthshire-Cultural-Celebration-and-Networking-Event-4-1.jpg\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.monmouthshire.gov.uk\/app\/uploads\/2026\/03\/Monmouthshire-Cultural-Celebration-and-Networking-Event-4-1-1024x577.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-218726\"\/><\/a><\/figure>\n\n\n\n<p>Roedd trafodaeth banel Holi ac Ateb, dan arweiniad Anita Holford, yn mynd i\u2019r afael \u00e2 chyfleoedd am nawdd i bobl greadigol yn Sir Fynwy, gyda mewnwelediadau gan gynrychiolwyr o Gyngor Celfyddydau Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, a Chyngor Tref y Fenni.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Tracey Thomas, Pennaeth Diwylliant, Dysgu Cymunedol a Digwyddiadau: \u201cMae lansio ein Strategaeth Ddiwylliannol yn foment falch i Sir Fynwy. Mae\u2019n adlewyrchu\u2019r creadigrwydd anhygoel sy\u2019n bodoli ar draws ein cymunedau a\u2019n cyd-uchelgais i sicrhau bod diwylliant yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol y sir; cryfhau cymunedau, cefnogi\u2019r economi leol ac ysbrydoli cenedlaethau\u2019r dyfodol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRoedd yn arbennig o galonogol gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan a chlywed yn uniongyrchol gan bobl greadigol am y cyfleoedd a\u2019r heriau maen nhw\u2019n eu hwynebu. Mae digwyddiadau fel hyn yn ein helpu i feithrin cysylltiadau cryfach, rhannu gwybodaeth a sicrhau bod cymorth yn hygyrch ar draws y sector.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>I gael rhagor o wybodaeth am y Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Sir Fynwy, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk\/policies-and-plans\/<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ddydd Mercher, 25 Mawrth 2026, daeth pobl greadigol, partneriaid a sefydliadau cymunedol at ei gilydd ar gyfer Dathliad Diwylliannol a Digwyddiad Rhwydweithio Sir Fynwy yn Borough Theatre, y Fenni. Llwyddodd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":36378,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-36377","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/36377","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=36377"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/36377\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":36379,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/36377\/revisions\/36379"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/36378"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=36377"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=36377"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=36377"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}