{"id":35760,"date":"2026-01-05T14:59:09","date_gmt":"2026-01-05T14:59:09","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=35760"},"modified":"2026-01-05T14:59:17","modified_gmt":"2026-01-05T14:59:17","slug":"pont-a-dolenni-teithio-llesol-trefynwy-gwy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/pont-a-dolenni-teithio-llesol-trefynwy-gwy\/","title":{"rendered":"Pont a Dolenni Teithio Llesol Trefynwy Gwy"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio ar gynllun strategol i wella darpariaeth teithio llesol rhwng Trefynwy a Wyesham. Mae ffocws y cynllun ar ddarparu pont gerdded a seiclo newydd i fyny\u2019r afon o Bont Gwy rhwng Trefynwy a Wyesham, gyda llwybrau ymlaen i ganol y ddwy gymuned. Bydd y bont newydd yn rhoi prif lwybr i ganol tref Trefynwy a\u2019r ysgol uwchradd ar gyfer preswylwyr Wyesham ac ar draws campws Ysgol Trefynwy, wedi\u2019i rannu rhwng dwy ochr yr afon.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:10px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img fetchpriority=\"high\" decoding=\"async\" width=\"503\" height=\"321\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Monmouth-Wyesham-overview-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-35761\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Llun: Llif teithio llesol Trefynwy a Wyesham (arolwg llwybr defnyddwyr 2019)<\/em><\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pa newid ydyn ni\u2019n disgwyl ei weld?<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwella cysylltedd a hygyrchedd ar gyfer tripiau teithio llesol yn a rhwng Trefynwy a Wyesham<\/li>\n\n\n\n<li>Gwell lefelau gwirioneddol a thybiedig o ddiogelwch personol wrth gerdded a seiclo<\/li>\n\n\n\n<li>Hyrwyddo teithio cynaliadwy fel bod yn ddeniadol a diogel yn Nhrefynwy a Wyesham.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<div style=\"height:10px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Problemau a ddynodwyd ar gyfer teithio llesol rhwng Trefynwy a Wyesham<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Pont Gwy hanesyddol Trefynwy yn ddolen hanfodol rhwng Wyesham, Fforest y Ddena a Dyffryn Gwy, a Threfynwy a\u2019r A40, dolen ffordd strategol rhwng De Cymru a Chanolbarth Lloegr. Mae\u2019r ffyrdd sy\u2019n bwydo traffig ar draws y bont yn cario cerbydau trwm a llawer o draffig, gan mai dyma\u2019r prif groesiad afon am sawl milltir yn y ddau gyfeiriad. Mae hyn yn effeithio ar lwybrau y naill ochr a\u2019r llall o\u2019r bont, Pont Teithio Llesol Mynwy Gwy, Hen Heol Dixton a Wyesham Links.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cymuned Wyesham yn dioddef o fynediad cyfyngedig ac anodd i\u2019r ysgol uwchradd, siopau a gwasanaethau yn Nhrefynwy oherwydd bod y seilwaith presennol o amgylch yr A40 ac Afon Gwy wedi ei gwahanu yn ymarferol. Mae preswylwyr Trefynwy, Wyesham a Fforest y Ddena yn defnyddio\u2019r bont yn ddyddiol i deithio i\u2019r gwaith neu\u2019r ysgol ar ddwy ochr yr afon. Mae\u2019n rhaid i dripiau lleol gan gerbydau ddefnyddio system un-ffordd gylchol, mewn rhwydwaith sy\u2019n agored i dagfeydd, ond nid yw\u2019r bont hanesyddol yn rhoi llwybr diogel na dymunol ar gyfer tripiau byr heb gar, yn arbennig ar gyfer y rhai sy\u2019n defnyddio cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd neu\u2019n cerdded gyda chadeiriau gwthio neu blant bach. Ni chaniateir seiclo ar y droedffordd, ond nid oes unrhyw ddarpariaeth i seiclwr symud rhwng y llwybr tanffordd a\u2019r ffordd lle mae angen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Pont Gwy yn Nhrefynwy yn adeilad gyda rhestriad Gradd II, a ddiogelir am ei harwyddoc\u00e2d hanesyddol a phensaern\u00efol. Canfu asesiad o\u2019r bont ffordd ei bod yn anaddas fel llwybr teithio llesol. Mae\u2019r palmant yn gul ac mae cerbydau nwyddau trwm yn aml yn mynd ar y palmant oherwydd y ffordd gerbydau gul, ac ni ellir newid ei strwythur oherwydd ei statws treftadaeth.