{"id":34352,"date":"2025-08-01T14:57:03","date_gmt":"2025-08-01T13:57:03","guid":{"rendered":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/?p=34352"},"modified":"2025-08-01T15:46:07","modified_gmt":"2025-08-01T14:46:07","slug":"mae-cyngor-sir-fynwy-eisiau-adborth-y-cyhoedd-ar-lwybr-teithio-llesol-newydd-yng-nghil-y-coed","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/mae-cyngor-sir-fynwy-eisiau-adborth-y-cyhoedd-ar-lwybr-teithio-llesol-newydd-yng-nghil-y-coed\/","title":{"rendered":"Mae Cyngor Sir Fynwy eisiau adborth y cyhoedd ar lwybr teithio llesol newydd yng Nghil-y-coed"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Cyngor Sir Fynwy yn datblygu cynlluniau ar gyfer llwybr Teithio Llesol newydd sy\u2019n mynd drwy ran o Barc Gwledig Castell Cil-y-coed.<\/p>\n\n\n\n<p>Nod Llwybr Aml-ddefnyddiwr Cil-y-coed yw cysylltu llwybr Teithio Llesol Cysylltiadau Cil-y-coed\/Llwybr Glas sydd newydd ei adeiladu \u00e2 ffordd wasanaeth tarmac y Parc Gwledig, gan greu llwybr hygyrch a thawel i gerddwyr, beicwyr a phobl sy\u2019n teithio o gwmpas o Borthsgiwed i ganol tref Cil-y-coed.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r llwybr wedi\u2019i gynllunio i annog mwy o bobl i ddewis teithio llesol ar gyfer teithiau bob dydd, gan helpu i leihau traffig, gwella ansawdd aer a chefnogi ffyrdd o fyw iachach. Bydd hefyd yn gwella mynediad i\u2019r Parc Gwledig, gan ei gwneud hi\u2019n haws i drigolion ac ymwelwyr fwynhau treftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cyngor nawr eisiau clywed gan drigolion i gasglu syniadau ar gyfer y llwybr.<\/p>\n\n\n\n<p>Hoffai Cyngor Sir Fynwy glywed gennych os ydych chi\u2019n byw yng Nghil-y-coed, Porthsgiwed, Sudbrook, Rogiet, Caerwent a\u2019r ardaloedd cyfagos. Ein nod yw cyrraedd defnyddwyr presennol a defnyddwyr newydd posibl llwybrau teithio llesol yn yr ardal i ddarganfod beth hoffech chi ei weld ar hyd y llwybr.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch gyflwyno eich syniadau drwy gymryd rhan yn arolwg ar-lein y prosiect, a fydd yn cael ei gynnal drwy gydol mis Awst, ac sydd ar gael yn y cyfeiriad gwe canlynol:&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk\/\">www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk\/<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr arolwg ar gael ar-lein am bedair wythnos rhwng 1af Awst a\u2019r 31ain Awst.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal dau ddiwrnod galw heibio cyhoeddus lle gallwch weld cop\u00efau caled o\u2019r cynlluniau, siarad ag aelodau o d\u00eem y prosiect a gadael sylwadau, a hynny ar y dyddiau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>11am\u00a0i\u00a04pm, dydd Sul 10fed Awst 2025, ym Mharc Gwledig Castell Cil-y-coed<\/li>\n\n\n\n<li>9am\u00a0i\u00a05pm, dydd Llun 11eg Awst 2025, yng Nghanolfan Hamdden Cil-y-coed<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l i\u2019r cyfnod ymgynghori cyhoeddus ddod i ben, bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi, a bydd adroddiad yn cael ei greu ac ar gael i\u2019r cyhoedd ar y dudalen we a nodir uchod.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: \u201cMae hwn yn gam cyffrous arall i wella llwybrau ar gyfer cerdded a theithio ar draws Glan Hafren.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwyf eisoes yn clywed pa mor bwysig yw\u2019r Llwybr Gwyrdd newydd i rieni \u00e2 phlant ar sgwteri ac mewn cadeiriau gwthio a defnyddwyr sgwteri symudedd, ymhlith eraill.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae llawer o waith wedi\u2019i wneud i ddylunio cam nesaf y llwybr, gan ei wneud yn hygyrch ac yn apelgar wrth barchu ecoleg ac archaeoleg unigryw Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydym sicrhau bod pob dim yn gywir, ac felly, rydym yn annog pob preswylydd i edrych ar y cynlluniau a dweud eich dweud. Os oes gennych syniadau, rydym am eu clywed.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cyngor Sir Fynwy yn datblygu cynlluniau ar gyfer llwybr Teithio Llesol newydd sy\u2019n mynd drwy ran o Barc Gwledig Castell Cil-y-coed. Nod Llwybr Aml-ddefnyddiwr Cil-y-coed yw cysylltu llwybr Teithio [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":34350,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[4],"tags":[],"class_list":["post-34352","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/34352","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=34352"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/34352\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/34350"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=34352"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=34352"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.monlife.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=34352"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}