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:10px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"470\" height=\"248\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Wye-Bridge-traffic-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-35762\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Llun: Traffig cerbydau trwm ar Bont Gwy yn agos iawn at blant ysgol<\/em><\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Nod y cynllun llawn yw:<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Adeiladu pont un rhychwant 3.8m o led ar gyfer cerdded a seiclo i fyny\u2019r afon i\u2019r Bont Gwy bresennol gyda goleuadau lefel isel<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu llwybrau cyswllt yn Wyesham a Hen Heol Dixton ar y naill ochr a\u2019r llall i\u2019r bont teithio llesol<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu dolen gerdded gydlynol, uniongyrchol, diogel, cysurus a deniadol rhwng Wyesham a Threfynwy<\/li>\n\n\n\n<li>Cael effaith gadarnhaol ar ddiogelwch gwirioneddol a thybiedig cerddwyr, seiclwyr a defnyddwyr cadair olwyn ar hyd ac ar draws ardal yr astudiaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Budd net i ecoleg<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Pont Teithio Llesol Mynwy Gwy<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Cafodd pont ar wah\u00e2n ar gyfer cerddwyr a seiclwyr dros yr Afon Gwy yn Nhrefynwy ei chynnig yn wreiddiol fel llwybr hamdden. Yn dilyn Deddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a chydnabyddiaeth o swyddogaeth y croesiad hwn ar gyfer teithiau teithio llesol yn ogystal ag ar gyfer hamdden, cafodd y syniad ei ddatblygu dan weithgor \u2018Gr\u0175p y Bont\u2019 Gr\u0175p Teithio Llesol Cyngor Tref Trefynwy, gyda rhanddeiliaid yn cynnwys Cyngor Sir Fynwy, Ysgol Bechgyn Trefynwy, Ysgol Gyfun Trefynwy, ysgolion cynradd lleol, clybiau rhwyfo, seiclo a cherdded lleol a Sustrans.<\/p>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd astudiaeth WELtag yn 2019 i ymchwilio\u2019r problemau cyfredol a chanfod datrysiadau posibl. Awgrymodd yr adroddiad nifer o opsiynau yn cynnwys lledu\u2019r palmant presennol, ychwanegu troedffordd gantilifrog i\u2019r bont bresennol yn ogystal \u00e2 phont gerdded a seiclo newydd. Dewiswyd yr opsiwn o adeiladu pont gerdded a seiclo ar wah\u00e2n i fyny\u2019r afon i\u2019r Bont Gwy hanesyddol fel y dewis gorau i fynd ymlaen ag ef yn seiliedig ar roi sg\u00f4r i effaith gadarnhaol bosibl y cynnig ar deithio llesol a\u2019r rhwydwaith trafnidiaeth lleol, effaith negyddol isel yn ystod y gwaith adeiladu ac ar y bont dreftadaeth gyfagos, gwerth am arian a\u2019r gallu i gyflawni.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Datblygu cynllun pont<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<div style=\"height:10px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img decoding=\"async\" width=\"602\" height=\"239\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Wye-bridge-impression-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-35763\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Llun: Argraff artist o Groesiad Teithio Llesol Mynwy Gwy<\/em><\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Rhwng 2020 a 2024, yn dilyn astudiaeth WelTAG, defnyddiodd Cyngor Sir Fynwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i ddatblygu dyluniad y bont a llwybrau cyswllt y naill ochr a\u2019r llall i\u2019r afon, ynghyd \u00e2\u2019r caniat\u00e2d cynllunio angenrheidiol, astudiaethau a chaniat\u00e2d ecolegol ac arolygon tir yn ogystal \u00e2 datblygu cynlluniau Wyesham Links a Hen Heol Dixton sy\u2019n ffurfio\u2019r cysylltiadau ar ymlaen y naill ochr a\u2019r llall i\u2019r bont arfaethedig. Mae cyllid cyfyngedig a phroblemau tir wedi golygu y bu\u2019r cynnydd yn arafach nag a ddymunid. Cafodd Pont Teithio Llesol Gwy ganiat\u00e2d cynllunio gydag amodau ddechrau 2014. Gellir gweld fideo o\u2019r bont arfaethedig yma:<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:10px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe title=\"Wye Bridge Visualisation  - Active Travel proposals Monmouth\/Wyesham\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/KUmMFQecu80?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Defnyddiodd Cyngor Sir Fynwy gyllid craidd y Gronfa Teithio Llesol i gynnal cynnydd ar y cynllun yn 2024-25. Roedd hyn yn cynnwys arolygon ecoleg a monitro, negodi tir, gwiriadau categori II (archwiliad annibynnol o\u2019r dyluniad), ymgyfraniad cynnar gan gontractwyr a dyluniad manwl o\u2019r gwaith a gwaith i baratoi\u2019r safle, tebyg i lwybrau mynediad a symud cyfleustodau. Cafodd y cynllun ei gynnwys yng Nghynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel un o gynlluniau Teithio Llesol strategol Sir Fynwy.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Wyesham Links<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Amcanion cynllun Wyesham Links<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Darparu rhwydwaith cerdded a seiclo uniongyrchol, cydlynol, cysurus a diogel yn addas ar gyfer pob defnyddiwr<\/li>\n\n\n\n<li>Cynyddu lefelau mynediad cynaliadwy i addysg, cyflogaeth, iechyd a gwasanaethau allweddol eraill<\/li>\n\n\n\n<li>Gwella diogelwch gwirioneddol a thybiedig defnyddwyr agored i niwed<\/li>\n\n\n\n<li>Cynyddu nifer y bobl sy\u2019n cerdded ac yn seiclo rhwng Wyesham a chanol tref Trefynwy<\/li>\n\n\n\n<li>Gostwng dibyniaeth a defnydd ceir ar gyfer tripiau byr rhwng Wyesham a chanol tref Trefynwy drwy newid dulliau teithio<\/li>\n\n\n\n<li>Gostwng effeithiau negyddol trafnidiaeth ar yr amgylchedd naturiol ac adeiledig<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Problemau a ddynodwyd yn Wyesham<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Lefel uchel o draffig, gyda chyfran sylweddol o gerbydau nwyddau trwm a thraffig cyflym, yn gysylltiedig \u00e2\u2019r ffordd ddeuol a ffyrdd bwydo cyfagos a diffyg darpariaeth digonol ar gyfer defnyddio dulliau trafnidiaeth eraill ar gyfer tripiau lleol, byr<\/li>\n\n\n\n<li>Diffyg cyfleusterau croesi i gerddwyr a mannau gwasgu ar y droedffordd bresennol<\/li>\n\n\n\n<li>Cyffyrdd ochr llydan ac angen tynhau radiysau cyffyrdd i ostwng gwrthdaro gyda defnyddwyr ffordd agored i niwed<\/li>\n\n\n\n<li>Angen cyrbau isel a phalmentydd botynnog ar rai cyffyrdd ochr<\/li>\n\n\n\n<li>Diffyg arwyddion<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ymyriadau a gynigir\u00a0 &#8211; \u00a0Wyesham Links<\/strong><\/h2>\n\n\n\n<p>Arweiniodd cyfres o astudiaethau o ddefnydd llwybrau ac ymyriadau posibl yn ardal Wyesham ar ddatblygu cysyniad troedffordd i gerddwyr yn unig o gylchfan Mayhill hyd at gyffordd Wyesham Road a Wyesham Avenue, gyda darpariaeth seiclo i fod ar y ffordd yn defnyddio egwyddor Strydoedd Tawel, yna, o gyffordd Wyesham Avenue a Wyesham Road i Ysgol Gynradd Kymin View, cyfleuster rhannu defnydd yn defnyddio\u2019r droedfordd lydan sy\u2019n bosibl ar hyd yr adran hon.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:10px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n\n<div data-wp-interactive=\"core\/file\" class=\"wp-block-file aligncenter\"><object data-wp-bind--hidden=\"!state.hasPdfPreview\" hidden class=\"wp-block-file__embed\" data=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/WYE-WSP-00-XX-DR-C-0001-P02-Design-Concept-Plan-Issued-10.10.24-1.pdf\" type=\"application\/pdf\" style=\"width:100%;height:600px\" aria-label=\"Mewnblaniad WYE-WSP-00-XX-DR-C-0001 P02 - Design Concept Plan - Issued 10.10.24.\"><\/object><a id=\"wp-block-file--media-ef80c6fe-c8ce-435f-950a-d25d0c5de190\" href=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/WYE-WSP-00-XX-DR-C-0001-P02-Design-Concept-Plan-Issued-10.10.24-1.pdf\">WYE-WSP-00-XX-DR-C-0001 P02 &#8211; Design Concept Plan &#8211; Issued 10.10.24<\/a><a href=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/WYE-WSP-00-XX-DR-C-0001-P02-Design-Concept-Plan-Issued-10.10.24-1.pdf\" class=\"wp-block-file__button wp-element-button\" download aria-describedby=\"wp-block-file--media-ef80c6fe-c8ce-435f-950a-d25d0c5de190\">Download<\/a><\/div>\n\n\n\n<p><em>Llun: Cynllun cysyniad dyluniad ar gyfer cynllun Wyesham Links<\/em><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cynllun Hen Heol Dixton<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Amcanion cynllun Hen Heol Dixton<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Bydd y llwybr teithio llesol arfaethedig yn rhedeg o Lyfrgell Trefynwy ar hyd yr A466 i lle mae\u2019n ymuno \u00e2 Hen Heol Dixton, i\u2019r dwyrain ar hyd Hen Heol Dixton am tua 250m ac wedyn yn mynd drwy\u2019r danffordd dan yr A40 i Glwb Rhwyfo Trefynwy lle bydd yn ymuno \u00e2 llwybr presennol sy\u2019n rhedeg i\u2019r gogledd ddwyrain ar hyd yr afon.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cynyddu nifer teithwyr llesol yn Nhrefynwy drwy wneud y llwybr ar hyd Hen Heol Dixton ac o lannau\u2019r Afon Gwy yn fwy addas a deniadol i gerddwyr a seiclwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Gwelliannau ar gyffyrdd a mannau croesi allweddol<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau gwelliannau amgylcheddol i\u2019r ardal drwy annog newid dulliau teithio o geir i ddulliau llesol, gan ostwng cerbydau segur, gwella llif traffig a seilwaith i wneud y llwybr yn fwy deniadol a gostwng traffig ceir<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Problemau a ddynodwyd yn Hen Heol Dixton\/o amgylch Ysgol Gyfun Trefynwy<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae seilwaith ffyrdd hanesyddol a phrysur a throedffyrdd cul yn creu llwybr anneniadol ac anghydlynus ar gyfer teithio llesol. Cafodd gwelliannau eu gwneud i\u2019r ardal gydag adeiladu ysgol a chanolfan hamdden newydd, ond mae darpariaeth troedffordd wael a lled cyfyngedig ger tafarn y Nags Head yn dal i greu problemau ar gyfer teithio llesol ar hyd y llwybr.<\/p>\n\n\n\n<div style=\"height:10px\" aria-hidden=\"true\" class=\"wp-block-spacer\"><\/div>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"406\" height=\"268\" src=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/wp-content\/uploads\/2026\/01\/Old-dixton-road-scheme-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-35765\" style=\"aspect-ratio:1.5149553961868112;width:409px;height:auto\"\/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Llun: Llwybr Cynllun Hen Heol Dixton<\/em><\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ymyriadau arfaethedig \u2013 Hen Heol Dixton<\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cynllun yn cynnig gwelliannau graddfa fach i ddarpariaeth teithio llesol ar hyd Hen Heol Dixton o Lyfrgell a Hyb Trefynwy i danffordd yr Afon Gwy, er mwyn cynnal a chynyddu lefelau cerdded a seiclo i\u2019r ysgol gyfun, y ganolfan hamdden, busnesau a chyfleusterau cymunedol eraill a gaiff eu gwasanaethu gan y llwybr.<\/p>\n\n\n\n<p>I gael mwy o wybodaeth ar waith Cyngor Sir Fynwy yn Nhrefynwy, gweler \u00a0<a href=\"https:\/\/www.monlife.co.uk\/outdoor\/active-travel\/monmouth\/\">Trefynwy \u2013 Monlife<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio ar gynllun strategol i wella darpariaeth teithio llesol rhwng Trefynwy a Wyesham. Mae ffocws y cynllun ar ddarparu pont gerdded a seiclo newydd i [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":15,"featured_media":35763,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[86],"tags":[],"class_list":["post-35760","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-active-travel-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/35760","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/15"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=35760"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/35760\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/35763"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=35760"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=35760"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=35760"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}